大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Creu cwmni drama o greisis
Hydref 2005
Cwmni drama newydd yn teithio cefn gwlad Ceredigion yn cyflwyno ei drama gyntaf, Plaid Leisio.

Yn ystod mis Hydref mi fydd gr诺p o symbylwyr cymdeithasol a diwylliannol yng Ngheredigion yn cymryd y camau cyntaf tuag at sefydlu cwmni theatr cydweithredol. Nod y gr诺p - sydd yn cynrychioli cymdogaethau gwledig ar draws y sir - yw mynd i'r afael ag argyfwng economaidd, ieithyddol a diwylliannol ardaloedd gwledig y gorllewin trwy gyfrwng y ddrama Gymraeg.

Medd Euros Lewis, arweinydd y fenter: 'Dros fisoedd yr haf bu hyd at hanner cant o bobol yn cwrdd yn rheolaidd i drafod yr argyfwng deublyg hwn - argyfwng y ddrama Gymraeg ac argyfwng cyffredinol y cymdogaethau Cymraeg. Yn gyflym iawn datblygwyd consensws mai'r ffordd orau o daclo'r naill sefyllfa a'r llall oedd trwy gyfrwng y diwylliant ei hunan.'

Eisoes mae'r cwmni - sydd yn cael ei adnabod ar hyn o bryd fel Cwmni Troed-y-Rhiw (gan mai yn Festri Troed-y-Rhiw, ym mherfedd cefn-gwlad y cynhaliwyd y cyfarfodydd) - wedi cynnal sesiwn cyflwyno 芒 swyddogion datblygu cymunedol ac, yn 么l Euros, wedi cael ymateb da.

'Yn hanesyddol mae cynllunwyr cymunedol wedi tueddi i edrych ar ardaloedd gwledig yn nhermau beth sydd ddim i gael yno - i gymharu 芒'r dref a'r ddinas hynny yw. Fel cwmni ry' ni wedi dod at yr argyfwng o gyfeiriad gwahanol, sef: beth yw'n cryfderau? A'n prif gryfder yw'n diwylliant - yn enwedig ein gallu i gyd-weithio a chyd-greu. Yn hyn o beth mae drama yn feicrocosm o gymdogaeth iach. Pa well arf ar gyfer ail-egnio ein balchder a'n huchelgais ar y naill law a wynebu a mynd-i'r afael 芒'n problemau a'n rhwystredigaethau ar y llaw arall?'

Ar hyn o bryd mae'r criw o blith y cwmni yn teithio cefn-gwlad Ceredigion yn datblygu perthynas 芒'r bobol bwysig hynny sy'n rhoi trefn ar y calendar cymdeithasol tra fod criw arall yn paratoi y cynhyrchiad cyntaf a fydd yn teithio neuaddau cefn-gwlad o Hydref 5 hyd at Hydref 21.

Plaid Leisio yw enw'r ddrama gyntaf, sgript a sgwenwyd yn unswydd ar gyfer y cwmni. Comedi yw hi sy'n seiliedig ar ddyddiad a gofir yn hir yng Ngheredigion: dydd Iau, Mai 5 eleni - diwrnod yr Etholiad Cyffredinol. Pedwar person ifanc sy'n rhannu dwy fflat - un uwchben y llall - yn Aberystwyth yw'r prif gymeriadau. Mae'r pedwar yn dychwelyd o'r dre i'w fflatiau i wylio'r canlyniadau ar y teledu holl bresennol. Ond mae'r ddrama yn cychwyn ymhell cyn i'r canlyniad annisgwyl eu cyrraedd.

Wrth deithio'r ddrama- gan berfformo mewn dwy neuadd gyfagos ar yr un noswaith ambell waith - mi fyddwn yn cynnig i bob aelod o bob cynulleidfa i ddod yn rhan o'r cwmni gan mai sefydlu cwmni cydweithredol go iawn - rhyw fath o Go-op Drama ar lun Co-ops Amaethyddol - yw ei'n bwriad tymor hir', medd Euros.

Perfformir y ddrama yma yn Neuadd Ysgol Cwrtnewydd ar nos Wener, Hydref 14eg am 8y.h. Bydd merch o Gwrtnewydd yn actio yn y ddrama sef Meleri Williams. Pob lwc i ti Meleri yn y byd actio!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy