´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Mynydd Tŵr, Caergybi (Hawlfraint y Goron RCAHMW) Cip ar hanes yr ynys
Mai 2005
Colofn WR Owen
Mae'r wennol yn parhau yn driw i ni hyd yma, er bod llawer iawn o adar gwyllt wedi prinhau yn sylweddol.
Ni ellir dweud hyn am y gwcw, ninnau heb glywed ei deunod swynol ers rhai tymhorau.

Pan y daethom fel teulu i fyw yn fy nghartref presennol yn y flwyddyn 1937, yr oedd dwy goeden sycamor ym mhen draw'r ardd, ac fe glywid can y gwcw bob gwanwyn o'r coed hyn. Fe gredir ei bod yn dodwy cymaint a dwsin o wyau bob tymor, ond heb adeiladu nyth fel patrwm pob aderyn arall.

Y tro olaf i mi glywed nodau'r gwcw, yr oeddwn yn cerdded gerllaw Capel Hebron MC, hithau yn canu o gyfeiriad fferm Bodlawen.

Eleni mae Etholiad Cyffredinol i'w gynnal yn nyddiau cynnar mis Mai, pryd y gwelid hen Å´yl Geltaidd ers llawer dydd, sef hanner ffordd rhwng dechrau'r gwanwyn ar 21 Mawrth. Erbyn hyn yr oedd y tymhorau wedi dirwyn i ben a gofynnid am fendith ar y cnwd oedd i ddilyn.

Ers talwm fe gedwid yr anifeiliaid i mewn hyd at Galan Mai, ac yr oedd pobl yn credu bod rhyw newid arbennig mewn glaw yn y cyfnod yma. Yr oedd llawer iawn yn credu bod y tylwyth teg o gwmpas y wlad. Fe welid cyffro mawr yn y wlad a'r hen dderwyddon yn croesawu Duw yr Haul erbyn cyrraedd troad y rhod, gyda'r goleuni wedi trechu'r llwch ymaith. Y dderw a'r celyn oedd y coed pwysicaf ganddynt, y dderw yn fuddugol ganol ha£, ond y celyn wedi trechu erbyn y dydd byrraf.

Nid oedd gan Ceiriog unrhyw amheuaeth pryd oedd ei dymor ef:

"Ddinaswyr gwaelod golud
A gŵyr y celfau cain
Pe gwelech Fai yn dod
A blodau ar y drain,
Y rhosyn ar y gwrych
A'r lili ar y llyn
Fe hoffech chwithau fyw
Mewn bwthyn ar y bryn".

Fe gyhoeddwyd llyfr diddorol iawn gan Adran yr Amgylchfyd yn rhestru llawer o fannau hanesyddol yma ac acw ar Ynys Môn, megis Bodowyr, Trefignaeth Tŷ'n Dryfol, Presaddfed, TŷNewydd Llyn, Bryn Celli Ddu, Barclodiad y Gawres a Bryn Gwyn. Maent oll yn eithriadol o hen fel y cerrig a welir yn ardal Penrhosfeilw, Tŷ Mawr a Thre Gwehelydd.

Dywedir bod cytiau a safai ar Fynydd Tŵr gerllaw Caergybi yn tarddu o Oes y Rhufeiniad, tra bod Ffynnon Seiriol a Chroes y Parc Ceirw ym Mhenmon mor hen â'r cyfnod Cristnogol cynnar.

Aeth mwy na naw canrif ers i'r Normaniaid ymsefydlu ar Ynys Môn ac adeiladu castell gerllaw, Penmon. Bedair blynedd wedi hyn fel enillodd Griffydd ap Cynan y castell hwn gyda'r dewrion o hen linach Gwynedd. Yn dilyn hyn bu i annibyniaeth Gwynedd gael ei sicrhau am ddwy ganrif gyda'r hen Dywysogion megis Llewelyn Fawr yn rheoli'r dalaith o Aberffraw. Bu i hyn barhau hyd y drydedd ganrif ar ddeg ac Ynys Môn yn gyfoethog mewn grawn, nes i Frenin Lloegr anfon ei lynges i feddiannu'r Ynys.

Er bod y canrifoedd wedi mynd heibio mae darllen yr hen hanes yn ail-greu peth o naws y dyddiau gynt. Pan y bu farw'r Pab yn ddiweddar, yn un o fechgyn dewr Gwlad Pŵyl gynt, yr oeddwn yn cofio'r hen eiriau am y Flwyddyn Eglwysig.

"Ar y Sulgwyn ni goffawn
Am yr ysbryd glân a'i ddawn,
Uchel Å´yl o uchaf fri
Mae'r Diddanydd gyda ni".

Er bod seddau ein capeli ac eglwysi'n bur weigion bellach, a dyna hanes rhan o Eglwys Rhufain yn ogystal. Fodd bynnag, ymddengys bod byd crefydd ar gynnydd ymysg rhai o wledydd tlawd ein byd. Pwy a ŵyr na ddaw y deffroad o wledydd pell y Trydydd Byd?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý