大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Ysgol wledig Ysgolion a thraed yn brifo
Mehefin 2003
Mae'r ddadl wedi dechrau eto tros ddyfodol ysgolion bach wrth i Sir Benfro unwaith eto fynd ati i gau clwstwr yng ngogledd y sir. Y gwahaniaeth y tro yma ydi fod mwy na 50 o blant yn un o'r ysgolion hynny,meddai Dylan Iorwerth ...
Pe bai Ceredigion yn dilyn yr un patrwm, mi fyddai nifer o ysgolion yn ardal Clonc dan fygythiad yfory nesa'. Cau y mae'r ysgol yn Sir Benfro am fod y cyngor yn credu fod ganddyn nhw ffordd well o gynnig gwasanaeth trwy ysgol newydd yng Nghrymych gerllaw.

Ddylen ni ddim esgus fod y rhain yn gwestiynau hollol hawdd eu hateb - mae yna rai bendithion mewn ysgolion mwy ac, yn sicr, mae'n bosib crynhoi rhagor o adnoddau ffasiwn newydd i un lle. Ond ddechrau'r mis diwetha' roedd y Rhostio Mochyn blynyddol yn digwydd yn Ysgol Cwrtnewydd a'r lle yn llawn bwrlwm a theyrngarwch brodorion y cylch yn dangos fod ysgol yn parhau'n ganolog i fywyd ardal.

Efallai mai yn hynny y mae un o'r cliwiau am yr hyn y gallen nhw' i gyflawni - erbyn hyn, mewn llawer lle, dyma'r un sefydliad sy'n sbarduno mwya' o weithgarwch cymdeithasol hefyd a dyma'r un fan lle bydd pobol leol a mewnfudwyr yn cwrdd.

Os ydi'r ysgolion yn dysgu'r plant i siarad Cymraeg, does yna ddim i sbarduno'r rhieni i wneud yr un peth. Tybed nad oes yna ffordd o ddatblygu ysgolion yn ganolfannau iaith a diwylliant i bobol yr ardal i gyd?

Un o anghenion mawr yr iaith ym mhob cylch bellach ydi creu cyfleoedd i'w defnyddio hi'n gymdeithasol - trwy greu rhywbeth o amgylch yr ysgolion mi fyddai modd lladd sawl deryn gydag un garreg. Mae yna adeiladau yno; mae yna adnoddau o bob math ac mae'n bwynt cyswllt i ganran uchel iawn o'r boblogaeth. Dychymyg - ac arian - sydd eisio.


Traed
Traed
Traed yn brifo?
Dw i'n gobeithio y bydda' i yma'r mis nesa'. Mae yna beryg y bydda' i'n sownd mewn cors rhywle yn ymyl Llynnoedd Teifi, neu y bydda' i'n dal i chwilio am fy nhraed. 'Ar awr wan, mi gytunais i ymuno 芒 chriw o bobol i gerdded ar ran o daith fawr S4C i godi arian at y tai hosbis Ty Hafan a Thy Gobaith. O dan arweiniad y dyn adar, Iolo Williams, y bydd hi ac yntau'n ffresh (wel, yn weddol fresh) o wneud Marathon Llundain.

Mae hwnnw'n cerdded yr holl ffordd o Ddyffryn Conwy i ochrau Caerdydd, 250 milltir o dro, ond dim ond 32 milltir y bydd rhaid i ni eu cerdded - o Bontarfynach, dros y mynydd i Ystrad Fflur a hyd y ffordd i Lanbed.

"Ni", achos bod y musus yn cerdded hefyd - mi fydda' i'n cerdded ar ran Golwg ac Elaine ar ran Twf, y rhaglen i annog rhieni i roi'r Gymraeg i'w plant. Mae yna wythnosau lawer ers addo gwneud, ond rwan mae'r amheuon yn dechrau wrth inni sylweddoli fod 32 o filltiroedd yn gythreulig o bell.

Pawb 芒'i fys lle bo'i ddolur fydd hi (heblaw am y dyn gyda peils, fel y dywedodd rhywun rywdro) ac mae yna beryg mai nyrsio ein traed fyddwn ninnau am ddyddiau ar 么l y daith ar Fehefin 21.

Y broblem fwya' ydi fod yn gas gen i fynd at bobol i holi am arian ... felly os ydech chi am gyfrannu, pl卯s dewch draw i ddweud. Mae'r achos yn un da iawn fel y gwyr unrhyw un sydd 芒 phlant iach yn y teulu.

Un peth na fydda' i ddim yn ei wneud ydi gwisgo trowsus bach. Mi fydd Iolo Williams yn gwneud hynny a fynnwn i ddim am unrhyw bris fynd 芒'r sylw oddi arno fo. Wedi meddwl, efallai mai'r ffordd orau o godi arian fyddai bygwth gwisgo shorts, os na fydd pobol yn talu ...

Colofn Dylan Iorwerth


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy