大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Dawnswyr M么n yn Llandudno Haf prysur Dawnswyr M么n
Hydref 2005
Pa weithgaredd arall sydd yna lle mae criw o bobl o ystod oedran 14-75 oed yn mwynhau rhywbeth sy'n cadw traddodiad Cymraeg yn fyw ...
... yn cadw'n ffit ac yn diddanu cynulleidfaoedd yng Nghymru a dramor ac yn cael llond trol o hwyl? Dawnsio gwerin!!

Ia - mi wn fod rhai pobl yn ei alw'n 'ddawnsio gwirion' ac yn meddwl ein bod yn hollol wallgo yn prancio o gwmpas y wlad mewn haenau o wlanen gartref - ond credwch fi - mae o'n sbort. Ac mae Dawnswyr M么n yn un o'r timau mwyaf yng Nghymru erbyn hyn ac yn un o'r rhai sy'n cael fwyaf o sbort hefyd.

Gartref ar Ynys M么n dechreuodd yr haf yn brysur gyda lot o ymarfer a hefyd ambell i berfformiad - ar y sgw芒r ym Miwmares, ym Melin Llynnon, gwneud twmpath ym mhriodas un o'n haelodau a hefyd croesi'r bont i 糯yl Llandudno ac i Gaerdydd ar gyfer penllanw gweithgaredd dawns Cymru bob blwyddyn yng Ngh诺yl Ifan.

Wedyn daeth yr Eisteddfod i'r Faenol. Yn ogystal 芒 chystadlu mewn dwy gystadleuaeth buom hefyd yn perfformio ar lwyfannau ar y maes, arddangos yn y Neuadd Ddawns a Phabell yr Urdd a chymryd rhan mewn Anterliwt yn y Theatr Fach gan gyflwyno rhaglen gynhwysfawr yn y mannau hyn i gyd.

Mae'n debyg mai un o olygfeydd rhyfeddaf yr Eisteddfod oedd ein gweld yn ymlwybro o'r Theatr i'r llwyfan agored ac yn 么l trwy'r mwd ar y Sadwrn cyntaf mewn gwisg lawn gan geisio cadw'n sgertiau allan o'r mwd, a hynny'n dangos ein pantal诺ns pen-glin i'r byd. Diolch byth nad oes llun o'r olygfa hynod!

Yn union ar 么l yr Eisteddfod roeddem wedyn yn cychwyn ar daith i Ffrainc - o Saujon yn ardal y Charente Maritime i 糯yl ddawnsio. Roedd dau ddwsin o ddawnswyr a phump offerynnwr ar y daith - heb anghofio Ioan bach yn cario'r faner wrth gwrs!

Roedd bron i hanner y criw o dan 25 oed ac mae mor braf gweld y to ifanc yn dangos y fath frwdfrydedd.

Cawsom bum diwrnod hyfryd yng nghwmni'r t卯m lleol - y Bategails de Saintonge, t卯m a ymwelodd 芒 ni yn Ynys M么n wyth mlynedd yn 么l ac y bu Dawnswyr M么n yn ymweld 芒 hwy o'r blaen y flwyddyn ganlynol. Cadwyd y cysylltiad ac roedd yn braf bod yn 么l yno, y tro yma gyda gr诺p arall o Ffrancwyr o Tournus yn ardal Bwrgwyn yn Nwyrain Ffrainc a hefyd criw arall o ddawnswyr ifanc o Groatia.

Buom i gyd yn dawnsio a gorymdeithio yn y strydoedd, yn arddangos mewn gwahanol drefi, mewn canolfannau ac ar lwyfannau awyr agored ac yn cymryd rhan mewn offeren yn eglwys hynafol Pont l'Abbe.

Roedd y noson o ddawnsio dan y s锚r yn y parc yn Saujon a'r t芒n gwyllt anhygoel wedyn yn brofiad y byddwn i gyd yn ei drysori. Ond nid perfformio i ddiddanu eraill yn unig yr oeddem. Cawsom ddigon o gyfle i fynd o gwmpas i weld y wlad, mynd i'r traeth ac ymweld 芒 distyllfa 'pineau' ac yn goron ar y cwbwl noson o wledda a cherddori a dawnsio cymdeithasol gyda'r timoedd eraill oedd yn bleser pur i ni i gyd.

Rhaid dweud mai un o'r pleserau pennaf i mi, fel un o aelodau hynaf y t卯m oedd gweld yr ieuenctid yn cymdeithasu gyda'r Ffrancwyr a'r Croatiaid, yn gwneud ffrindiau ond hefyd yn taflu eu hunain i fwynhau y cyd-ddawnsio. Wnaeth ambell un ddim eistedd i lawr drwy'r noson!

Ond nid dim ond yr ifanc oedd yn dawnsio'n ddi-baid, roedd y rhai hyn ohonom fel petaem yn cael rhyw egni newydd o rywle, a neb yn fwy na'n aelodau hynaf, Owen Huw Roberts sydd wedi bod yn dawnsio ers hanner can mlynedd bellach. Dechreuodd ddawnsio pan yn athro ifanc yn Sir Ddinbych ym mis Medi 1955 ac mae yn ysbrydoliaeth heddiw i ni yn Nawnswyr M么n.

Wedi dod adref rydym wedi cychwyn ar dymor newydd o ddawnsio gyda phrynhawn braf o ddawnsio ar sgw芒r Biwmares un waith eto ac edrychwn ymlaen at aeaf prysur ac at daith arall y flwyddyn nesaf.

Os oes unrhyw un sydd yn darllen hyn awydd cadw'n ffit, cadw'r traddodiad a chael lot o hwyl wrth wneud hynny, da chi cysylltwch 芒 Mair Jones 01248 450508. Mae croeso i aelodau newydd bob amser.

Dwynwen Berry.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy