Cymharol ychydig o bobl M么n oedd yn gwybod amdano ond roedd yn adnabyddus i bobl yn Ffrainc, yr Almaen, Isalmaen, Eidal, Sbaen, Portiwgal, Canada, De Amerig, Awstralia, India a Lloegr.
Ganed Fred Lowes yn Sunderland ddechrau'r ganrif ddiwethaf ac
yn fachgen ifanc 13 oed cafodd gweld campau A. D. Robbins a'i
feic un olwyn effaith wefreiddiol arno. Fred oedd y cyntaf i ymateb
i sialens i fynd ar y llwyfan i roi cynnig at reidio Bucking Bronco, beic hynod o anodd i'w feistrioli. Roedd ymdrech Fred cystal fel i Robbins gynnig prentisiaeth iddo. "Na", oedd ymateb cyntaf mam Fred, ond o'r diwedd rhoddodd ei chaniat芒d.
Meistr caled oedd Robbins a'i gyflog yn brin, ond gwelodd Fred
y Byd a daeth yn rhugl yn Ffrangeg ac Almaeneg. Er iddi gymryd
blynyddoedd lawer iddo feistrioli'r beic un-olwyn yn llwyr a chadw'r gytbwysedd dechreuodd wneud triciau fel mynd i fyny ac i lawr grisiau, troi fel top a jyglo chwech o beli.
Yn ystod ei deithiau bu'n diddanu tad Prince Rainier yn Monaco, perfformio i
blant Mussolini a hyd yn oed cyfarfod a Hitler pan oedd hwnnw'n treulio tymor yn y carchar, sbel o amser cyn y rhyfe1.
Wrth ddod adref o Dde America unwaith y cyflawnodd ei gamp anhygoel. Derbyniodd sialens i fynd ar ei feic o amgylch corn uchel y llong ac mae'r llun yn profi'r weithred. Cafodd yr enw The Human Gyroscope. Roedd ei gampau mor anodd fel y byddai'n methu weithiau ac fe gafodd sawl codwm o'r llwyfan i ganol y gerddorfa!
Ef oedd y cyntaf i gael ei weld yn perfformio ar y teledu yn 1931.
Cyfarfu Fred a'i briod, Rosa yng Nghaerdydd pan oedd hi'n dawnsio ar yr un llwyfan. Buont yn ymddangos fel deuawd ar lwyfannau lu - Fred oedd y comic a Rosa'r rhan glamorous!
Daeth y ddau i Rhydwyn i gartrefu oherwydd bod gwreiddiau Rosa yno, ond roeddynt yn parhau i grwydro. Mewn da bryd ganwyd Pat, ac ymddangosodd hi'n ddwyflwydd oed ar lwyfan y Tivoli Theatr yn Melbourne heb ganiat芒d ei rhieni a gafaelodd Fred ynddi a'i gwneud yn rhan o'i gamp nesaf! Yn ystod y rhyfel bu Fred a Rosa'n gweithio i ENSA.
Daeth y dyn bychan 5 troedfedd gyda'r
gwallt coch (Red Fred) yn un o bentrefwyr Rhydwyn a gwelid ef yn aml yn reidio'r beic
o'r pentref i'r Black yn Llanfaethlu.
Erbyn hyn roedd ei ferch, Pat wedi derbyn prentisiaeth ddi-feth ac yn 15 oed ymunodd 芒'i thad ac un tro pan drawyd ei thad yn wael bu' n rhaid iddi ymddangos ar ei phen ei hun. Cyn bo hir roedd hi ar yr un llwyfan a Tommy Cooper.
Yn awr mae Pat Schrafft yn byw yn Amlwch ac yn brysur yn hyfforddi ei theulu. Mae ei
merch, Michelle Mead yn gallu trafod y beic, Joe, Sam a Flynn, wyrion Pat yn
ymddiddori yng nghampau Fred a Pat, ac mae ganddi nai ifanc yn byw yn Llundain ac
yn dangos arwyddion o yrfa yn y cyfryngau.
Bu Fred farw yn 78 oed ac mae'n gorwedd ym Mynwent Eglwys Llanrhuddlad gyda'r neges yma ar ei garreg fedd - "In Memory of Red Fred, unicyclist, who took his final curtain on 2.2.82"