大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Cofeb farmor Cofeb Llantrisant
Rhagfyr 2004
Yn Nhachwedd 1920 dadorchuddiodd y Brenin Si么r V, y Senotaff yn Llundain, ac yn dilyn cafwyd cannoedd o gofebau ym Mhrydain a thros y byd.
Ym mynwent Eglwys newydd Llantrisant cafwyd un ar ffurf y Groes Geltaidd. Lewis Jones o Lannerch-y-medd a'i gosododd. Mae ei enw arni.

Croes o farmor gwyn ydyw. Erbyn hyn ni chaniateir rhoi cerrig beddi o farmor gwyn ym Mynwentydd yr Eglwys yng Nghymru. Mae yna reswm digonol. Edrychwn mewn hen fynwent lle mae cerrig marmor gwyn ac fe welwch pa mor erchyll o fudr a hagr ydynt. Roedd Cofeb Llantrisant felly ac yn amlwg ddim yn deilwng o'r rhai a goffai. Mae marmor gwyn yn hynod o hydraidd (porous) ac wrth sugno d诺r fe dry'n fan delfrydol i fwsogl a chen dyfu yno. Yna pan ddaw rhew mae'r d诺r yn ehangu a chracio'r marmor. Roedd hyn wedi digwydd yn Llantrisant hefyd. Felly roedd yn hen bryd i'r gofeb gael ei hadnewyddu.

Yn ddiddorol un a'i wreiddiau yn Llannerch-y-medd ddaeth i'r adwy, sef Mr Gareth Owen o Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Glanhaodd hi ac ail beintio'r arysgrif, a rhoi pot blodau marmor gwyn wrth ei throed gyda'r geiriau 'Arwyr y byd, heria'r bedd' arno.

Yr oedd John Jones yn fab i John a Jane Jones, Ty'n Pwll Mawr, Llantrisant. Lladdwyd ef ar 21 Ebrill1917 yn 19 mlwydd oed. Mae ei enw ef ar Gofeb Thiepval. Cofeb yw hon i dros 72,000 o filwyr a laddwyd yn y Somme heb feddrod ganddynt.

Yr oedd Owen Richard Jones yn fab i Mr a Mrs John R. Jones, Henbont, Llanddeusant. Lladdwyd ef ar 17 Ionawr 1917. Mae ei enw ar Gofeb Basra, Irac; y man mae'r rhyfela heddiw. Cofeb yw hon i dros 40,500 o filwyr a laddwyd ym Mesopotamia heb feddrod ganddynt.

(Llynedd ar y ffordd o Galais i Baris, sydd ddigon diflas hefo gwastadeddau llwm bob ochr, yn sydyn eglurodd gyrrwr y bws ein bod yn nesau at y Somme. Gwyddwn i'm tad gael ei glwyfo yn un o frwydrau'r Somme, er na soniai am y peth, a dyma fi'n edrych allan o'r bws a gweld mynwentydd bychain yn y caeau. Gwefr annisgwyl oedd cael bod yn yr union fan y bu fy nhad wythdeg pump o flynyddoedd ynghynt, ond mewn amgylchiadau tra gwahanol).

Nid wyf wedi cael dim gwybodaeth am Hugh Edwards na David Jones. Os clywsoch amdanynt neu eu cysylltiadau rhowch ganiad i mi os gwelwch yn dda (01407 742322).

Edgar Jones

Ar y gofeb ysgrythrwyd: 'Cofier yng ngwydd Duw, Huw Edwards, R.W.F., Penllyn; John Jones, R.W.F., Penterfyn; David Jones, R.A.F., T欧 Newydd; Owen Richard Jones, R.E., Henbont. Meibion Plwyf Llantrisant a wnaeth aberth bywyd yn y Rhyfel Fawr 1914-1919.'


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy