Trafod y bwgan a welwyd o Fynwent Bryngwran yn ystod yr haf oeddwn gyda Mr Hugh Jones, Tai Uchaf, Bodedern, wrth inni'n dau gael paned ddeg ym Mhreswylfa, Fali, a Hugh yn cau'r mwdwl gyda'r honiad na wnaeth yr un bwgan erioed afael yn neb.
Cofiais nad gwir mo hyn gan i un ohonynt afael yn fy ysgwydd i flynyddoedd maith yn 么l.
Ar y ffordd adre o Blas Gelliwig, Llyn oeddwn pan gefais y profiad erchyll hwn.
Ym Mhlas Gelliwig roedd person Llaniestyn yn byw a'r diweddar R. Gerallt Jones yn fab iddo. Bu Gerallt am gyfnod byr, wedi iddo adael y Coleg yn y chwe degau, yn athro Saesneg yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Symudodd ei dad, y Parchedig R. E. Jones o Lyn i blwyf Rhosybol, ond ni fu yno'n hir oherwydd fe'i lladdwyd pan dorrodd gwifren drydan a disgyn i ardd y Ficerdy ac yntau'n cerdded iddi.
Dyddiau difyr oedd canol y pum degau i Gerallt a minnau. Dyddiau Coleg, gwyliau haf hir, ac amser ddim yn cyfrif unwaith y caem
ganlyniadau'r arholiadau.
Yn aml byddai'n hwyr arnaf yn cychwyn adre o
Gelliwig. Ai'r ffordd ger wal Mynwent Eglwys Llaniestyn a gwyddwn fel pawb arall yn y plwyf fod yna fwgan yno.
Pedlwn y beic a'm holl egni wrth basio wedi iddi dywyllu. (Yn yr haf fyddai gen i ddim lamp ar y beic. Arhoswn hyd yr hydref cyn prynu batri newydd. Wedi'r cyfan roedd y plismon yn byw yn Sarn, ac ar ei feic y deuai yntau i ymweld. Cai baned yn y fferm ac wrth adael dywedai pryd y byddai ei ymweliad nesaf!).
A minnau bron wrth borth y fynwent dyna rywbeth yn gafael yn fy ysgwydd a'm tynnu'n 么l mor gryf nes imi ddisgyn oddi ar y beic, yn wir, y beic a minnau ar ein hochrau ar y ffordd. Pan geisiwn symud symudai'r beic hefo mi. Wedi bustachu'n hir cefais fy hun allan o'r got. Wrth ddod yn rhydd clywais yr olwyn yn troi, nid yn ei blaen ond yn ei h么l.
Dyma oes y 'facintosh' ac am ei bod hi'n smwcan bwrw cefais fenthyg un. Sylwais ei bod wedi mynd i'r
olwyn. Yn fwy na hynny roedd wedi cordeddu am y sb么cs. Gwn y credwn hyd heddiw mai'r bwgan afaelodd yn fy ysgwydd a'm tynnu oddi ar y beic heblaw am imi weld y facintosh yn yr olwyn.
Mae'r un peth yn wir am Si么n
Robaits, tad Gweirydd ap Rhys. Petai ef heb sylwi fore trannoeth
fod y rhaff ar dalcen Eglwys Llanfigael wedi cwtogi buasai'n credu i'w fedd mai'r bwgan oedd yn cnulio'r gloch wrth iddo basio ac nid buwch yn bwyta'r rhaff wellt. (Wrth atgyweirio gofalwyd bod rhaff cloch Eglwys Llanfigael yn dal oddi allan. Nid o wellt, y tro hwn, ond o blastig!).
Mae rhai'n honni mai mab y person gyda magic lantern a daflodd lun Mair Forwyn ar wal Eglwys Knock yn Iwerddon.
Ond pa wahaniaeth, daeth y Pab ei hun yno ar bererindod a chyflanwyd sawl gwyrth yn y fangre. Wedi'r cyfan, pwy a 诺yr nad y bwgan a wthiodd waelod y facintosh i olwyn fy meic innau dros hanner can mlynedd yn 么l!