大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Llun o redwyr Sarn Helen Clwb Rhedeg Sarn Helen
Medi 2008
Hanes wyth o aelodau clwb rhedeg Sarn Helen a deithiodd i Lanberis i gymryd rhan yn Ras Yr Wyddfa.

Ar ddydd Sadwrn diwethaf mis Gorffennaf aeth wyth o aelodau y clwb i Lanberis i gymryd rhan yn Ras Yr Wyddfa. Mae'r ras yn dechrau yn Llanberis ac yn dringo 3,210 o droedfeddi i Gopa'r Wyddfa, ac yna n么l lawr i Lanberis Diwrnod twym iawn, a'r haul yn cael effaith ar rai o'r rhedwyr. Roedd 500 o redwyr.

Cafodd Dawn Kenwright ras dda gan gipio y wobr gyntaf yng nhategori Vet 50, ac hefyd Carwyn Thomas yn cael ras arbennig o dda ac yn cyrraedd copa'r Wyddfa mewn 51 munud a 10 eiliad gan ddod lawr mewn 27 munud a 39 eiliadau.

Y canlyniadau, safle 24 - Carwyn Thomas 1 awr 18m a 41 e, 103- Glyn Price 1awr 33 m a 22 e, 160 - Mark Dunscombe 1awr 39m 16e, 220 - Huw Rowcliffe 1awr 44m a 44 e, 224 - Richard Marks 1awr 50m a 37 e 281 - Dawn Kenwright 1awr 50m a 37e, 296- Huw Price 1awr 52m a 3 e, 443 - Caryl Davies 2awr 17m a 21e.

Cynhaliwyd ras flynyddol y clwb yn ysgol Felin Fach. Ar 么l cwblhau'r chew milltir dyma ganlyniadau clwb Sarn Helen. 2il Andrew Abbot 33 m 29 e, Dynion 40 1af Glyn Price 33 m 12 e, Dynion 50 2il Richard Marks 37m 02 e. Menywod 35 3ydd Caroline John 42 m 46 e

Ras y plant, 3000 medr bechgyn 1af Davy Lewis Carmarthen Harriers 11 m 35 e 2il Rhys Evans 12 m 35 e , 3ydd Sion Price Ysgol Gyfun Aberaeron 12 m 50 e. 1af merched Sian Downes Ysgol Gyfun Aberaeron 13 m 31 e, 2il Rhian Jones Sarn Helen 14 m 5 e, 3ydd Bethan Haf Jones Tregaron 15 m 36 e.

1500 medr bechgyn 1af Alan Davies Sarn Helen 6 m 28 e 2il Osian Jones Felin Fach 6 m 42 e, 3ydd Ieuan Wyn Rees Llangeitho 6 m 56 e. Merched 1af Katja Birkett Sarn Helen 7 m 02 e, 2il Luned Medi Jones Cwrtnewydd 7 m 03 e, 3ydd Gwawr Edwards Felin Fach 7 m 30 e.

800 medr bechgyn1af Aled Sion Jones Bronant 3 m 24 e, 2il Jack Dafydd Richards Aberaeron 3 m 26 e, 3ydd Tomos Lewis Tregaron 3 m 29 e. Merched 1af Alaw Mair Jones Felin Fach 3 m 35 e, 2il Llio Jones Felin Fach 3 m 39 e, 3ydd Alaw Fflur Jones Felin Fach 3 m 53 e.

Carwyn Thomas yn ennill ras 10K 'Silver Valley' Hermon mewn amser 37 m a 55 e ac yn safle 27 roedd Gareth Jones 53 m a 40 e, a Caryl Davies 58 m a 32 e.

Carwyn Thomas yn ennill unwaith yn rhagor yn Ras Frenni 8 milltir yng Nghrymych mewn 44 m a 8 e, safle 20 - Haydn Lloyd 58 m 8 e, 26 - Gareth Jones 1awr 4 m 31e, 27 - David Thomas 1awr 5 m 46 e, 32 - Janet Jones 1 awr 1 m 10 e.

Mark Dunsombe yn gorffen yn safle 38fed yn ras Abertawe 5K,a Glyn Price yn gorffen yn bedwerydd yn ras Amman Valley 10K ac yn cael ail i ddynion 16 -Mark Dunscombe, Huw Price, 55 - Lyn Rees, 119 - Allen Watts. Yn ras hwyl Llangeitho cafodd y plant rasus da iawn. Lleucu Ifans yn ennill ei ras a Katia Birkett hefyd yn ennill ras blwyddyn 5 a 6. Ras ddwy filltir Rhian Jones yn ennill, ac yn ras y bechgyn Heulyn Evans yn cael ail. Ras menywod 4 milltir, 2il Janet Jones, a'r dynion Rhys Evans yn 3ydd. Caryl Davies yn ennill y ras chwech milltir , a Carwyn Thomas y cael cyntaf yn ras y dynion, 2il Haydn Lloyd dynion dros 50 Lyn Rees yn ennill y categori.

Ras trawsgwlad o Caio i Lanwrda: ail Janet Jones vet 35, 2il Haydn Lloyd dynion agored, ac ail hefyd i Gareth Jones Vet 40. Janet a Gareth yn ennill gwobr y p芒r priod.

Ras y Maer 10K yn Aberteifi: Carwyn Thomas yn ennill y ras mewn 35 m 21 e, 4ydd Glyn Price 36m 29 e ac yn cael y cyntaf yn y dynion dros 40 oed.

Caryl Davies a Haydn Lloyd y ddau yn cael trydydd safle yn ras hwyl 8 filltir yn Myddfai, a Rhian Jones yn cael ail yn y ras ddwy filltir i'r plant.

Ras 10 K Rhedwyr Ingli yn Abergwaun: Glyn Price yn ennill ei ras i ddynion dros 40 oed 35m a 45e, a Michael Davies yn ennill y dynion agored 36m 32e ac Allen Watts yn cael ail i ddynion dros 70 oed 1 awr 21m a 15e. Sarn Helen enillodd y t卯m sef Glyn Price, Michael Davies a Richard Marks.

Cyfres gyntaf Poppit Sands: 1af Carwyn Thomas 17m 51e, 3ydd Andrew Abbott 18 m a 57e. Dynion 40 2il Mark Dunsombe 20m 38e, Rhys Evans 2il 23m 5e, yn adran bechgyn ieuanc a Rhian Jones 12m 24e yn gyntaf yn adran y plant. Yr ail gyfres, 1af Carwyn Thomas 17 m 10e, 3ydd Andrew Abbott 17m 47e, 5ed Glyn Price 18m 08e ac yn ennill y categori dynion 40. Rhys Evans 23m 22e yn drydydd yn y bechgyn ieuanc, Caryl Davies 26m 59e yn drydydd yn y merched agored, a Rhian Jones 11m 40e yn ennill ras y plant. Y drydedd gyfres: 1af Carwyn Thomas 17 m 7e, 3ydd Andrew Abbott 18m 43e, 3ydd Bechgyn ieuanc, Rhys Evans 24m 24e. 3ydd merched agored Caryl Davies 25m 39e a Rhian Jones yn ennill ras y plant. Ar ddiwedd y noson yr enillwyr allan o'r dair gyfres oedd Carwyn Thomas, Rhys Evans a Rhian Jones.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy