Yr esboniad yw bod rhai fel Mr Emrys Parry, Rhosyrolion, Llanfaethlu yn dod a phethau diddorol i mi; fel cofiant 'Thomas Jerman Jones', y Cenhadwr.
Yn sicr, 'enw dod' i Ynys Môn yw'r cyfenw 'Jerman'. Nid oes dim byd Celtaidd ynglŷn ag et'!
Awgrymir yn y cofiant mai 'John Jerman' oedd y cyntaf o'r tylwyth i gyrraedd yr Ynys, a hynny ar achlysur hanesyddol iawn.
Daeth 'Mr Jerman' yma fel athro i ysgolion cylchynol Griffith Jones, Llanddowror. Fe fu yna ysgol gylchynol ym mhlwyf Llandrygarn.
Gwyddom hyn oherwydd i'r person ar y pryd ysgrifennu at ei ffrind a dweud mor fuddiol fu'r ychydig wythnosau y cynhaliwyd 'Y sgol Griffith Jones' yn y fro.
Dysgodd llawer o'r plwyfolion ddarllen, ac o hynny ymlaen yn cymryd rhan yng ngwasanaethau'r eglwys.
Nid gwrandawyr mohonynt mwyach, ond cyfranwyr. Canlyniad hyn fu adeiladu ysgol sefydlog yn y plwyf, 'Ysgol Genedlaethol'.
Mae'r adeilad i'w weld o hyd ar ochr chwith y ffordd wrth i chwi deithio o gyfeiriad Trefor, gyda'r ysgol bresennol ar y dde, heb fod nepell i ffwrdd.
Bu ffyddloniaid Eglwys Llandrygam yn cynnal Ysgol SuI yn yr hen ysgol drwy'r blynyddoedd.
Y gred gyffredinol yw mai enw Ffrangeg yw 'Jerman', ac yn gyfenw i rai o'r Hiwgenotiaid.
Protestaniaid oedd y rhain wedi gorfod ffoi o Ffrainc oherwydd erledigaeth gan y Pabyddion ac yn derbyn lloches yn Lloegr.
Roeddynt yn grefftwyr da a chroesawyd hwy a breichiau agored.
Ond pan ddechreuasant adeiladu capeli, a gwrthod addoli yn yr eglwysi plwyf, trodd y Saeson hefyd yn eu herbyn.
Y tro hwn ffoi i Gymru wnaethant. Atynt hwy y daeth John Wesley ar ei ymweliad cyntaf yn nes ymlaen, a hwythau erbyn hyn wedi eu Cymreigeiddio, ymunodd llawer ohonynt â'r Methodistiaid Calfinaidd.
Ganwyd Thomas Jerman Jones yn 1833. Gôf oedd ei dad yn Refail Llechgynfarwy, sydd ger yr eglwys.
Adweinid ef fel 'John Jones y Cariwr' oherwydd byddai'n ario blawd o Felin Treban hefyd. Priododd â Jane Jerman, a dyna sut daeth 'Jerman' i enw Thomas.
Dwy flynedd cyn geni Thomas aeth ei dad i weithio i'r pwll glo yn Llangristiolus. Yno y ganwyd Thomas.
Yn fuan wedyn bu llifogydd trymion a gorlifwyd y pwll glo a heb obaith iddo gael ei ail agor.
Dychwelodd y teulu bach i'w hen ardal a chartrefu yn 'Bryn Drain', ger Capel Seion. (Tybed a yw'r bwthyn ar ei draed o hyd?)
Pan oedd Thomas yn bedair ar ddeg oed bu farw ei fam, a hithau ond un a deugain. Claddwyd hi ym Mynwent Eglwys Llechgynfarwy.
Aeth Thomas yn was i Felin Newydd, Llandrygarn. Yna symudodd at ei ewythr i Gaernarfon i weithio yn y chwareli.
Pan oedd yn Chwarel y Penrhyn bu mewn damwain.
Yn yr ysbyty cafodd droedigaeth a phenderfynodd gyflwyno'i hun i'r weinidogaeth, ac i'r genhadaeth.
Hwyliodd am Fryniau Khasia, ae yno y bu am gyfnod maith ymhell o fryniau Mon.
Edgar lones