大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Logo Eisteddfod Pantyfedwen, Llanbed Gwledd o Gystadlu yn Llanbed
Medi 2003
Janet Evans sydd yn edrych yn 么l ar Eisteddfod Rhys Thomas James (Pant-y-fedwen) yn Llanbedr Pont Steffan ddiwedd mis Awst.
Tyrrodd y cystadleuwyr o bob cwr o Gymru i Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen - a bu'r tywydd braf yn goron ar y cyfan.

Teithiodd un cystadleuydd yr holl ffordd o Gaernarfon mewn tacsi er mwyn cymryd rhan yn y canu emyn dros 60 oed. Bu Alun Williams sydd mewn cadair olwyn yn ffyddlon iawn i'r Wyl ar hyd y blynyddoedd.

Agorwyd yr Eisteddfod gyda chyngerdd mawreddog yng ngwir ystyr y gair. Fe'n gwefreiddiwyd gan berfformiadau Cytgan, Deiniol Wyn Rees, Dafydd a Gwawr Edwards.

Cafwyd gwledd o gystadlu lleol ar y dydd Sadwrn o safon uchel, a phrawf o hyn oedd gweld nifer o'r plant a'r bobl ifanc yn cyrraedd y brig yn yr adran agored. Eleni eto roedd Llais Llwyfan Llambed yn noson arbennig. Enillydd y wobr gyntaf o fil o bunnoedd yn y gystadleuaeth i gantorion dan 30 oed oedd Nicola Jane Hughes o Gastell Nedd, myfyrwraig un ar hugain oed yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Catrin Aur o Gastell Newydd Emlyn oedd yn ail.

Wrth draddodi'r feirniadaeth ar ei ran ef a'i gyd feirniad Dr Rhian Davies, diolchodd Gareth Rhys Davies am noson o fwynhad a llongyfarchodd y bobl ifanc i gyd am gyflwyno eu caneuon mewn ffordd mor wych. Talodd ddiolch haeddiannol hefyd i'r athrylith Jeanette Massocchi am ei chyfraniad gwerthfawr fel cyfeilydd.

Hefyd nos Sul cynhaliwyd seremon茂au'r Gadair a'r Tlws Ieuenctid dan 25 oed. Cipiwyd y Gadair am delyneg mewn mydr ac odl ar y testun Cyfrannu gan Eirug Salisbury o Langynog, Caerfyrddin - myfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth a chyn ddisgybl yn Ysgol Bro Myrddin. Braf oedd gweld y gwr ifanc hwn yn cyflawni'r dwbl, gan mai ef hefyd oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith ar y dydd Sadwrn - cyflawnodd gamp arbennig iawn.

Enillydd y Tlws Ieuenctid oedd Eiddig Morgan o Fwlchllan sydd hefyd yn fyfyriwr yn Aberystwyth a chyn ddisgybl o Ysgol Uwchradd Tregaron. Rodd Tegwyn Jones y beirniad yn uchel iawn ei ganmoliaeth o safon iaith y saith ymgeisydd ac yn ei dyb ef roedd pob un ohonynt yn teilyngu'r wobr. Roedd y seremon茂au yng ngofal Delor James a disgyblion yr Ysgol Gyfun a phawb yn gwneud eu gwaith yn raenus iawn.

Enillydd y Tlws yn yr adran Gelf a Chrefft am ddarn o waith mewn unrhyw gyfrwng yn agored i gystadleuwyr ysgolion uwchradd oedd Gemma Cutter o Dregaron.

"Mae hon yn Eisteddfod hapus dros ben," oedd sylw Rhiannon Alun Evans, un o'r beirniaid yn yr adran lefaru. "Rown i'n cael yr argraff fod yna d卯m sy'n deall ei gilydd ac yn awyddus i'r Eisteddfod i lwyddo. Os nad yw pawb yn barod i ymgymryd 芒 swyddi, mi allwch o leiaf ddangos cefnogaeth i'r rhai sy'n fodlon ysgwyddo'r baich. Gobeithio y digwydd hynny.

Caed nifer helaeth o gystadleuwyr yn yr adran lefaru - a'r safon yn gyson dda. Mae'r llefaru ffuantus a'r ystumiau wedi mynd, fe gawsom ni gyflwyniadau graenus diwastraff ac ambell berfformiad fydd yn aros yn y cof."

Enillwyd y Goron, allan o 30 o ymgeiswyr am ddarn o farddoniaeth ar y testun 'Gormes', gan Andrea Parry, athrawes ifanc o'r Bala gyda Dai Rees Davies o Rydlewis ar y brig yng nghystadleuaeth y Gadair, allan o 10, am gyfres o englynion.

Llywiwyd y seremon茂au gan y Parch Goronwy Evans a seiniwyd y corn gwlad gan Dorian Jones. Pleser oedd gwylio merched Ysgol Carreg Hirfaen yn cyflwyno dawns ddisgo - diolch i Rhian Jones a Fiona Davies am eu hyfforddi.

Mae'r pwyllgor Ll锚n wedi bod yn hapus iawn i weld nifer dda o gystadleuwyr yn ymgiprys am y gwobrau gwahanol yn enwedig y Goron a'r Gadair. Nid oedd yr ymgeiswyr mor niferus am y Fedal Ryddiaith na chystadlaethau'r ifanc. Eto, roedd yn llawenydd i nodi bod teilyngdod ym mhob un ohonynt, ac yn wir mai pobl ifanc oedd wedi dod i'r brig mewn dwy o'r prif gystadlaethau.

Daeth chwe th卯m hefyd i Dalwrn y Beirdd eleni. Mae hyn i gyd yn galondid mawr ac yn argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol.

Llywyddion yr Wyl eleni oedd Dawn Rees, Catrin Stevens, Eifion Davies a Tegwen Morris - diolch iddynt am eu cyfraniadau hael iawn. Yn ei araith ar ddydd Sadwrn siaradodd Eifion am y papur bro Clonc. Agorwyd yr Eisteddfod gan Twynog Davies a Maer y dref, y Cynghorydd Hag Harris.

Hyfryd oedd cael cwmni Betty Richards o Landrindod sydd wedi dathlu ei phen-blwydd yn gant oed yn gynharach eleni. Bu'n mynychu'r Eisteddfod yn rheolaidd ers dros ugain mlynedd. Cyflwynwyd basgedaid o flodau iddi gan Lowri Elen fel gwerthfawrogiad o'i theyrngarwch i'r Wyl.

"Penwythnos campus eto - cyngerdd gwefreiddiol ar y nos Wener, cystadlu brwd ddydd Sadwrn, oedfa gofiadwy yn Noddfa a Llais Llwyfan Llambed yn cyrraedd safon uchel," meddai Twynog Davies, Cadeirydd y Pwyllgor gwaith. Mi gofiwn ni'r Eisteddfod eleni am gyfraniad yr ifanc - mor ffodus ydym i gael y fath dalentau yng Nghymru - mae'r dyfodol yn sicr. Hyfrydwch i mi oedd cael cymryd rhan yn y seremoni i gyflwyno rhodd i'r cyn ysgrifennydd bellach, y Parch. Goronwy Evans. Roedd y dysteb anrhydeddus o dros 拢1,100 yn brawf o'i waith diflino dros yr Eisteddfod. Diolch yn arbennig i Dorian Jones am lenwi'r swydd ac i Rhian ei briod am ei gwaith arbennig fel trysorydd.

Yn wir, mae fy niolch yn fawr i holl aelodau'r pwyllgor gwaith am weithio mor galed ynghyd 芒'r noddwyr i gyd am eu caredigrwydd mawr unwaith eto er mwyn sicrhau Eisteddfod lwyddiannus iawn. Awn ymlaen yn hyderus i'r dyfodol."

Erthygl gan : Janet Evans.

Rhestr or holl ganlyniadau, lluniau a Gwerthfawrogi Oes o Wasanaeth i Goronwy Evans yn rhifyn arbennig Medi o Clonc.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy