´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Siop cigydd ET Jones, a'r staff Cigydd gorau Cymru
Mawrth 2008
Mae nifer o drigolion ardal Y Rhwyd eisoes o'r farn fod cigydd gorau Cymru wedi ei leoli yn yr ardal a 'dwi'n falch iawn o ddweud fod hyn bellach yn swyddogol!

Cafodd siop cigydd ET Jones a'i Feibion a'i Ferch - neu Lamia, fel mae'n cael ei adnabod yn lleol - ei hanrhydeddu fel Siop Cig Gorau Cymru mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Hybu Cig Cymru a Chylchgrawn y Meat Trades Journal.

Mae Lamia wedi ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd ond dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gael eu hanrhydeddu fel y gorau yng Nghymru mewn seremoni wobrwyo yng Ngwesty Claridge's, Llundain, yn ddiweddar.

"Mae'n anrhydedd anferth i ni a 'da ni'n falch iawn," meddai Ifan Jones, sydd yn rhedeg y busnes ynghyd a'i chwaer, Elen, a'i frawd Richard.

Mae ffenest y siop ym Modedern yn dyst i ragoriaeth y busnes gan ei bod yn orlawn o dlysau a thystysgrifau.

"'Da ni 'di ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd," ychwanegodd Ifan. "Ond mae hwn yn arbennig iawn gan ei fod yn wobr trwy Gymru gyfan."

Dechreuwyd y busnes gan Evan Thomas Jones - taid Ifan, Elen a Richard - ym 1915 ac mae elfen deuluol y busnes yr un mor gryf ag erioed gan fod Iwan, mab Ifan, hefyd yn gigydd.

"Mae 'na bedair cenhedlaeth o'r teulu wedi gweithio yn y busnes," meddai Ifan. "Roedd ein tad yn weithgar iawn yn adeiladu'r busnes ac mae Iwan efo ni rŵan.

"Ac mae'r elfen deuluol yna'n bwysig; da ni i gyd yn gweithio fel tîm yma a dyna sy'n gyfrifol am y llwyddiant. Mae hi'n andros o deimlad braf i feddwl ein bod ni wedi ennill y wobr ar gyfer y siop orau yng Nghymru."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý