"Yn ystod haf blwyddyn 2000, ymwelais i a'm gwraig Ann 芒 gardd hanesyddol Aberglasney ger Llangathen am y tro cyntaf. Tra yno, cwrddon ni, yn anisgwyliadwy, 芒 Mrs Lona Davies, Berea, Llanbedr Pont Steffan, sef un o fodrybedd fy Mam, a chwaer ieuangaf fy mamgu, y diweddar Mrs Nancy Heath Davies, Cellan. Roedd Anti Lona yn ymwybodol o'r ddiddordeb sydd gen i yn hanes teuluol ac roedd ganddi hi damaid o wybodaeth i mi oddiwrth ei chwaer hynaf, y diweddar Mrs Sally Harries, Pantyronnen, Llanwnnen, sef bod brawd i famgu Nancy, Sally a Lona wedi bod yn ficer, ac wedi ei gladdu ym mynwent Eglwys Llanfihangel ar Arth. Yr unig wybodaeth ychwanegol oedd enw cyntaf y ficer, sef Evan.
Yn ystod mis Ionawr 2007, penderfynais mynd ati i geisio darganfod mwy o wybodaeth am Evan. Trwy ddefnyddio'r We i edrych ar gofnodion genedigaethau, priodasau a marwolaethau, a chofnodion y gwahanol cyfrifiadau rhwng 1841 a 1901, ynglyn 芒 chysylltu efo Clwb Hanes Lleol Llanfihagel ar Arth, Llyfrgell Eglwys Gadeiriol T欧 Ddewi, Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, a ddefnyddio gwasanaethau ymchwilydd proffesiynol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, roedd modd i mi ffurfio braslun o fywyd a gyrfa Y Parchedig Evan Jones.
Ganwyd Evan Jones ym mhlwyf Pencarreg ar ddydd Gwyl Dewi, 1830. Fe oedd mab hynaf John Jones, brodor o blwyf Llanwenog, a'i wraig, Elizabeth, o blwyf Pencarreg. Roedd Elizabeth yn perthyn i'r enwog Barchedig David Jones, Llangan, ac i'r Parchedig Llywelyn Llewellin, Prifathro Coleg Dewi Sant tra bu Evan yno yn astudio. Mae Evan yn dod i'r golwg am y tro cyntaf yng nghyfrifiad 1841. Roedd yn 11 mlwydd oed ac yn byw efo'i rhieni, John Jones, cigydd 35 oed, ac Elizabeth, 30 oed, yn Llwynfallen, ym mhlwyf Pencarreg, Sir Gaerfyrddin. Ar y pryd, roedd y teulu hefyd yn cynnwys Gwen, yn 8 oed, Thomas, 6 oed, a Richard, yn 2 fis oed.
Erbyn cyfrifiad 1851, roedd y teulu wedi symud ar draws y ffin i Sir Aberteifi ac yn byw yn y 'Ffinant Arms' sef tafarn ym mhentref Alltyblaca, ym mhlwyf Llanwenog, - plwyf enedigol John Jones; roedd yn dal i gael ei ddisgrifio fel cigydd. Roedd Evan erbyn hyn yn 21 mlwydd oed ac yn ysgolor yng Ngholeg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, sef sefydliad ar y pryd i hyfforddi y rhai oedd am fod yn offeiriaid yn yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Mae rhaid dyfalu mae trwy ysgoloriaeth daeth Evan i fod yno gan nid oes unrhyw arwydd bod y teulu yn cyfforddus yn ariannol. Mae cyfrifiad 1851 yn dangos hefyd bod Gwen, nawr yn cael ei galw'n Gwenllian, yn 18 oed ac yn dal i fyw efo'i rhieni, a Richard nawr yn 10 oed. Hefyd, roedd gan y teulu ddwy aelod newydd ers 1841, sef Mary, yn 3 oed, a Sarah, sef hen hen famgu i mi, yn 6 mis oed.
Wedi cwblhau astudio o dan ei berthynas, Llywelyn Llewellin, cafodd Evan ei ordeinio'n Offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru ym mis Medi 1853 gan Esgob Llandaf, a'i swydd gyntaf oedd fel Curad yn Radyr, Caerdydd, cyn symud ym 1856 i Landysiliogogo. Ym 1858, penodwyd Evan yn Gurad i Ficer Llandysul. Ym 1860 ysgrifennodd Evan y ddrama, 'Dydd Calan yng Ngheredigion,' o dan yr enw barddol, Ieuan Gwenog. Ysgrifennodd, hefyd, 'John Jones yn yr Ysgol' ac 'Atgofion am Athrofa Ffrwdfal'.
Ym 1860 penodwyd Evan yn Ficer plwyf Llanfihangel ar Arth, ac yma daeth i fod yn adnabyddus trwy'r wlad fel y ficer yn stori Sarah Jacob, Lletherneuadd,- sef y ferch a lwgodd i farwolaeth. Ym Mis Mehefin 1866, priododd Evan ag Elizabeth Morgan, merch cyn ficer Llandysul a ganwyd dwy ferch iddynt, sef Charlotte Elizabeth ym 1867 a Mary Gwenllian ym 1868.
Daeth tristwch i'r teulu bach yn fuan ac ym Mis Mehefin 1868, tri mis ar 么l enedigaeth Mary Gwenllian, bu farw Elizabeth yn 30 mlwydd oed.
Ym 1875, penodwyd Evan yn Rheithor Plwyf Trefdraeth yng ngogledd Sir Benfro, bywiolaeth mewn rhodd teulu Bronwydd, Llangunllo. Roedd pennaeth y teulu yr adeg hon, sef Syr Thomas Davies Lloyd, Barwnig, yn hawlio'r teitl Normanaidd, Arglwydd Cemais, ac roedd y teulu'n berchen llawer o dir yn yr ardal. Yn yr un flwyddyn, priododd Evan am yr ail dro ag Anne Williams, merch y Parchedig Rees Williams, Rheithor Plwyf Faynor yn Sir Frycheiniog. Ym 1890 penodwyd ef fel Maer Trefdraeth gan Syr Marteine Lloyd, Bronwydd (mab Syr Thomas Lloyd), ac ysgrifennodd y llyfr 'A Historical Sketch of Newport, Pembrokeshire'. Daeth tristwch eto i fywyd personol Evan ym 1892 gyda marwolaeth ei ferch ieuaf, Mary Gwenllian, yn 24 mlwydd oed. Claddwyd Mary gyda'i mam ym mynwent Eglwys Llanfihangel ar Arth. Ym 1894 ysgrifennodd Evan ei hunangofiant 'Atgofion am Ddeugain Mlynedd o'm Gweinidogaeth'.
Bu farw Evan ar 28 Ionawr 1904, ychydig o wythnosau cyn ei benblwydd yn 74 mlwydd oed. Yn 么l ei ddymuniad, cafodd wasanaeth yn Eglwys y Santes Fair, Trefdraeth ac wedyn claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel ar Arth gydag Elizabeth a Mary Gwenllian. Canwyd dau o'i hoff emynau yn ystod y dydd, sef Gristion duwiol paid ag ofni a Mae nghyfeillion adre'n myned.
Daeth merch hynaf Evan, sef Charlotte Elizabeth, i fyw yn Nantffin, Alltyblaca am gyfnod ar 么l priodi William Morice Williams ac yma ganwyd merch iddynt, Dorothy ym 1906. Ym 1911 fe fu farw Charlotte Elizabeth yn 45 oed, trwy ei llaw ei hun yn afon Cleddau, yn Hwlffordd, lle'r oedd y teulu'n byw ar y pryd. Daeth Dorothy, yn 5 mlwydd oed, yn 么l i Alltyblaca i fyw gyda fy hen hen famgu, Sarah Evans, L么n (Blaencrwser), chwaer ei thadcu, Evan. Wedi marwolaeth Sarah ym 1926, symudodd Dorothy i fyw yn T欧 Capel y Bryn, Cwrtnewydd, gyda merch Sarah, Hannah Thomas, a'r teulu cyn priodi Harry Mead o Lundain. Daeth cwmwl dros y teulu unwaith eto pan fu farw Dorothy ym 1935 yn 28 mlwydd oed. Claddwyd ym mynwent Capel Alltyblaca gyda Sarah Evans, L么n. Roedd ei g诺r, Harry, eisoes wedi marw yn ifanc ym 1933 yn 30 mlwydd oed. Gadawodd ferch fach dair mlwydd oed, Ivy, yn amddifad a chodwyd hi gan ei pherthynas, Hannah Thomas, a'r teulu yn T欧 Capel y Bryn. Ym 1963, symudodd Ivy i Gaerfyrddin ar ol priodi.
Diolch i Mrs Lona Davies, Berea, Llanbedr Pont Steffan (gwybodaeth) a Mrs Irene Price, Gelliwrol, Cwmann (lluniau teuluol), ac i Mrs Jenni Hyatt, Aberystwyth, Mr Gerald Coles, Llanfihangel ar Arth, Mr Steve Dube, Pencader a Mrs Nona Rees, Eglwys Gadeiriol T欧 Ddewi am eu cymorth yghlyn 芒'r ymchwil yma."