´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clonc
Jen ac Arthur Dau ddiwrnod ym mywyd Film Extra
Mehefin 2007
Pan ddaeth sêr mawr Hollywood i Lambed yn ddiweddar i ffilmio The Edge of Love, roedd Jen Cairns o Langybi yn eu canol nhw ...

Fel y gŵyr y mwyfrif o ddarllenwyr Clonc, mae yna griw ffilmio wedi bod yn Llambed a'r cyffiniau yn ail-greu anturiaethau Dylan Thomas yn ystod y cyfnod a dreuliodd yng Ngheredigion - yn cynnwys yr hanes fel y bu i swyddog o'r fyddin geisio ei saethu.

Dydd Gwener, Mai 18fed.
Cyrraedd Ceinewydd yn hwyr y prynhawn, a dod o hyd i grwpiau o bobl yn sefyllian o gwmpas Capel yr Annibynwyr;- pawb a'u golygon tua'r nefoedd fel petai, gan ryw led ddisgwyl am gyfarwyddyd oddi fri, ond i ddim pwrpas! Felly, mentrais dorri drwy'r rhengoedd diogelwch i'r festri a oedd wedi ei neilltuo ar gyfer 'Golygfeydd tyrfa'. Ymuno yno â gwragedd Cei Newydd yn eistedd ar meinciau, a rhyfeddu at effeithiolrwydd meistres y gwisgoedd a'i staff. Doedd yna ddim gwallt hir steil hipi na wisgerod yn y 40au, felly roedd yn rhaid i'r dynion gydsynio yn reit handi ar gael rhain wedi'u symud!

Roeddent wrth eu bodd a'm gwallt hir brith, ond roedd yn rhaid i hwnnw gael ei droi'n donnog cyn ei dynnu nôl mewn bynnen - yn gwmws fel gwallt Mamgu. a rhwyd gwallt dros y cyfan. Cafwyd hyd i ffrog borffor i mi, ynghyd â phais hir silc; pâr o sgidie hynod o gyfforddus, gyda hoelion mân yn y gwadnau (mae'n anodd cofio am y rhain yn yr oes blastig yma!), a bag llaw hen ffasiwn i gwblhau'r wisg.

Dydd Llun, Mai 21ain.
Hwn oedd y diwrnod mawr! Roedd yn rhaid bod yn Ystafell Dalis, Y Llew Du erbyn chwarter i saith y bore, lle roeddem i wisgo a chael ein make-up. Rhoed fi o dan sychwr gwallt - atgof arall o ddyddiau ienctid. Roedd Jo Conti yno yn gweithio'n hynod o galed ac effeithiol fel meistres gwisgoedd.. Yna roedd yn rhaid aros i gael ein galw.

Roedd yna fagiau tywod yn gorchuddio llawr isa Neuadd y Dre, a Siop Cascade wedi ei weddnewid i fod yn siop gwerthu papur newydd, melysion a thybaco.

Ymhen hir a hwyr, daeth yr amser i ni fynd i fyny'r grisiau i 'Stafell y Llys, a chael ein lleoli yn oriel y cyhoedd. Eisteddai Matthew Rhys a Sienna Miller y tu ôl i ni, a Keira Knightley o'n blaen. Pobol yn gweiddi pethau fel "Camera", "Lights", "Action" a "Hold the Traffic", gan wneud pob math o bethau rhyfedd gyda'r offer dan sylw. Y Cyfarwyddwr yn dal i weiddi wrthym ni'r amaturiaid "Please remember to ACT". Er bod yna dystiolaeth bod sawl ergyd dryll wedi ei anelu at Dylan Thomas, daeth y rheithgor i'r casgliad fod yr Uwchgapten Killick yn ddi-euog - er mawr lawenydd i'r brodorion lleol!

Aeth yn 4 o'r gloch y prynhawn cyn i ni gael ein rhyddhau, a dim ond wedyn roedd y rheithgor yn cael eu galw i'r Llys, - wedi bod yn disgwyl eu tro drwy'r dydd. Roedd un diwrnod yn eitha' digon, ond byddwn i ddim wedi ei golli am y byd.

Trannoeth, a ninnau ynghanol sbel o dywydd sych, roedd yn rhaid arllwys 'glaw' artiffisial ar ben y cast, gan ei bod yn glawio adeg y prawf yn y 40au.. Roedd yno hefyd geir Heddlu a chloch ar eu blaen, a'u goleuadau wedi gorchuddio o olwg awyrennau'r gelyn a allai fod yn hedfan uwchben.

I'r rhai sy' â diddordeb: -

  • Daeth Dylan Thomas i ymweld â Plas Llanina yn 1938 gydag Augustus John.
  • Yn 1941 bu DT a Caitlin yn aros ym Mhlas y Gelli, Talsarn, ac eto yn 42-43.
  • Roedd cysylltiad gyda Dylan â theulu'r Phillips o'r adeg roedd y ddau deulu'n byw yn Abertawe. Vera Phillips briododd â William Killick.
  • Roedd Caitlin yn disgwyl babi yn ystod y cyfnod yma,(42-43), a bu'n rasio ar gefn ceffyl Pentrefelin, 'Princess Marina' yn rasus Talsarn. Mae'n debyg iddi ddweud y byddai'n galw'r babi yn 'Aeron' os mae crwt bydde fe, ond iddi ofyn beth allai alw'r plentyn os mae merch fydde'n dod i'r byd,- ac yn cael yr ateb 'Aeronwy.'
  • Yn 1944 symudodd Dylan a'i deulu i fyw yn Traethgwyn, ger Cei Newydd,- i fyngalo oedd yn eiddo i Dr. a Mrs Albert Evans, Llambed. Majoda oedd enw'r lle, wedi ei enwi ar ôl plant Dr Albert - Margaret, John a David, a phris y rent oedd £1 yr wythnos. Dr. Albert oedd meddyg teulu'r Gelli, Talsarn, a thrwy'r cysylltiad yna y daethant i wybod am y lle. Yma y saethodd William Killick y dryll beiriannol nifer o weithiau y tu allan ac yn y tÅ·, ym mis Mawrth 1945, wedi tipyn o gweryla go danbaid yn nhafarn Y Llew Du yn Y Cei:- hyn oedd yr achos LlÅ·s yn Llambed ym Mis Mehefin y flwyddyn honno.
  • Nôl i'r ffilmio: mae'n debyg fod Rebekah Gilbertson, y Cynhyrchydd, yn wyres i William a Vera Killick, ac mae Sharman Macdonald, ysgrifennydd y sgript, yw mam Keira Knightley.

    Edrychwn ymlaen i weld Jen yn y ffilm yn 2008.

  • Tomos Rhys yn cael llofnodion y sêr

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r ´óÏó´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý