大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Rob Phillips a Delyth Morgans Dewch i gwrdd 芒'r Maer newydd
Mehefin 2010
Hanes Rob Phillips, Maer newydd Llanbedr-Pont-Steffan.

Ar un llaw, wyneb newydd i rai, gan nad yw Maer ifanc newydd tref Llanbedr Pont Steffan yn enedigol o'r ardal hon. Ond ar y llaw arall wyneb cyfarwydd gan ei fod wedi ei daflu ei hunan yn bendramwnwgl i weithgarwch y dref ers sawl blwyddyn bellach.

Un o ardal Ferthyr Tydfil yn wreiddiol yw'r Cyng. Rob Phillips sydd bellach yn byw yn Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan. Ganwyd ef ym mhentref Trelewis cyn symud i Bencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Tra yn Ysgol Gyfun Pencoed, ysgogwyd ei ddiddordeb i ddysgu Cymraeg, a phenderfynodd barhau i astudio Cymraeg yn y brifysgol. A dyma ddechrau ar briodas gadarn 芒'i ardal fabwysiedig - daeth yn fyfyriwr brwdfrydig i Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan ym 1995.

Wrth i chi siarad ag ef heddiw, gallech feddwl ei fod wedi siarad Cymraeg erioed. Mae'n hollol gyffyrddus yn siarad Cymraeg ac yn siarad fel un ohonom ni yn yr ardal hon gyda thafodiaith hyfryd Ceredigion yn llifo'n ddirwystr dros ei wefusau.

Ond magwyd ef mewn cartref hollol ddi-gymraeg. Aeth i ysgolion cyfrwng Saesneg. Does dim gair o Gymraeg gan ei rieni a does dim cysylltiad teuluol ganddo 芒'r ardal hon. Eto i gyd gallech ddadlau ei fod yn fwy o Gardi o ran iaith ac egwyddorion na llawer o Gardis brodorol.

Tra yn y coleg yn Llambed, ymdoddodd i fywyd yr ardal. Yn hytrach na chuddio tu 么l i furiau'r coleg fel llawer iawn o'i gyd fyfyrwyr, gwelodd fod siarad Cymraeg 芒 phobl y dref o fudd iddo.

Efallai bod rhai ohonoch yn ei gofio yn gweithio yn siop Spar, Llambed. Tra yn y coleg bu'n byw yn Neuadd Simon Evans ac yn Nheras yr Orsaf.

Efallai bod rhai ohonoch yn cofio iddo sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn 1999 yn etholiadau'r cyngor sir.

Does dim angen dweud iddo lwyddo i ennill gradd anrhydedd yn y Gymraeg. Hoffai dalu teyrnged i Dr Christine Jones a fu'n gymaint o ddylanwad arno ac am arweinyddiaeth Dr Cathryn Jenkins hefyd.

Aeth Rob ymlaen wedyn i astudio fel myfyriwr 么l radd a gweithio rhan amser yn yr Adran Gymraeg, ac erbyn hyn mae ganddo MPhil mewn Hanes a'r Gymraeg. Arbenigodd ar effaith gorfodaeth filwrol ar y gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Byddai cynnwys ei ymchwil yn si诺r o fod o ddiddordeb i ddarllenwyr Clonc rhywbryd!! Yn 2001, daeth yn amser iddo chwilio am swydd, a phenderfynu aros yn Llambed y gwnaeth Rob.

Mae'n talu teyrnged i bobl yr ardal am eu cefnogaeth.

Pwysleisia nad person y ddinas yw e a'i fod yn hollol gartrefol yn Llambed. Mae'n canmol yr ardal am yr holl gymdeithasau sydd yma.

Bu'n llwyddiannus wrth sicrhau swydd ymhlith 300 o weithwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Bu'n gweithio yn Is Adran Digidol am bum mlynedd. Erbyn hyn mae'n gweithio yn Is Adran Derbyn.

Rob sy'n gyfrifol am yr Uned Adnau Cyfreithiol.

Ymhlith ei ddyletswyddau mae'n arwain t卯m sy'n archifo gwefannau gan gynnwys gwefan Clonc.

Mewn oes sy'n symud o gofnodi ar bapur i gyfathrebu ar y we ac ar e-bost, mae'r Llyfrgell genedlaethol yn ceisio dygymod 芒'r her o archifo digidol ar gyfer ymchwilwyr y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae'r Llyfrgell yn archifo rhyw wyth cant o wefannau.

Mae Rob yn dod 芒'i arbenigedd digidol n么l i Lambed gydag ef gyda'r hwyr. Mae'n aelod o Gyngor y Dref a'r Ford Gron ers 1999, ac ef sy'n gyfrifol am weinyddu gwefannau'r ddau sefydliad.

Rob sydd wedi llunio Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor. Rhyfedd meddwl bod rhaid cael rhywun o'r tu allan i'r ardal Gymraeg hon yn wreiddiol i Gymreigio'r Cyngor Dref.

Ond braf gweld nad ar bapur yn unig y mae'r polisi.

Yn y Seremoni Sefydlu Maer newydd a gynhaliwyd yn Hen Neuadd y Coleg yn ddiweddar, cynhaliwyd y cyfan yn Gymraeg a chyflogwyd cyfieithydd ar y pryd i gynorthwyo'r di Gymraeg oedd yno gan gynnwys teulu'r maer ei hunan. Dyma batrwm sy'n enghraifft dda i gyfarfodydd cyhoeddus eraill a gynhelir yn yr ardal hon.

Nid un i fod yn segur yw ein Maer newydd. Mae wrth ei fodd yn cerdded strydoedd y dref yn sgwrsio gyda hwn a'r llall. Mae'n mwynhau ei beint yn nhafarnau'r dref ac yn hoffi paned bach yng nghaffi Contis nawr ac yn y man.

Mae wedi bod yn weithgar tu hwnt wrth godi arian tuag at gynnal a chadw Pwll Nofio'r dref.

Mae'n paratoi'r dogfennau ar hyn o bryd i drosglwyddo'r pwll i ddwylo'r awdurdod wrth iddyn nhw sefydlu un canolfan rhwng yr Ysgol Gyfun, Ysgol Ffynnonbedr, y Ganolfan Hamdden a'r Pwll Nofio. Gwna waith dyngarol hefyd a hynny gyda'r Ford Gron.

Y prosiect diweddaraf yw datblygu'r ardd yng Nghanolfan Deulu'r dref. Llwydda i ddarganfod amser ar gyfer parhau 芒'i ddiddordebau hefyd. Ymddiddora mewn Hanes Diwydiannol.

Mae'n hoff iawn o ddarllen am Weithfeydd Haearn Merthyr Tydfil.

Mae cerdded yn mynd 芒'i fryd yn ei amser hamdden a gallech ei weld yn cerdded Llwybr Arfordirol Sir Benfro ar benwythnosau gyda'i gamera.

Ei ffotograffau sy'n addurno muriau ei gartref yn Barley Mow.

Ar ben hyn oll, mae'n dilyn cwrs Llyfrgellyddiaeth 么l-radd diploma ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn Astudiaethau Gwybodaeth. Ble mae e'n dod o hyd i amser dywedwch?

Ond pwy yw'r fenyw dlos sydd wrth ei ochr yn y llun? Beth am Faeres?

Mae llawer iawn ohonoch yn ei hadnabod fel Delyth Morgans o Drefilan.

Hi yw cariad Rob, os yw e'n gallu chwilio lle yn ei ddyddiadur ar ei chyfer.

Mae Delyth wedi bodloni bod yn gonsort iddo am eleni tra ei fod yn gwneud swydd bwysig dros bobl Llambed fel Maer y Dref.

Wedi'r cwbl, efallai mai dyma'r unig ffordd iddynt weld ei gilydd gan fod blwyddyn brysur iawn o'i flaen.

Pob hwyl i Rob yn ei swydd anrhydeddus. Edrychwn ymlaen at weld y ddau yn nigwyddiadau'r dref.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy