Fel un a gafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Gyfun Llambed, mae gyrfa Steven wedi dilyn cwrs eithriadol o lwyddiannus. Ar 么l graddio ym Mhrifysgol Bryste mewn Biocemeg, cafodd Steven, mab Olive a John Jones, Dolaugwyrddion, wahoddiad i astudio am radd uwch ym Mhrifysgol Simon Fraser, Vancouver. Yna derbyniwyd yr ysgolhaig disglair i astudio ymhellach yng Nghaergrawnt, lle enillodd ei ddoethuriaeth. Yn dilyn y cyfnod llwyddiannus yma, cafodd wahoddiad gan un o wyddonwyr amlycaf Canada i sefydlu Adran Geneteg yn Vancouver, ac y mae llwyddiant yr adran honno wedi derbyn clod led-led y byd. Canolbwyntio y mae'r gwaith ar ymchwil cancer; mae'r
astudiaeth yn seiliedig ar ddeall y pwysigrwydd o adnabod r么l y genynnau yn y corff, er mwyn ceisio rheoli'r tostrwydd. Rhai blynyddoedd yn 么l bellach, Steven oedd y cyntaf i goncro ein dealltwriaeth o'r feirws 'SARS'. Erbyn hyn, ef yw Pennaeth yr Adran 'Bioinformatics' yn Vancouver, ac y mae tua 180 o bobol yn gweithio yn yr adran. Heblaw am gael ei gydnabod fel un o'r myfyrwyr disgleiriaf a ddaeth allan o Brifysgol Simon Fraser, daeth anrhydedd pellach i'w ran. Penodwyd ef, gan banel annibynnol, ymysg y deugain o bobl ifanc mwyaf blaenllaw o dan ddeugain oed a fydd, yn 么l y panel, yn arweinwyr y dyfodol yng Nghanada mewn gwahanol feysydd. Anrhydedd yn wir.
Mae'r g诺r tawel, diymhongar yma, sydd bellach wedi ei benodi'n Athro ym Mhrifysgol British Colombia, wedi dod 芒 chlod i'w deulu, i'w hen ysgol, ac i'r gymdogaeth. Edrychwn ymlaen am lwyddiant pellach yn ei yrfa. Erthygl gan Twynog Davies
|