Ers pum canrif a mwy bu'r teulu bonheddig a drigiannai yn y plasty hwn yn noddwyr i'r beirdd - Lewys M么n, Gruffudd Hiraethog, Si么n Brwynog ac eraill.
Cofiwn hefyd am gefnogaeth ddeallus Dr Edward Wyn (1861-1755) o Fodewryd i gylch y Morrisiaid ac i Oronwy Owen ifanc.
Croesawyd y siaradwr, sef Mr Gwyn Jones, Dwyran, a'r aelodau oll gan Gyfarwyddwr y Gymdeithas, y Parchedig Dafydd Wyn Wiliam.
Olrheiniodd Mr Gwyn Jones hanes Syr John Pritchard Jones (1841-1917), Niwbwrch.
Siaradodd yn huawdl a diddorol am y gwrthrych, g诺r a anwyd yn nhyddyn Ty'n Coed, Niwbwrch, yn un o saith plentyn Mr a Mrs Richard Jones.
Bu farw ei fam pan oedd ef yn bedair oed. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgoldy Eglwys Llangeinwen, cyn iddo fwrw prentisiaeth yn ddilledydd yn siop Nelson, Caernarfon.
Bu wedyn yn siop J. E. Robert, Bangor hyd saithdegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn 1874 cafodd waith ym masnachdy Dickins, Smith & Dickins, 232 Regent St, Llundain.
Yn fuan dringodd i swydd prynwr, ac ni fu fawr o dro a chyrraedd y brig yn rheolwr a chyfarwyddwr y masnachdy.
Seiliwyd ei bartneriaeth yn y busnes yn 1878 a newidiwyd enw'r cwmni i 'Dickens & Jones'.
A'r busnes yn ddiogel dan ei law gwnaethpwyd 拢60,000 o elw'r flwyddyn gyntaf a dilynwyd hynny gan elw blynyddol.
Rhaid oedd i'r cwmni ehangu a phrynwyd adeiladau cyfochrog eraill yn ymestyn o 232 hyd at 244 Regent St. Ac yntau ar binacl ei lwyddiant, bu farw ei briod yn 43 oed yn 1891.
Aeth dros ddegawd heibio cyn iddo briodi eilwaith a merch o Hampstead, hi'n eglwyswraig ac ef yn parhau'n aelod gyda'r Methodistiaid fel ei dad o'i flaen a fu'n flaenor parchus a'r enwad yn Niwbwrch.
Rhaid oedd bwrw ymlaen a ffyniant y cwmni yn Llundain, ond er ei holl lwyddiant nid anghofiodd ei gefndir ym M么n.
Cofiai mor wael oedd cyfleusterau addysg yn ei fro enedigol, a thlodi cyffredinol yr ardal yn y cyfnod pan oedd ef yn blentyn.
Penderfynodd ddefnyddio rhan o'i gyfoeth tuag at wella'r sefyllfa yn Niwbwrch.
Trefnodd i godi clamp o adeilad a fyddai'n cynnwys llyfrgell, ystafell Darllen, sustem arbennig i gofnodi llyfrau, neuadd gyhoeddus, swyddfeydd, ystafell i'r merched, ac ystafelloedd i ymlacio a pharatoi arlwy, hefyd chwe bwthyn ar y safle i'r henoed a'r anghenus yng nghylch Niwbwrch.
Gosodwyd y garreg sylfaen ar 26 Awst 1902 a dywedir fod y rhan fwyaf 0 drigolion y cylch yno.
Erbyn 1905, ar gost o tua 拢14,000, roedd 'Sefydliad Pritchard Jones' wedi ei gwblhau.
Cyflwynodd yntau ef yn anrheg i'w hen ardal. Ei gymwynas fawr arall, yn ddiweddarach, oedd noddi'n llawn adeiladu Neuadd fawr ar safle Coleg Prifysgol Cymru, Bangor a'i chyflwyno'n rhodd, sef Neuadd Pritchard Jones heddiw.
Fe'i anrhydeddwyd yn Farchog yn ddiweddarach. Bu'n gymwynaswr hael i Golegau'r Brifysgol ym Mangor ac Aberystwyth, i Gymdeithas y Cymrodorion, i fudiadau llai, a nifer o sefydliadau eraill yng Nghymru.
Gorwedd ei lwch ym Mynwent Eglwys Pedr Sant, Niwbwrch.
Ar ran yr aelodau cyflwynodd y Parchedig Ddr. Dafydd Wyn Wiliam ddiolch i'r siaradwr.