大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Huw Tudor yn Efrog Newydd Huw Tudor
Ebrill 2008
Ar drywydd William Penn a Goronwy Ddu o F么n
Trwy wahoddiad treuliodd yr actor Huw Tudor y Nadolig a diwedd blwyddyn 2007 yn America fel gwestai.
Bu'n aros yn Pennsylvania ag Efrog Newydd. Tra yn yr 'Afal Mawr', ymwelodd 芒 sawl man enwog gan gynnwys lleoliad '9/11', 5th Avenue, Central Park, adeilad yr Empire State, Canolfan Rockerfeler, a Broadway - ardal y theatrau, a chiniawa yng ngwesty enwog y Playwrights, lle mae actorion America, a Prydain sy'n ymddangos ar y llwyfannau yn ymlacio.

Tra ym Mhennsylvania, bu yn nhre' enwog Bethlehem, lle roedd, unwaith, waith dur mwyaf y byd. Bu hefyd ym Maenor Pennsbury, cartref William Penn, sefydlydd Pennsylvania a dinas Philladelphia.

Dros chwarter canrif yn 么l yn nrama gyfres teledu 大象传媒 Cymru, addasiad o nofel lwyddiannus Marion Eames, Y Rhandir Mwyn, Huw Tudor chwaraeodd ran Thomas Holme. Ef oedd y g诺r benododd Penn yn brif oruchwyliwr ac asiant ei stad yn Penn-Silvana bryd hynny.

Derbyniodd William Penn, yn 1682, dros ddeugain mil o aceri o dir yn America, ar lan yr afon Delaware, fel t芒l gan Frenin Lloegr, Siarl yr Ail, am ddyled a oedd arno i'w dad. Gwaith Thomas Holme, gyda'r holl hawl oedd rhannu'r tir, os oedd angen, i newydd-ddyfodiaid.

Crynwr oedd Penn, a thrwy hynny y derbyniodd mintai o Gymry dir, fel eiddo iddynt am byth. Crynwyr o ardal Dolgellau.

Bydd Huw Tudor yn dychwelyd i'r America fel gwestai, eto eleni, i ymweld 芒 Washington a Virginia. Tra'n Virginia mae'n gobeithio ymweld 芒 bedd 'Goronwy Ddu o F么n' - bardd mwyaf y ddeunawfed ganrif - Goronwy Owen. Claddwyd gweddillion 'Y Bardd Du' yn ei blanhigfa dybaco ei hun - ei eiddo.

Roedd teulu Dafarn Newydd Uchaf gynt, Llanfaethlu, drwy eu nain, Marged Hughes, Yr Orsedd, yn disgyn o deulu Goronwy Owen.

Nid yw Huw Tudor wedi gwneud gwaith yn y theatr yn ystod y chwe mlynedd diwethaf oherwydd anhwylder.

Yn ddiweddar cwblhaodd ddwy flynedd, trwy wahoddiad, yn eistedd ar Bwyllgor Gwyliadwrol Cyngor Bwrdeisdref Frenhinol Kensington a Chelsea. Mae hefyd yn gasglwr arian trwyddedig i Uned y Galon (Cardiac Unit), Ysbyty Great Ormond Street, i blant gwael, Llundain.

Mae Huw Tudor yn rhestredig mewn sawl bywgraffiad yn rhyngwladol ac yn America.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy