Mae Hotspur Caergybi, o dan oruchwyliaeth sylwgar a chraff Campbell Harrison wedi profi tymor cymharol lwyddiannus yng Nghynghrair Undebol y Gogledd. Er bod eu gobeithion prin o gipio'r ail safle yn y Gynghrair wedi dod i ben ers colli ym Mynydd Isaf yn gynharach yn y mis, fe all yr Harbourmen fod yn falch iawn o'u tymor.
Yn ogystal 芒 gorffen ymysg y ceffylau blaen yn yr adran, llwyddodd y bechgyn i gyrraedd trydedd rownd Cwpan Cymru cyn colli yn erbyn Derwyddon Cefn o Uwchgynghrair Cymru.
Ac mae mwy o dystiolaeth fod y dyfodol yn ddisglair i'r Hotspur. Cafodd dau o'r garfan, Liam Shanahan a Marc Evans y fraint o gael eu dewis i dim dan 18 oed Ysgolion Cymru ar gyfer eu gemau yn erbyn Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.
Felly gyda charfan ifanc dalentog ac adnoddau bendigedig y stadiwm newydd, pwy a 诺yr pa bryd fydd t卯m y dre yn efelychu Llangefni ac esgyn i Uwchgynghrair Cymru.
Draw ym Modedern roedd hi'n dra gwahanol. Wedi dechrau'r tymor gyda th卯m yng Nghynghrair Undebol y Gogledd ac ail d卯m yn chwarae eu tymor cyntaf yng Nghynghrair Gwynedd ar 么l sicrhau dyrchafiad o Gynghrair M么n, roedd p锚l-droed i'w weld yn ffynnu yn y pentref.
Roedd Bodedern wedi brwydro'n galed iawn i gyrraedd safon Cynghrair y Gogledd gan arwyddo chwaraewyr lleol a gwrthod y demtasiwn o dalu arian mawr.
Ond yn anffodus, fe brofodd yr her yn ormod wrth i gyfuniad o anafiadau a diffyg arian orfodi'r Clwb i wneud penderfyniad anodd iawn ym mis Hydref - er mwyn lles y Clwb, roedd rhaid diddymu un o'u timau.
Gyda chalon drom iawn penderfynodd y Clwb mai'r peth gorau i'w wneud byddai canolbwyntio ar yr ail dim yng Nghynghrair Gwynedd a thynnu'r t卯m cyntaf allan o'r Gynghrair Undebol.
Er ei fod yn benderfyniad anodd tu hwnt, ymddengys ei fod yn benderfyniad doeth wrth i d卯m ifanc y pentref sefydlu eu hunain yng Nghynghrair Gwynedd a chyrraedd rownd derfynol Cwpan Gwynedd sy'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol.
Yng Nghynghrair M么n mae hi'n dyn iawn tua'r brig gyda phencampwyr y llynedd, Clwb Athletic Gwelfor Caergybi ar y brig ar wahaniaeth goliau yn unig wrth i'r Rhwyd gyrraedd y printars gyda Bro Goronwy'n dyn iawn ar eu sodlau. Ac efallai i chi gofio mi'n s么n am Glwb P锚l-droed Y Fali yn gynharach yn y tymor wrth i Glwb o'r pentref chwarae yng Nghynghrair M么n am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn. Wel mae'r Fali wedi cael tymor boddhaol iawn ac yn eistedd tua chanol yr adran ar 么l ennill cymaint ag y maen nhw wedi colli!
|