popty Tachwedd 2004 Cynhaliwyd clyweliadau lleisiol ac offerynnol yn yr ysgol yn ddiweddar ar gyfer y rhaglen dalent 'Popty' ar S4C.
Llwyddodd saith disgybl i gyrraedd y rownd nesaf o glyweliadau sef Gwenann Jones, Laura Southall, Casi Tan (blwyddyn 13) a Ffion Evans, Elinor Jones a Gwawr Jones (blwyddyn 12). Roedd rhaid gadael Llanbed am y Ffatri Bop, y Rhondda tua 7.30 y bore. Treuliwyd y bore yn gwneud coreograffi gyda Debbie Chapman a'r prynhawn mewn sesiwn ganu gyda Steffan Rhys Williarns. Roedd merched o Gaerdydd, Rhymni, Strade a Bro Myrddin yn derbyn clyweliadau ac ar ddiwedd diwrnod blinedig iawn. Dewiswyd pedair o ferched i greu Band -dwy o'r Strade a Casi Tan ac Elinor Jones o Lanbed. Roedd Uned 5 yno yn ffilmio drwy'r dydd gan y bydd rhaglen yn dangos sut ffurfiwyd y band. Ym mis Tachwedd bydd y merched yn mynd i Gaerdydd i recordio ac i wneud fideo. Edrychwn ymlaen i wylio'r gyfres, a fydd yn dilyn hynt a helynt y band yn cael ei darlledu ar S4C yn y dyfodol agos.