Rhagorodd Mr Samuel Rowland Evans drwy ei gyfraniad i feysydd Amaethyddol ac Adfer a Diogelu Hen Beiriannau Amaethyddol.
Rhoddodd 70 mlynedd o wasanaeth i'r diwydiant Amaethyddol yng Nghymru a thu hwnt. Dechreuodd Mr Sam Evans neu "Sam Pennal" fel yr adnabyddir ef yn hoffus drwy'r wlad, weithio fel gwas fferm pan yn 14 oed yng Ngorffennaf 1938.
Ymunodd a gweithlu Pwyllgor Amaethyddol Meirionnydd, cyfnod y Rhyfel, (WAEC) ar yr 2il o Chwefror, 1943.
Yn ystod ei wasanaeth milwrol o dair mlynedd o fis Gorffennaf 1943, cafodd ei ryddhau am 8 cyfnod o fis yr un i barhau ei waith gyda'r "War Ag". Ef oedd un o'r ychydig rai i dderbyn Rhyddhad Arbennig fel hyn am fod yna brinder dybryd o fwyd yn y wlad hon ar y pryd. O ganlyniad i'w wasanaeth gyda'r "War Ag" meithrinwyd ynddo wir ddiddordeb ac arbenigedd mewn Hen Beiriannau Amaethyddol. Yn 1986, ef oedd un o aelodau sylfaenol Clwb Hen Dractorau a Pheiriannau Meirionnydd (NVTEC) a byth ers hynny fe greodd ei gasgliad unigryw ei hunan o hen beiriannau ac offer amaethyddol hynod o brin gan eu hadfer yn ofalus a chelfydd fel eu bod i'w gweld yn gweithio'n berffaith hyd heddiw.
Mae Mr Sam Evans yn parhau i arddangos y peiriannau hyn, sy'n cynnwys hen ddyrnwr prin a gwerthfawr, mewn sioeau ac arddangosfeydd ym mhob cwr o'r wlad.
Ym Mai 1953, sefydlodd Mr Sam Evans ei gwmni ei hunan fel Ymgymerwr Amaethyddol gan brynu ei gaterpilar D2 cyntaf, ac aradr lusg ryngwladol dair cwys.
Gan ddefnyddio'r rhain, gwasanaethodd gymunedau gwledig eang o dirfeddianwyr a ffermwyr yng nghanolbarth Cymru mewn ymateb i alwad y Llywodraeth ar y pryd i ffermwyr dyfu mwy o gnydau o dan nawdd eu cynllun grant i adfer tiroedd y llethrau a'r bryniau.
Cyflwynwyd y cynllun hwn am fod prinder bwyd ar gyfer y bobl yn parhau ym Mhrydain.
Yn ystod y blynyddoedd diweddaraf, bu Mr Sam Evans yn ymwneud ag arddangosfeydd hen beiriannau amaethyddol traddodiadol yn Sioe Frenhinol Cymru, pan fyddai'n dro I Feirionnydd ei noddi, yn ogystal 芒 sioeau a digwyddiadau sirol a lleol eraill.
Bu ei esiamplau o gasgliad gwych o hen beiriannau amaethyddol yn rhan bwysig a chanolog o arfddangosfeydd Clwb Hen Dractorau a Pheiriannau Meirionnydd yn Sioe Frenhinol Cymru, yn arbennig felly yn y flwyddyn 1990, yn y fwyddyn 2000 a thrwy wahoddiad 卢Pwyllgor Gweinyddol Sioe Frenhinol Cymru ar achlysur dathlu canmlwyddiant y sioe honno yn y flwyddyn 2001.
Bu cyfraniad Mr Sam Evans i amaethyddiaeth yn un cyson di-dor ers pan aeth i mewn i'r diwydiant yn 1938, a bu ei ymroddiad i'w gyflogwyr, ei gwsmeriaid a'i gydweithwyr gydol ei gyfnod gweithio yn un o ffyddlondeb llwyr.
Erbyn hyn, lledaenodd enw "Sam Pennal" i fod yn gyfystyr ag amethyddiaeth a hen beiriannau amaethyddol ymhell tu hwnt i ffiniau Cymru.
Datblygodd i fod yn gymeriad chwedlonol ym myd yr hen beiriannau a cheisir ei farn yn gyson ar faterion yn ymwneud a'r hen beiriannau hynny gan selogion ledled y wlad.
Llwyddodd "Sam Pennal" drwy ei gymeriad hoffus a'i hiwmor iach, a thrwy ei allu a'i ddawn heintus i drosglwyddo ffeithiau a manylion yn ymwneud 芒'r arbenigedd ym maes yr hen beirianau a materion amaethyddol, i wneud hynny dros y blynyddoedd i gynulleidfa eang o bobl, boed y gynulleidfa honno'n un ifanc, yn un ganol oed neu'n un o oedran teg.
Dyma'r sgiliau a'i gwnaeth hefyd yn atyniad poblogaidd gyda cyflwynwyr rhaglenni radio a theledu a'r cyfryngau'n gyffredinol.
Roeddynt yn sicrhau cyfweliadau diddorol ac yn arddangos barn bendant a gwybodaeth boed y cyfweliad hyn yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
Mae'n gyfrannwr cyson i raglen boblogaidd "Crwydro Cynefin", Radio Ceredigion, sy'n ymwneud a hen beiriannau amaethyddol ac atgofion amaethyddol a gwledig sy'n dyddio'n 么l i'r ganrif ddiwethaf.
Bu Mr Sam Evans yn Gynghorydd Cymuned ymroddgar ar Gyngor Cymuned Pennal am 25 o flynyddoedd cyn ymddeol.
Gan fod Sam Evans yn un o aelodau sylfaenol Clwb Hen Dractorau a Pheiriannau Meirionnydd ac yn gweithredu fel un o aelodau cynharaf y pwyllgor anrhydeddwyd ef drwy leoli llun ohono ar Fforden Fach o'r flwyddyn 1939 yn tynnu beindar Albion 5A o gyfnod 1937 ar glawr blaen llyfr a gyhoeddwyd i ddathlu penblwydd y Clwb yn 21 oed.
Golygwyd y gyfrol gan Swyddog Cyhoeddusrwydd y Clwb, Mr Carroll Hughes, a chyhoeddwyd hi yn Awst 2007 i gofnodi llwyddiannau'r aelodau.
Lansiwyd y gyfrol yn Sioe Sir Feirionnydd yn Nhywyn gan Mr David Meredith ac Elfyn Llwyd AS.
Pan ddechreuodd ar ei yrfa ym myd amaeth, gweithio am ei fwyd yn unig, heb gyflog o unrhyw fath, a wnai Mr Sam Evans, ac er iddo wynebu'r trasediau o golli ei fam yn 1940, colli tri brawd mewn damwain ffrwydron rhyfel gartre ar y fferm yn 1944 a cholli brawd arall a oedd yn gwasanaethu yn y fyddin yn Yr Almaen yn 1945, parhaodd i ganolbwyntio ar alwedigaeth ym myd amaeth gan fynnu perffeithrwydd ym mhob tasg a wynebai.
Gall ei lu o gwsmeriaid dystio fod gwaith Mr Sam Evans o'r safon a'r ansawdd uchaf bosib i bob amser gan y cyflawnai'r gwaith fel pe bai'n ei wneud iddo'i hunan.
Parhaodd yr agwedd hon ar ei gymeriad hyd y dydd heddiw a bu'n gaffaeliad mawr iddo yn ei ymwneud 芒 phobl yn gyffredinol. Mae ei frwdfrydedd heintus yn ei faes yn ystod arddangosfeydd yn apelio at ystad oedran eang ac yn denu'r cyfryngau.
Mae'n meddu ar y gallu unigryw i symbylu a denu aelodau ifanc Clwb Meirionnydd yn ystod yr arddangosfeydd hynny, a chyda thasgau sy'n ymwneud ag adfer hen beiriannau. Ei gyfrinach yw cynnig pob cyfle iddynt elwa'n uniongyrchol o'i brofiadau cyfoethog ef ei hunan.
Mae'n talu sylw i'w gasgliad unigryw a rhyfedd. o hen beiriannau a leolir yn ei sied ym Mhennal yn ddyddiol a deddfol ac yn ddiweddar fe gwblhaodd ychwanegiad arall i'r casgliad hwnnw, sef belar Jones o gyfnod y 1940au. Mae galw mawr a chyson am ei arbenigedd a'i gyngor gydag ymholiadau'n y meysydd adfer a chynnal a chadw pob math o hen dractorau a pheiriannau.
Bu cyfraniad Mr Sam Evans i ymdrechion Clwb Hen Dractorau a Pheiriannau Meirionnydd i gefnogi a chodi arian tuag at achosion gwirfoddol amrywiol drwy gynnal teithiau hen dractorau noddedig yn un amlwg iawn. Manteisiodd nifer o achosion lleol drwy'r rhain dros y blynyddoedd, achosion fel Apel Ysbyty Goffa Tywyn (拢300), Apel Sganiwr Ysbyty Gwynedd (拢l,000), Apel Sglerosis Ymledol (拢541), Ape1 Eisteddfod Genedlaethol Cymru (拢800), ac yn arbennig yn y flwyddyn 2008 cyflwnodd y Clwb siec am 拢2,000 i Apel Ymchwil y Cancr.
Mae Mr Sam Evans yn parhau i gynnal yr hen draddodiad o baratoi'r tir trwy ei aredig, ei lyfnhau, ei hau a grawn ac yna cynaeafi'r cnwd yn yr hen ddull traddodiadol gan ddefnyddio beindar.
Yna caiff yr ysgybau eu codi er mwy iddynt sychu ar gyfer y diwmod dymu. Mae'r arddangosfeydd dyrnu sydd i'w gweld yn Sioe Sir Feirionnydd bob blwyddyn yn hynod o boblogaidd ym mysg ymwelwyr a phobl leol.