Maggie Jones, ei chwaer, wneuthum i gyfarfod gyntaf, a hynny ar nos Sul, a minnau newydd gyrraedd y plwyf. Ar y ffordd adref yn y glaw oeddwn, o Eglwys Llechgynfarwy, ac wedi troi wrth Gapel Trefor am Bodedern, dyma fi'n gweld gwraig fach dwt heb na chot nac ambar茅l yn mynd yn f芒n ac yn fuan ac yn amlwg am wlychu atei chroen. Arhosais, ac er nad yw Rhyd Fawr ymhell o Drefor roedd hi'n hynod ddiolchgar, ac wrth ffarwelio siarsiodd fi i alw heibio i'w gweld.Ychydig wythnosau'n ddiweddarach pan gerddais i gegin Rhyd Fawr cerddais i fwthyn fy nain yn Llyn. Yno roedd yr un silff-ben-t芒n a darn neu ddau o Staffordshire arni, tyniau llawn tolciau, powliau ymyl glas a phentwr o lyfrau wedi troi'n femrynau yn y mwg. Tegell ar bob pentan, un bach i ferwi dwr am baned ac un mwy gogyfer 芒 diwrnod golchi. Roedd y popty haearn hefo dwrn bras uwch ei ben fel y gallai Maggie, fel fy nain, agor a chau'r ffliw gyda chyfeiriad y gwynt. Ar y wal crogai calendrau pygddu a phot llawn sbils uwchben un ohonynt. Cefais fy rhoi i eistedd ar y setl dan y ffenestr ac Evan a Maggie ar y dde a'n hochrau at ein gilydd. Dyna drefn bob amser, ac ni newidiodd i'r diwedd. Mae'r arlunydd Keith Andrew wedi tynnu llun cegin Rhyd Fawr. Llun sy'n enwog erbyn hyn, Efan a Maggie. Dywedodd Keith wrthyf iddo ddod i adnabod Evan drwy ei gyfarfod ar y ffordd. Roedd yn gerddwr o fri. Byddai yn ei weld yn hel priciau ac yn torri'r gwrychoedd o gwmpas Rhyd Fawr. Daeth y ddau'n ffrindiau ac 芒i Evan ag ef am sgwrs i'r ty. Un dydd gofynnodd a g芒i dynnu llun y gegin a hwythau'n eistedd wrth y t芒n. Felly y bu. Yr oedd Maggie yn un hawdd iawn i'w chael i eistedd yn gywir, ond nid Evan. Wel, nid yn gymaint nad oedd yr eistedd yn iawn, yr oedd yn fodlon gwneud hynny, ac yn fodlon bod yn llonydd, ond amhosibl oedd ei gadw'n ddistaw. Nid hawdd dan yr amgylchiadau fu i Keith gyrraedd y cywair cywir i beintio. Yna, ac yntau ar gychwyn, gofynnodd Evan iddo roi'r golau i ffwrdd. Pam ddifetha trydan, a hwnnw mor ddrud, a hwythau'n eistedd yn gwneud dim. Do, fe fu yna broblemau yn y gwyll i'r arlunydd. Deuai pob sesiwn i ben hefo Maggie yn gwneud paned a brechdan jam i Keith ac Evan yn mwynhau ei bosel dwr. Yn drist bu Evan farw cyn i Keith orffen llun arall o'r ddau. Roedd wedi ei ddechrau flynyddoedd yn 么l. Ei deitl yw Wrth y Drws Yno mae Evan a Maggie yn pwyso ar wal y cowt, dillad ar y lein ac ieir yn crafu wrth gi芒t yr ardd, disgynyddion y rhai a fu'n dodwy'r wyau a gefais i mewn diolchgarwch gan Maggie am roi lifft iddi un nos Sul glawog o Gapel Trefor dros ddeugain mlynedd yn 么l. Edgar Jones
|