Rhoddwyd croeso i'r tyrfaoedd mawr a ddaeth i bob achlysur a gynhaliwyd dros ein penwythnos dathlu. Hoffwn ddiolch o galon i'r Pwyllgor, cyn ddisgyblion, plant a rhieni am eu gwaith caled ac i bawb am eu hymateb a'u cefnogaeth.
Ar y nos Wener, gwnaeth y plant eu gwaith yn dda, a gobeithiwn y bydd fideo ar gael. Cafwyd llawer o hwyl wrth weld amryw o berfformiadau difyr. Roedd cawl blasus ar gael i bawb wedi ei baratoi gan ein Cogyddes Ms. Eleri Davies - nid ar chwarae bach mae paratoi cawl i 400!
Roedd y pwyllgor wedi archebu mygiau arbennig a ddyluniwyd gan Mrs Eleri Lewis
Ffosffald er mwyn eu rhoi i ddisgyblion yr Ysgol a chyn ddisgyblion dros naw deg oed. Ond erbyn hyn mae Capten Tony Jones wedi cynnig talu amdanynt. Diolch o galon iddo.
Buom yn ffodus iawn i gael heulwen braf trwy gydol dydd Sadrn ac roedd yr ysgol a'r wlad ar eu gorau. Plannodd Mrs. Elizabeth Mary Jones (Lizzy Mary) ddwy goeden ar y dydd Sadwrn gyda llawer o help wrth y plant. Torrwyd un gacen ddathlu gan Lizzy Mary a'r llall gan staff yr Ysgol. Paratowyd te hyfryd i bawb gan ein Cogyddes, y mamau a Sefydliad y Merched. Cafwyd amser diddorol gan bawb yn pori trwy'r lluniau yn yr Arddangosfa.
Y noson honno. cafwyd gwledd o gyngerdd 'n么l yng Nghae Pen Pom Pren gyda llawer o artistiaid disglair. Bu Mr. Gareth Jones, Cyfarwyddwr Addysg y Sir yn ein cyfarch gydag englyn arbennig o'i waith ei hun. Llywyddion y nos oedd Mr. Trevor Bennett, Mrs. Betty Smith a Mrs. Jean Jenkins. 'Faciwis o Lundain a fynychodd yr ysgol adeg yr ail Ryfel Byd. Roedd dau 'faciwi arall yno hefyd, sef Mr. Ralph Buckley o Lambed a Mrs. Joyce Thompson o Swydd Gaint. Roedd y Cyngor Cymuned wedi rhoi torch o flodau iddynt i'w gosod o flaen y gofeb yn y pentre. Yn ystod y noson, gwerthwyd llun o waith Mrs. Aerwen Griffiths, (Montage o ardal Llanwenog) gan Mr. Mark Evans. Mae printiadau o'r llun i'w cael trwy'r Ysgol.
Bore Sul daeth nifer o bobl ynghyd i weld y dorch flodau yn cael ei gosod o
flaen y gofeb. Teimlwn ei bod yn bwysig yng nghanol y dathliadau i ni gofio cyn ddisgyblion yr ysgol a wnaeth yr aberth fwyaf yn y ddau ryfel byd. Cafwyd amser
pleserus yn ystod y dydd gyda llawer o bobl yn galw yn yr ysgol unwaith eto i gymdeithasu a thrafod y dyddiau a fu.
Yn y prynhawn aeth llawer i'r Eglwys i ymuno mewn gwasanaeth arbennig dan arweiniad y ficer, y Parch. Bill Fillery ac i wrando ar gyn卢 ficer y plwyf, y Parch. Richard Evans, Llanilar yn pregethu. Roedd yr
Eglwys wedi ei haddurno yn gelfydd iawn gan chwiorydd yr Eglwys. Diolch yn fawr iddynt.
Roedd yr Eglwys yn llawn erbyn y nos hefyd ar gyfer y Gymanfa dan arweiniad medrus Mr. Alun Guy o Gaerdydd. Roedd e'n canmol y canu yn fawr iawn ac yn bendant roedd yr eglwys yn morio o gerddoriaeth rhwng y canu a'r ddwy organ! Mrs. Pauline Roberts Jones oedd yn chwarae'r organ fawr gyda Mr. Brian Jones ar yr organ electroneg. Un emyn arbennig a ganwyd oedd `Meysydd' - y d么n gan Gwawr Jones, a'r geiriau gan ei mam, Mrs. Gillian Jones, llywydd y noson.
Cyd-ddigwyddiad ffodus iawn oedd fod 'Carreg Ogam Rhuddlan' yn 么l yn y fynwent. Mae'r garreg wreiddiol yn dal i fod yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ond mae "replica' arbennig o dda wedi ei gerfio gan Mr. Dennis Jones, Saer Maen lleol, ac yn awr mae'r Garreg Ogam yn 么l yn ddiogel yn y plwyf.