大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Clawr 'Dal i Frygowthan' Gwerth eu darllen
Mehefin 2005
Dal i Frygowthan - William Owen
Pwy ddywedodd fod teitl llyfr yn sbardun i'w werthu? Mae William Owen yn ddiguro am ddewis teitlau sy'n tynnu sylw yn ddi-ffael.
Fel yn un o'i gyfrolau cynharaf, Codi Canol Cefn, y mae blas y pridd yn iaith lafar M么n ar ei gorau yn ei gyfrol ddiweddaraf.

Dywedir yn y broliant: "Mae dawn dweud ddigamsyniol ar waith ac yntau yn amlwg wrth ei fodd yn traethu ei len a'i ffraethineb".

Rhywbeth at ddant pawb, greda'i, sydd yn y 23 ysgrif. Fel un sy'n hen law ar grwydro, cawn fynd gydag o ar sgowt i Sempringham i weld cofgolofn y Dywysoges Gwenllian, disgynnydd Llywelyn y Llyw Olaf, a dreuliodd dros hanner canrif mewn caethiwed yno. A dyna bentref Slad ym mherfedd gwlad Sir Gaerloyw, cynefin Laurie Lee un o hoff awduron William Owen. Yn Ne Ffinist锚r y mae Locronan lle clywodd y ceiliog yn canu yn y bore bach a'i atgoffa am geiliogod Cae Rhun, Clegyrog Ucha' a T欧 Lawr ei blentyndod. Do, fe gafodd siom wrth weld siop Marks & Spencer yn Fienna, o bobman, y gallai'r Afr Aur gynt yn Amlwch a hyd yn oed McKillap yn Llannerch-y-medd ei bwrw'n llwyr i'r cysgodion.

Os mai hwyl go iawn sy'n apelio atoch byddwch wrth eich bodd gyda Helyntion y Fona Leusa a chyfrwystra Ned Porth Farthin yn manteisio ar ddiniweidrwydd Ifan Llain Focha! Fedrwch chi ddim peidio gwenu chwaith wrth flasu Cyflwyno'r Siaradwr. Amrywiaeth gwahanol sydd yn Edrych Drwy'r Ffenest; y bywyd gwyllt amrywiol a w锚l yr awdur o'i deras ym Mhorth-y-Gest; Rhodio Mhlith y Beddau o gwmpas Eglwys Ynyscynhaiarn a Dirgelwch y Goron a brynwyd mewn ocsiwn yn Llandeilo.

I mi, fodd bynnag, y mae Dau Lun Syr Kyffin Williams yn cydio o'r darlleniad cyntaf: un o Ushuaia yn ymyl yr Andes a'r llall o bentref Carreglefn. Y gyfrinach y tu 么l i'r ail sy'n datgelu rhywbeth o bwys am gymeriad hynaws yr artist athrylithgar.

Ysgrif y troais ati fwy nag unwaith eisoes yw Dathlu'n Briodol, hanes ymweliad yr awdur a'i briod 芒 Gwesty Tre Ysgawen, ger Capel Coch. Plethwyd atgofion yr annwyl Ifan Gruffydd, y G诺r o Baradwys, yn gelfydd i'r stori. Ardderchog yn wir. Mae 'na awyrgylch agos-atoch hefyd yn Setlo Cownt Mewn Aduniad; cyfarfod 芒 John Monfa, wedi hanner canrif, ymhlith cyn-ddisgyblion ysgol yng Ngwesty'r Lastra. Oes, yn wir, y mae rhagor yn y gyfrol, ond gwell bodloni ar damaid i aros pryd. Heb os, chewch chi mo'ch siomi. Mae Laurie Lee, Carreg-lefn ar ei gwar hi yn y gyfrol hon eto.

Cyn cau pen y mwdwl ymuna cyfeillion William Owen ym mro'r Rhwyd i'w longyfarch yn frwd ar ennill Tlws y Ddrama, Eisteddfod M么n Llanrhuddlad. Fel y byddai'r diweddar Llew Llwydiarth yn arfer dweud, "Gorchestol, frawd!"

I.W.J.

Ryw wythnos yn 么l daeth y Post Brenhinol a chyfrol i'r t欧 'ma ynghyd a gwahoddiad i roi 'rhyw hysbys fach i hon'. A dyma fi'n mynd ati i estyn fy mhensil goch a darllen yn union fel y bum yn ei wneud ryw hanner canrif yn 么l!

Rwyf wedi darllen pob un o gyfrolau William Owen fwy nag unwaith o Codi Canol Cefn (pris 80c) a gyhoeddwyd yn 1979 hyd y dydd hwn ac wedi cael mwyniant a llawer o hwyl. Rhoes Tua'r Dalar (2001) dipyn bach o sioc i mi. Roedd y teitl yn fygythiol braidd a theimlwn fod Wil wedi sobreiddio. Ond dyma'r gyfrol newydd yma'n ymddangos a Wil yn 么l gyda'i hiwmor iach a'i ddireidi.

Yn y sgwrs olaf cyfeddyf William Owen "alla i ddim dros fy nghrogi draethu ar unrhyw fater yn hir heb fy mod yn hwyr neu'n hwyrach yn manteisio ar bob cyfle i s么n am y pentre' bach annwyl hwnnw yng Ngogledd M么n". Ond mae ei gynfas yn llawer ehangach. Erbyn hyn mae o'n deithiwr o fri a chawn ein hunain yn gwmni iddo yn yr Aifft, yr Eidal a Llydaw. Fel y dywedodd neb llai na Syr Thomas Parry mae'n adnabod y natur ddynol' ac mae hynny'n amlwg yn ei bortread o'r Hen B芒r.

Mae bonws arbennig i mi yn Dal i Frygowthan oherwydd ei fynych gyfeiriadau at 'y lle b没m yn gware gynt' ac at gymeriadau hoff y b没m yn gyfarwydd 芒 nhw. Rwy'n credu bod ysgrifennu wedi mynd yn rhan o'i fywyd. Erbyn hyn mae wedi datblygu'n llenor praff hyderus sicr o'i gyfrwng ac y mae'n bleser gen i eich cymell i brynu'r llyfr. Mi wn na chewch eich siomi.

Hir oes i Wil a Susan wrth eich ymyl i 'ddal i frygowthan'.

A.W.J

Dal i Frygowthan - William Owen - Gwasg y Bwthyn - 拢6.99


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy