´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clonc
Twynog Davies yn arwyddo ei lyfrau Cymeriadau bro
Tachwedd 2007
Roedd y Grannell, Llanwnnen dan ei sang nos Iau 25 Hydref ar gyfer noson lansio cyfrol Cymeriadau Bro gan Twynog Davies.

Cyfrol yw hon yn cynnwys erthyglau ar 44 o gymeriadau a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mhapur bro Clonc. Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y papur, cyhoeddwyd y gyfrol.

Cafwyd cyhoeddusrwydd da i'r noson o flaen llaw gydag eitemau ar Radio Ceredigion, ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru ac ar Wedi 7.

Noson y lansiadDaeth rhyw 140 o bobl ynghyd i'r lansiad a braf oedd gweld nifer fawr o'r cymeriadau eu hunain yn bresennol. Cyflwynodd Dylan Lewis y siaradwyr gwadd sef Twynog Davies, John Williams, Andrew Jones, Dylan Iorwerth a Megan Jones. Darllenodd Dylan Iorwerth englyn o'i waith hefyd.

Aredig portreadau - yn nhir bras
Daear bro; rhoi'r geiriau
Yn oludog fel hadau
Yn y pridd - er mwyn parhau.

Cafwyd dwy gân gan Kees Huysmans gydag Elonwy Pugh yn cyfeilio. Gwahoddodd y gynulleidfa i ymuno ag ef yn yr ail gân. Y cyfan yn ddifyr ac yn adloniant pur. Gweinwyd cawl blasus a phice bach gan staff y Grannell wedyn, a phawb wedi mwynhau gwledd.

Yn ystod hyn oll, gwelwyd lluniau o'r cymeriadau sy'n destun i'r gyfrol ar sgrîn fawr yn yr ystafell.

Cyfrannodd nifer o bobl wobrau i'r raffl, a gwerthfawrogir hynny'n fawr iawn. Yr enillwyr oedd: Gwynfor Lewis, Alan Morgan, John Meirion Jones, Liz Mills, Megan Jones, Magw Hughes, Rhian Twynog, Anita Williams a Twynog Davies.

Noson y lansiadCyn i bawb gasglu a phrynu eu copïau diolchodd Dylan i bawb a gymerodd ran, ac i bawb a gefnogodd ac a gyfrannodd tuag at lwyddiant y noson a'r gyfrol. Cyflwynwyd tlws i Twynog fel gwerthfawrogiad o'i waith gan Iestyn a Morgan, a chyflwynwyd blodau i Hazel gan Sara a Mari.

Bu Twynog yn ddigon caredig i arwyddo llyfrau i'r rhai â diddordeb, tra bu gweddill y gynulleidfa yn cymdeithasu wedi noson hwylus a braf.

Gwerthfawrogwyd cydweithrediad swyddogion Prosiect Papurau Bro Ceredigion a Sir Benfro gyda chasglu deunydd a theipio. Diolchir hefyd am gefnogaeth ariannol 'Milltir Sgwâr' a 'Cynnal Ceredigion', ac i wasg Y Lolfa am eu gwaith glan. Gwerthwyd 272 o danysgrifiadau o flaen llaw, a diolch i Nia a Mary am y gwaith gweinyddu trefnus.

Gobeithir y bydd y llyfrau ar werth nawr yn yr un siopau sy'n gwerthu Clonc o fis i fis yn ogystal ag ambell siop arall yn yr ardal. Bargen am £4.95. Os na ellir dod o hyd i gopi ffoniwch Nia neu Mary ar 01570 480015. Codir £1 ychwanegol am bostio. Danfonwch eich sieciau'n daladwy i CLONC, Maesglas, Drefach, Llanybydder, SA40 9YB.

Rhai o'r cymeriadau bro

  • J. Dilwyn Williams, Felinfach
  • David Morgan, Cwmann
  • Aerwen Griffiths, Llanfair Clydogau
  • Harold Williams, Cwmann

    Mae dros deugain portread o gymeriadau lleol yn y llyfr, gan gynnwys Mr Dylan Iorwerth, Dr Islwyn Ffowc Elis, Mrs Sulwen Morgan, Miss Elin Jones, Y Parch Wynn Vittle a Mr Dylan Wyn.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r ´óÏó´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý