Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf "Rhoddodd y Rhyfel Byd Cyntaf dipyn o drawiad i boblogrwydd y ffeiriau yn gyffredinol. Defnyddid ffeiriau gan y Fyddin fel cyfle da i recriwtio, i ddenu'r ifanc, yn weision a morynion, yn feibion a merched y ffermydd i ymuno 芒'r fyddin. 'Roedd cael tyrfa o bobl ifanc yn yr un lle a'u twyllo gyda diod yn sicrhau cyflenwad o filwyr i'r fyddin. Felly, roedd ofn colli hufen y gymdeithas i ffosydd Ffrainc yn rheswm cryf i anghofio'r ffeiriau. Wel, dyma ni eleni wedi atgyfodi'r Ffair, nid i werthu anifeiliaid ond i werthu syniadau, ac i fod yn ffenestr siop i weithgaredd y plwyf. Traddodiad ardaloedd gwledig yw'r elfen gymdogol. Gall rhai ddweud mai busnesa yw e - ond na, yr elfen groesawgar sy'n cyfri'. Os yw pobol yn gwybod beth sy'n digwydd, mae cyfle iddyn nhw ymuno a chynorthwyo. Son am ffermwr ar fynydd Llanllwni yn cyflwyno'i hun i gymydog, newydd-ddyfodiad i'r ardal. Na, doedd e ddim yn dymuno cael dim i'w wneud 芒'i gymdogion, dod yma am y llonyddwch a'r heddwch oedd e. Ymhen tridiau daeth yr eira - pwy oedd y cyntaf i ofyn am dractor i dynnu'i gar o'r cl么s? Doedd bod yn gaeth i'r eira ddim yn heddwch na llonyddwch! Diau y bydd 'na lawer ohonoch yn medru dod 芒 thipyn o ffeithiau ychwanegol am y Ffair - dewch 芒 nhw. Bydd modd wedyn gwneud nodyn o'ch atgofion a'u cadw ar gof. Mae'n rhyfedd y wybodaeth ychwanegol gefais. O Alltyblacca, clywed fod y ffair yn cael ei chynnal ar y PRYNHAWN MELYN MAWR, y dydd yn dechrau ymestyn efallai. Un arall yn dweud iddo ddarllen yn ddiweddar adeg y tollbyrth fod y porthmyn a'r ffermwyr are u ffordd i'r ffair yn osgoi tollborth Llanfihangel ar Arth, trwy gerdded yr anifeiliaiad drwy'r afon yn Glanrhyd y Pysgod. Felly dyma ymgais gyntaf 'PWERDY LLANWENOG', o dan arweiniaid Euros Lewis, I ennyn brwdfrydedd ei thrigolion yng ngweithgaredd a hanes y plwyf. Ae'r hedyn wedi'I blannu - rhowch help iddo dyfu. Pob hwyl i'r fenter." Yn 么l i'r adroddiad Clonc yngl欧n 芒 Ffair Wenog 2005
|