大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Goronwy a Beti Evans Syr Terry'n Talu Teyrnged
Rhagfyr 2006
Ychydig feddyliodd y Parch Goronwy Evans pan gafodd alwad ff么n iddo ef a'i briod, Beti, i fynd lawr i safle'r Co-op yn Llanbed brynhawn diwrnod Plant Mewn Angen beth oedd yn ei aros.
Y neges oedd fod angen iddynt s么n am eu profiadau yn trefnu'r digwyddiadau yn ddi-dor yn ardal Llanbed am 25ain mlynedd.

Pan glywodd Beti fod angen siarad, aeth ar streic yn syth - dyw siarad cyhoeddus ddim yn un o'i hoff bethau! A beth bynnag, roedd ganddi bethau pwysicach i'w wneud - sef bod wrth law i dderbyn cyfraniadau'r cyhoedd, busnesau a'r ysgolion a oedd wedi bod wrthi yn brysur gydol y dydd yn casglu a gwneud eu rhan. Yn 么l geiriau Goronwy ei hunan 'Fi sydd 芒'r geg fawr felly bant 芒 fi yn gysurus'.

Yno 'roedd Bws 大象传媒 Cymru wedi cludo Hywel Gwynfryn a'r criw i lawr o'r Gogledd drwy Orllewin Cymru ac ar 么l galw mewn rhai canolfannau ar y ffordd - dyma orffen yn Llanbed.

Bu tipyn o holi a thrafod a chael ar ddeall fod yr ymdrech wedi dechrau yn wreiddiol ar aelwyd y Mans ond yn fuan iawn aeth y lle yn rhy gyfyng ac er cael caraf谩n y tu allan am rai blynyddoedd, symudwyd i'r Coleg am gyfnod ac yna drwy garedigrwydd perchnogion busnesau o'r dre oedd a safleoedd gwag - cael defnydd o'u hadeiladau yn eu tro. Eleni lleolwyd yr ymgyrch yn y Llew Du a gwnaeth Goronwy ar ei ran ef a Beti gydnabod haelioni pob un sydd wedi eu helpu gyda safle addas neu mewn unrhyw ffordd ac yn enwedig yr holl gyfranwyr cyson ar hyd y blynyddoedd.

Datgelwyd yn ystod y sgwrs ei fod ef a Beti wedi derbyn y swm anhygoel o dros 拢800,000 dros y chwarter canrif i'r elusen arbennig yma a gyda'r cyfweliad yn dod i ben dechreuodd Goronwy ymlacio, ond fe'i bwriwyd oddi ar ei echel pan gyflwynodd Hywel Gwynfryn dystysgrif iddo ar ran Syr Terry Wogan, wedi ei harwyddo yn ei law ysgrifen ei hun, fel cydnabyddiaeth o'u llafur caled a'u hymroddiad dros y pum mlynedd ar hugain. Mae'n debyg fod y g诺r 芒 lot i ddweud wedi mynd yn fud am unwaith!!

Serch hynny, mae ef a Beti yn ymfalch茂o yn fawr yn y gydnabyddiaeth yma ac mae yn cael lle parchus iawn yn y Mans.

Llongyfarchiadau a daliwch ati am flynyddoedd lawer eto yw dymuniad holl ddarllenwyr CLONC.

Mae cyfraniadau Llanbed am eleni eisoes yn 拢22,000 sydd yn barod yn fwy na llynedd gyda'r arian yn dal i ddod fewn.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy