大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Portread o J.Dilwyn Williams, Felinfach
Rhagfyr 2004
Efallai nad yw rhai o ddarllenwyr Clonc yn hollol si诺r pwy yw Dilwyn Williams
Ond mae pawb ohonom yn adnabod neu wedi clywed am y cymeriad lliwgar ac hoffus "Williams Youngs". Hyfrydwch pur oedd cael treulio orig yn ei gwmni y dydd o'r blaen er mwyn dod i wybod ychydig mwy amdano.

Fe'i ganed yn 1921 ym mhentref New Cross, Aberystwyth yn unig blentyn. Roedd ei dad yn anabl ar 么l dioddef effaith nwy ym mrwydr erchyll y 'Somme' yn y rhyfel byd cyntaf.

Gadawodd yr ysgol yn 16 oed ac fe gafodd swydd yn Aberystwyth gyda'r 'Land Fertility Scheme', a'i waith oedd paratoi samplau o bridd o'r caeau er mwyn eu dadansoddi am ddiffygion calch a gwrteithiau eraill. Bu yn y swydd am ddwy flynedd.

Yn 1940 ymunodd 芒'r awyrlu fel cadet a'i ddyletswyddau oedd edrych ar 么l y radio a'r gynnau mawr (machine guns). Ar 么l derbyn hyfforddiant trylwyr ar gyfer y gwaith yn Y Bahamas, Nova Scotia a Vancouver, fe'i danfonwyd i Burma am ddwy flynedd lle cafodd ei ddyrchafu'n 'Sargeant'. Cafodd brofiadau creulon a pheryglus tra yn Burma yn ymladd yn erbyn y Siapaneaid, ac 'roedd y frwydr i ennill tref Rangoon yn un o'r profiadau mwyaf erchyll yn ei fywyd. Sylweddolodd pa mor ffodus oedd o gael dod adref yn fyw.

Bu hefyd ar ddyletswydd yn yr India, a chael cyfle i wneud gwaith cenhadol yn Shillong ger Madras. Profiad cofiadwy oedd gweld y tyddynwyr yn plannu reis yn y paddy fields.

Ar 么l pum mlynedd yn yr awyrlu, a'i dad bellach wedi marw yn 50 oed, daeth Dilwyn yn 么l i'w hen swydd yn Aberystwyth, a gweithio am gyflog o 拢15 yr wythnos. 'Roedd yn rhaid symud ymlaen gan fod y gyflog yn gwbl annigonol i fyw arni. Yn 1946, penodwyd ef yn gynrychiolydd cwmni 'Youngs' yn siroedd Aberteifi, Caerfyrddin a Phenfro. Ei brif ddyletswydd oedd gwerthu 'trochiadau' (dip) defaid, moddion a nifer fawr o bethe eraill ar gyfer iechyd anifeiliaid. Bu wrth y gwaith yma am 40 mlynedd a 'does dim llawer o'r hen Ddyfed nad yw Dilwyn yn gwybod amdano. 'Roedd y profiad o ymweld 芒 ffermydd o bob math a phob maint, a chyfarfod a chymeriadau diri,yn rhywbeth y mae'n ei drysori yn fawr. Anrhydeddwyd ef gan y cwmni ar 么l ymddeol am gwblhau diwrnod da o waith.

Y mae ef a'i deulu, sef ei wraig a phedwar o blant, wedi byw yn LIannon, Pumsaint, Creuddyn Bridge a bellach mae ganddo fyngalo ac ychydig dir yn Temple Bar, ac mae wrth ei fodd yn cadw diadell o ddefaid Cymreig.

Un o'r pleserau mwyaf ym mywyd Dilwyn, er hynny, yw cefnogi gwaith dyngarol ac achosion da ac mae hynny dros y blynyddoedd wedi golygu trefnu llu o weithgareddau er mwyn codi arian. Tra yn byw yn Llannon, bu yna storm enbyd un noson, ac fe wnaed difrod i do'r Capel a'r Eglwys leol. Dyma fynd ati ar unwaith i drefnu ras geffylau a moto-beics, er mwyn codi arian i drwsio'r ddau do. Beth oedd barn y saint am hyn, tybed! Tra yn Llannon bu hefyd yn helpu i oleuo'r pentref drwy brynu lampau; llwyddodd i roi peth cymorth ariannol i waith y WI, ac i helpu adnewyddu rhan o'r neuadd ar gyfer chwarae Snwcer.

Ers y cyfnod yn yr Awyrlu mae'r awydd i hedfan yn dal yn ei waed ac yn rhan bwysig o'i fywyd. Tua pum mlynedd yn 么l, trefnodd daith 'Power Parachute' o Hwlffordd i Benrhyncoch, a'r gamp oedd dyfalu'r amser a gymerai i gwblhau'r daith. Er yn agosau at ei 80 oed ar y pryd, eisteddai Dilwyn yn ei wisg goch a'i sbectol, wrth ochr y gyrrwr, yn mwynhau pob munud wrth weld y golygfeydd o'r awyr. Codwyd swm sylweddol iawn at elusennau lleol.

Mae wedi teithio mewn 'glider' ac yntau yn awr dros ei 80 oed. Cafodd hefyd y weledigaeth i logi awyren am gost o 拢100 y dydd i hedfan o Hwlffordd i Wexford, a'r gamp eto oedd dyfalu'r amser. Cododd y fenter yma 拢3,500 at waith pwysig yr Ambiwlans Awyr. Ymysg ei ymdrechion diweddaraf, mae wedi bod yn helpu'r Bad Achub yn Aberystwyth ac wedi cyflwyno siec o 拢400 i fferm Blaenywern, Llanybydder i brynu tri gwely orthopaedig ar gyfer plant anabl sy'n treulio llawer o amser yno.

Anrhydeddwyd ef gan y 'Cambrian News' yn ddiweddar am ei waith dyngarol, ac fe'i gwahoddwyd i s么n am ei waith ar raglen deledu 'Prynhawn Da'. Yn wir, yn 么l ei amcangyfrif personol, mae wedi llwyddo i godi dros 拢20,000 at elusennau lleol - record arbennig. Cafodd ef a'i briod wahoddiad yn ddiweddar i arddwest ym Mhalas Buckingham.

Tybed a Iwyddodd e i werthu tocyn i'r Frenhines ar gyfer ras hwyaid yn Felinfach, ar ran rhyw achos teilwng lleol? Ni fyddai neb yn ei wrthod!

Ymysg ei gyfrifoldebau, mae'n is-gadeirydd y 'Burma star Association', Is-gadeirydd Cymdeithas yr RAF yn Aberystwyth, a'r Lleng Brydeinig yma yn Llambed. Buasai'r rhan fwyaf o bobol ar 么l cyrraedd 83 oed yn barod i ymlacio ac ymddeol yn llwyr, ond nid felly Dilwyn Williams yn wir mae ganddo brosiectau eraill ar y gweill. Mae'n dal mor sionc a heini ag erioed, yn llawn hiwmor a direidi ac yn dynnwr coes heb ei ail.

Pan fod cynifer o elusennau y dyddiau yma yn dibynnu ar ymdrechion lleol, tybed a fyddwn bob amser yn gwerthfawrogi ymdrechion pobol fel Dilwyn. Ond mae codi arian yn rhoi cymaint o bleser a gwefr iddo.

Gobeithio yn wir y caiff flynyddoedd eto i helpu elusennau sydd mor ddibynnol ar garedigrwydd pobol leol.


Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy