大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Llanw a Thrai
Mawrth 2006
Mae Mr G.O Parry yn y golofn 'Oes gennych funud?' yn edrych ar lanw a thrai ac effeithiau'r m么r ar fyd natur

Mae glan y m么r gyda'r pyllau bach ar y creigiau wedi gadael fel cronfa wedi i'r trai ddigwydd, gyda gorchudd o wymon yn 'magu ynom awydd i ymchwilio.

Bu dylanwad dynol ar yr arfordir drwy adeiladwaith neu lygredd yn achos i ddiddymu rhai planhigion ac anifeiliaid.

Serch hynny mae modd dod o hyd i lecynnau lle mae'r neilltuaeth a'r preifatrwydd yn parhau fel yn y dyddiau pan fyddai enwogion astudiaeth glannau m么r yn gallu cynnal ymchwil i batrymau bywyd heb ymyrraeth nac anhawsterau.

Erbyn hyn mae gennym ganolfan o safon arbennig yn y maes yma ynghlwm a Phrifysgol Bangor, sef Ysgol Astudiaethau M么r ym Mhorthaethwy.

Mae'r arfordir yn cael ei effeithio gan donnau a gwynt sydd yn amlwg wedi noson stormus. Yn gyffredinol nid yw'r newid yn amlwg gan mai graddol yw'r effaith o lanw a thrai. Y gwynt sy'n hyrddio'r m么r i greu tonnau sy'n codi, disgyn a throi. Dim ond yn agos i'r lan mae'r tonnau'n effeithiol yn ysgubo gro a thywod i gyfeiriad y traethau.

Mae digon o egni yn y tonnau i gludo cerrig gweddol fawr i fyny'r traeth. Mae'r m么r yn rhedeg yn ei 么l gan adael y cerrig yn eu lle. Mae'r symudiad rheolaidd yma yn gweithio fel ffeil ac yn gwisgo ymylon y cerrig a'u llyfnhau. i arbed effaith y gwisgo yma ar y tirwedd fe welwch ar arfordir Gogledd Cymru forgloddiau coed yn estyn allan i'r m么r.

Bydd y tonnau'n gyrru'r gro a'r tywod i mewn i'r lan ond mae ei daith yn cael ei reoli gan y morglawdd.

Lle difyr i ymchwilio i fywyd y m么r a sylwi ar y wahanol fathau o wymon yw'r rhain.

Dros gyfnod fe fydd y cerrig yn troi yn ro ac yna yn cael eu malu i fod yn lwch a dyma beth yw'r mwd ar ein traethau ac yn y culfor.

Ychwanegir ato gan bridd o'r tir wedi cyfnod o law trwm. Gelwir y datblygiad o ronynau cerrig man ar yr arfordir yn gynnydd (accretion). Yn y sefydlu eu hunain. Bydd eu gwreiddiau'n gymorth i gasglu mwy o laid o'u cwmpas. Trwy hyn daw planhigion eraill i wreiddio a chadarnhau'r 'tir'. Llyrlys '(glasswort), cordwellt (cord-grass), yw dau sydd yn gyffredin yma.

Fel arfer planhigion sy'n blodeuo yw'r rhain ac fe fyddant yn gwasgaru had o'u cwmpas a chyn bo hir bydd y gors yn dechrau ymestyn i gyfeiriad y m么r. Fel mae hyn yn digwydd bydd effaith yr heli yn gwanhau ac fe ddaw planhigion fellafant y m么r, seren y morfa, a chlustog Mair ac yna hesg.

Gwelir morhesg yn amlwg ar y twynni ger ein traethau poblogaidd. Yr hesg sydd yn gwreiddio yn ddwfn ac ymhell yn y tywod ac yn cynnal y twynni.

Tywod wedi ei wasgaru gan y gwynt yw twynni Aberffraw a Llanddwyn. Gwneir ymgais i gael morhesg i sefydlu lle mae erydu yn broblem. Mae gosod coed Nadolig yn y twynni hefyd yn ymdrech arall i atal erydiad.

Does dim lle i blanhigion wreiddio ar draethau'r gro. Does dim defnydd i gadw gwlybaniaeth ac mae symudiadau gro yn malu planhigion.

Ar draethau tywodlyd mae rhyw sylfaen sydd yn gefnogol i nifer o anifeiliaid sydd yn tyrchu i'r tywod. Yma mae gwlybaniaeth yn parhau hyd yn oed pan fo'r llanw wedi cilio am gyfnod.

Bydd llaid yn cael ei adael le nad oes symudiad mawr yn y m么r. Mae pob math o faeth yn y llaid sydd yn hanfodol i'r anifeiliaid sydd yn tyrchio fel y genwair. Lle mae cymysgedd o laid a thywod mae amrywiaeth amlwg o'r trigolion sydd yn gallu cartrefu yno. Y chydig iawn sydd yn gallu byw mewn llaid pur.

Un o nodweddion yr arfordir yw newidiadau llanw a thrai. Bu dealltwriaeth o gysylltiad agwedd y lleuad ganrifoedd cyn i wyddonwyr ddatgan fod tynfa disgyrchiant y lleuad yn effeithio ar y llanw yn uniongyrchol.

Un o ryfeddodau naturiol mewn m么r rheolaidd yw patrwm y llanw ac fel y gellir rhagfynegi cyflwr y llanw trwy'r flwyddyn.

Bydd pysgotwyr a'r rhai sydd yn treulio eu gwyliau mewn cychod ger ein glannau yn prynu llyfryn sydd yn cynnwys gwybodaeth perthnasol i gyflwyr y llanw. Daw llanw neu drai o amgylch ein harfordir bob rhyw ddeuddeng awr a hanner.

Mewn un cyfnod bob mis mae uchafbwynt llanw ac isafbwynt trai. Digwydd hyn rhyw ddau ddiwrnod wedi lleuad llawn a lleuad newydd. Gwelir hyn yn llanw'r gwanwyn er nad oes cysylltiad rhwng tymor y gwanwyn.

Rhwng cyfnodau llanw gwanwyn, mae amser pan fo'r llanw a'r trai ar ei isaf ac fe elwir hyn yn neap tide. Tua'r unfed ar hugain o fis Medi a mis Mawrth pan fo dydd a nos yn gyfatebol mae cyfnodau o lanw llawn a llanw isel eithriadol.

Yn y cyfnod yma gall arbenigwyr gasglu enghreifftiau o fywyd yr arfordir nad ydynt o fewn eu cyrraedd weddill y flwyddyn.

Trwy'r drefn rheolaidd mae'r llanw yn gorchuddio rhannau o'r traethau mae'r anifeiliaid sydd yn trigo yno wedi mabwysiadu taflen amser sydd yn caniatau iddynt fod yn brysur o dan gysgod y m么r a phan ddaw'r trai gallant dyrchio i mewn i wely'r m么r a bod yn ddiogel mewn gwlybaniaeth.

Dyma'r fan lle bydd adar hirgoes (waders) yn casglu pan fydd y llanw yn dechrau adennill ei gynefin. Bydd llyngir o bob math ar y wyneb a chramenogion (crustaceans) yn dod i'r amlwg. Pryd o fwyd da! Ystorfa o fwyd rhad ac am ddim fu glannau'r m么r i genhedloedd a fu.

Cocos, cerrig gleision, gwichiaid, llygaid myheryn, a'r gwalc fel cregin. Ar wahan i bysgod niferus roedd crancod, sioni naill ochr (shrimp), crogimwch (prawn), a chimwch (lobster) yn gymorth i gynnal bywoliaeth rhai ac yn sicr yn gynhaliaeth i deuluoedd mawr.

Ar draethau creigiog cawn weld amrywiaeth mawr yn y planhigion. Cen cerrig oren, melyn ac arian ar y creigiau sydd yn cael eu golchi o dro i dro gan sblas o'r m么r.

Gwymon yw'r amlycaf o'r planhigion - mae tua wyth cant o wahanol fathau o gwmpas ein arfordir.

Trwy dyfiant llidiog mae gwymon yn cysgodi anifeiliaid bregus ac atal iddynt sychu allan. O fewn y pyllau ar y creigiau mae'r gwymon yn sylfaen i anifeiliaid di-asgwrn cefn trefedigaethol (colonial invertebrates).

Yn oes Fictoria roedd diddordeb mawr ym mywyd y traethau a'r arfordir. Ymysg y gweithgareddau oedd casglu gwymon o bob math a'u cadw mewn albwm.

Ysgrifennwyd nifer o lyfrau ysgolheigol ar y pwnc a nifer o lyfrau arluniadol - gwerslyfrau. Cynhyrchwyd rhai ohonynt yn y cyfnod 1850-1870 ac maent bellach yn eitemau o ddiddordeb i gasglwyr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy