Mae Dylan Iorwerth yn bwrw golwg newydd ar dref Llanbed ...
Dw i wedi treulio rhan helaeth o'r wythnosau diwetha' yn cerdded rownd a rownd Llanbed ... a rownd a rownd eto. A hynny heb symud cam o swyddfa Golwg ar y Stad Ddiwydiannol.
Mae'r esboniad yn syml. Ro'n i'n paratoi erthygl Gymraeg a Saesneg ar gyfer ei chyhoeddi, a honno'n disgrifio taith o amgylch Llanbed, gan grwydro o adeilad i adeilad.
Na, dydi Golwg ddim wedi troi'n ddwyieithog. Rhan o fusnes y cwmni ydi cynhyrchu cylchgrawn ar ran Cadw, y corff hen adeiladau. Mae yna fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wah芒n yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn - Etifeddiaeth y Cymry a Heritage in Wales - ac yn y rhifyn nesa' y mae'r disgrifiad o'r daith rownd Llanbed.
Y rheswm ydi fod yna lyfr mawr newydd wedi ei gyhoeddi am adeiladau pwysig yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin. Yn 么l y rhai sy'n gwybod, y llyfrau yma - cyfres Pevsner - ydi beiblau'r hen adeiladau a rhan ohonyn nhw, mae'n debyg, ydi'r hyn sy'n cael ei alw yn perambulations. Na, nid rhywun yn dathlu eu bod newydd gael babi, ond taith gerdded o amgylch rhai o drefi'r ddwy sir yn edrych ar eu hadeiladau hanesyddol.
Mae'r rheiny, wrth gwrs, yn profi un hen hen wirionedd. Os ydech chi'n byw yn rhywle, dydech chi ddim yn sylweddoli ei werth. Does dim anrhydedd i wlad gan ei phroffwyd ei hun.
Rydw i, fel chithau, wedi crwydro ar hyd a lled Llanbed gannoedd o weithiau, bellach, ond dim ond ers rhyw fis yr ydw i wedi gwneud hynny 芒 fy llygaid ar agor yn iawn.
Nid meddwdod oedd yn gyfrifol nad oeddwn i wedi sylwi o'r blaen fod rhan canol y Black Lion yn adeilad arbennig o hardd, yn berffaith o ran siap a mesuriadau ... ond diffyg dysg oedd peidio 芒 gwybod fod dwy ysgol yn stryd yr eglwys.
Ysgol enwog iawn
Mae'r hen ysgol ramadeg ar waelod y stryd yn weddol amlwg, efallai, ond mae'r ysgol enwoca' o'r ddwy ar y pen ucha' - adeilad bach unllawr cerrig. Bron 200 mlynedd yn 么l, mae'n debyg, roedd hon yn ysgol fach enwog iawn, dan ofal dyn o'r enw Williams, ac yno y gyrrodd y nofelydd Syr Walter Scott ei fab i gael addysg, oherwydd ei henw da.
Dw i wedi gwenu sawl tro wrth glywed y cloc yn taro yn Neuadd y Dre' a'i s诺n rhywbeth yn debyg i rywun yn taro tin sard卯ns efo llwy de mewn seler wag. Ond do'n i'n gwybod dim mai'r adeilad yma ydi'r un cynta' o'i fath yng Nghymru - adeilad cyhoeddus mewn steil o'r enw 'Queen Anne Regency Revival'.
Dyna'r ffaith wedyn mai'r cerflunydd enwog, Goscombe John, a gerfiodd gerfiadau pwysig yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, a oedd wedi creu'r milwr ar y gofeb ryfel wrth waelod Heol y Bryn.
Ac, yn fy nhwpdra, wyddwn i ddim fod capel cynta' Llanbed yn dal yno, yn adeilad gwag ychydig y tu 么l i'r Stryd Fawr, i fyny al茅 gul bron gyferbyn 芒 Williams Bach. Mae hwnnw, (y capel, nid Eifion) bellach yn 203 oed.
Mae yna lawer mwy ... ond mae fy nhraed i'n dechrau brifo. Ac mae'n rhyfeddol fel y gallwch chi ddeall hanes tre' trwy gyfrwng ei hadeiladau. Does dim ond angen edrych ar yr holl ysgolion i lawr ym ochr Llanwnnen o Lanbed ... hyd at adeilad newydd Ffynnon Bedr sy'n ddechrau ar bennod arall.
Mae hwnnw'n dangos fod pethau'n newid trwy'r amser. A dyna pam fod yna dristwch o sylwi fod cyfrol Pevsner yn tynnu sylw at adeilad y Swyddfa Bost ac yn dotio at ei harddwch ... efallai y bydd yr adeilad yn aros, ond mi fydd ei bwrpas wedi'i golli.
Yr un gwendid arall, hyd y gwela' i, ydi fod awduron y gyfrol, er mor ddysgedig a doeth ydyn nhw, wedi anghofio un o'r pethau mwya' trawiadol am Lanbed - nodwedd y mae pobol leol i gyd yn gwybod yn iawn amdani.
Mi ddylen nhw fod wedi ychwanegu rhan bach at y daith, i edrych ar y gwaith ar yr hewl yn Stryd y Bont. Ar ryw ffurf neu'i gilydd, mae hwnnw yno ers blynyddoedd ac yn dod yn 么l bob rhyw fis neu ddau ...
Gan: Dylan Iorwerth
Dylan Iorwerth: Lle mewn llenyddiaeth - sgwrs gyda Dei Tomos