大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Gorymdaith cyhoeddi'r Eisteddfod Eisteddfod arall ar y gorwel
Gorffennaf 2004
Wedi bwrlwm a llwyddiant rhyfeddol Eisteddfod yr Urdd, Ynys M么n 2004 bydd trefnwyr Eisteddfod M么n 2005 yn awchu am yr un gefnogaeth, tywydd a chystadlu yng Nghylch Y Garn ymhen blwyddyn.
Os oedd Seremoni y Cyhoeddi yn arwydd o'r arlwy yna mae lle i gredu y byddwn yn canmol ac yn dathlu unwaith eto.

Cynhaliwyd y seremoni ddydd Sadwrn, 15 Mai, ar b'nawn hyfryd o wanwyn ar gae Bryn Glas yng nghanol pentref Llanrhuddlad.

Cychwynnodd gorymdaith helaeth o Ysgol Cylch y Gam am 2 o'r gloch dan arweiniad Llywydd y Pwyllgor Gwaith, Idwal Parry yn cynnwys Swyddogion ac aelodau'r Is-bwyllgor, plant y Ddawns Flodau, aelodau Gorsedd Beirdd Ynys M么n a Llys yr Eisteddfod, ynghyd a Swyddogion ac aelodau cymdeithasau lleol a chymwynaswyr yr Eisteddfod.

Un o fechgyn yr ardal, Alwyn Samuel Hughes oedd yn seinio'r Corn Gwlad gydag arddeliad ac wedi'r seremon茂au agoriadol cafwyd anerchiad o'r Maen Llog gan y Derwydd Gweinyddol, Huw Goronwy, oedd yn gydnaws iawn ag anrhydedd ei swydd.

Canwyd y Cywydd Croeso, gwaith y diweddar Richard Jones, Llanfechell, gan g么r o aelodau'r Pwyllgor Cerdd i osodiad gan Haf Morris.

Roedd cyfraniad y Ddawns Flodau gan ferched bach Ysgolion Cylch y Gam, Ffrwd Win, Llanfachraeth a Llanddeusant a chyflwyno'r Aberthged gan Catherine Williams, Llanfaethlu yn raenus iawn.

Traethwyd yr Arawd gan y Cyn-brifathro John Rice Rowlands yn ei arddull ddihafal. Barn gyffredinol oedd mai dyma'r areithiau gorau a glywyd o'r Maen Llog ers amser maith.

Estynnwyd gwahoddiad i Eisteddfod Cylch y Gam 2005 a chyflwynwyd y copi cyntaf o'r Rhestr Testunau i'r Derwydd Gweinyddol gan Lywydd y Pwyllgor Gwaith. Lleisiwyd diolchiadau gan Mr Victor Hughes, Llywydd Llys Eisteddfod M么n. Dymunwn ddiolch o galon i'r Llys a'r Orsedd ac i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y diwrnod.

Mae'n dymuniadau gorau yn mynd i Mr Ellis Wyn Roberts sydd bellach wedi ymadael a safle'r Llywydd ac estynnwn ein diolch iddo am ei gymorth parod. Dymunwn rwydd hynt i Mr Victor Hughes sydd wedi gafael yn yr awenau. Byddwn yn falch o'i weld yn ein Pwyllgorau.

Derbyniodd Pwyllgor Croeso Eisteddfod M么n 2005 gontract i fwydo'r lluoedd ddaeth i Ffair Hen Greiriau ar faes Mona ddydd Sadwrn a'r Sul, 12 a 13 Mehefin. Roedd hon yn fenter ddewr ac yn golygu oriau lawer o waith caled. Gwych yw cael dweud iddi fod yn llwyddiant ysgubol. Llongyfarchiadau calonnog a diolch i'r Pwyllgor Croeso a gafodd gymorth parod o'r Pwyllgorau eraill ac ambell i ddyn hefyd!

Cynhaliwyd cyfarfod olaf y Pwyllgor Gwaith ar 7 Mehefin yng Nghanolfan Llanrhuddlad dan lywyddiaeth y Cadeirydd, Idwal Parry ynghyd 芒 chynrychiolaeth dda o'r Is-bwyllgorau ac aelodau o Lys Eisteddfod M么n yn bresennol. Hwn oedd y cyfarfod cyntaf ar 么l Seremoni'r Cyhoeddi, diwrnod llwyddiannus iawn, gyda'r tywydd mor fendigedig o braf a'r Cyngerdd gyda'r nos yn goron ar y gwaith, sydd yn rhoi hyder i ni am Eisteddfod lwyddiannus iawn yma mis Mai y flwyddyn nesaf. Estynnwn wahoddiad i bawb i'r 诺yl.

Mae gwaith codi arian tuag at y gost o gynnal yr Eisteddfod yn mynd ymlaen ac mae yna ragor o weithgareddau yn, ac wedi cael eu trefnu, i'r pwrpas.

Mae testunau am y cystadlaethau allan ac ar werth yma ac acw. Os oes yna rhywun eu hangen gallwch gysylltu 芒'r Ysgrifennydd, Owie Jones, Tremarfon, Llanrhuddlad - rhif ff么n 01407 730541 am wybodaeth.

Yr ydym ar hyn o bryd yn trefnu raffl tuag at y costau ac addewidion am wobrau da iawn wedi dod i law, ac fe fydd y tocynnau yn mynd ar werth tua diwedd mis Gorffennaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy