大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Cymeriad Bro - Harold Williams
Mawrth 2006
Portread o Harold Williams, T欧 Howell, Cwmann gan Twynog Davies.

Wedi gweithio am gyfnod o tua 10 mlynedd cyn ymddeol yn y maes arallgyfeirio ar ffermydd Cymru, diddorol oedd cael cyfweld y cymeriad lliwgar o Gwmann, sydd wedi mentro i faes go anghyffredin er mwyn hybu incwm y fferm. Dyma i chwi ychydig o'i gefndir.

Ganwyd Harold ar fferm Garthmoel Rhydcymerau ond symudodd y teulu i'w gartref presennol pan oedd Harold tua thair oed. Fferm o tua 70 cyfer yw T欧 Howell, ond fe werthwyd tua 40 cyfer i'r Comisiwn Coedwigaeth er mwyn plannu coed. Cedwir tua 140 o ddefaid a 20 o wartheg sugno ar y fferm.

Roedd plentyndod Harold yn dwyn llawer o atgofion iddo, rhai efallai na fedrir ei hail adrodd yn yr erthygl yma! Byddai'n naturiol yn cerdded i Ysgol Coedmor, ac yn wir, mae ganddo atgofion o gerdded gyda'i dad a'i fam i gyngerdd Nadolig mor bell ag ysgol Esgairdawe.

Ar 么l gorffen yn yr ysgol Uwchradd, rhaid oedd chwilio am waith, ac fe gafodd swydd fel 'tea boy' gan gwmni o adeiladwyr 'Horns Contractors' - cwmni oedd yn gyfrifol am godi Tai Cyngor Ffynnonbedr ac yn cyflogi o 80 i 100 o weithwyr. Am baratoi te i'r gweithwyr, enillai gyflog o 拢9 yr wythnos, ond mi fyddai swm cyffelyb yn dod o'r 'tips', gan mai Harold oedd yn gyfrifol am fynd lawr i'r dre i brynu pacedi o 'Woodbines' am 214 y paced, a byddai Harold yn cadw'r newid o hanner coron. Weithiau, byddai'r 'tips' lawer mwy na'r cyflog.

Ar 么l gorffen gyda'r adeiladwyr, penderfynodd ddilyn prentisiaeth i fod yn grydd, a bu wrthi yn gweithio yn y maes yma am bedair blynedd. Er bod ganddo'r cymwysetrau, penderfynodd beidio a dilyn gyrfa fel crydd. Cafodd swydd yn y Co-op yma yn Llanbed a bu yno am flynyddoedd fel 'store-man' yn gyntaf, ac yna yn yr adran fwyd.

O ddarllen rhwng y llinellau, roedd Harold yn dipyn o dderyn yn grwt ifanc. Arferiad ymysg rhai o fechgyn yr ardal, oedd cyfarfod tu allan i ysgol Coedmor am 4 o'r gloch ar brynhawn Sul, a beicio i lawr wedyn i Gei Newydd. Ar 么l cyrraedd rhaid oedd ymdrochi yn y m么r, a chael paced o sglodion cyn troi am adref. Ar un achlysur wrth ddychwelyd adref, cafodd feic Harold 'buncture' tua Gorsgoch. Dyma roi'r beic ar ei ysgwydd a neidio tu 么l i'w ffrind Endaf ar ei feic ef, a gwneud y gorau i osgoi'r heddlu ar y ffordd adref i Gwmann! Ond roedd na droeon trwstan hefyd. Wrth fynd 芒 choeden Nadolig i'w ffrind Tommy Buckingham, a chael par o 'ganaries' yn y fargen, fe syrthiodd Harold ar y ffordd adre a thorri ei goes. Bu yn ysbytai Aberystwyth a Gobowen am bedair wythnos ar ddeg.

'Roedd natur fentrus yn rhan hanfodol o'i gymeriad, ac ar 么l gwella o'i ddamwain, dyma ddechrau ymddiddori mewn 'scramblo' ar gefn `motor beic' ac roedd yna gwrs bryd hynny ar fferm Mount Pleasant ar gyrion y dre.

Dyma wedyn, newid gwaith unwaith yn rhagor. Cychwynodd fusnes 'contracto', aredig a gwasgar calch, gyda'i frawd, ac mae'r ddau yn gyfrifol am drawsnewid llawer o'r hen lechweddau yn y fro, o redyn ac eithin i borfa l芒s. Yn y gaeaf, byddai yn casglu gwellt o ardal y 'Cotswolds', a'i werthu i ffermwyr lleol.

Un o'i ddiddordebau yw magu adar fel 'Budgies', 'Love birds' a'r 'Cockateals', ond nid yw erioed wedi arddangos yr un aderyn mewn sioeau.

Tybed, i ba faes arall y medrai Harold arallgyfeirio? Gwyddom amdano bellach fel g诺r y Bingo a'r Disco. Sylweddolodd tua 14 mlynedd yn 么l, fod yna fwlch yn y farchnad, gan nad oedd neb lleol wrthi'n darparu disgos mewn part茂on ar gyfer plant o bob oedran, ac oedolion. Ar y dechrau ceisio rhoi gwasanaeth i blant Cwmann oedd y bwriad, ond mae'r galw am ei wasanaeth wedi tyfu yn sylweddol dros y blynyddoedd. Prynodd offer addas i'r gwaith a nifer fawr o gryno ddisgiau ac mae'r cyfan yn werth rhyw 拢2,000 erbyn hyn. Mae'r ffefrynau mewn cerddoriaeth yn gwahaniaethu wrth yr oedran. Yn naturiol, mae'r oedolion wrth ei bodd gyda Dafydd Iwan, Timothy, John ac Alun a Iola ac Andy. Mae'r bobol ifanc, yn hapusach gyda 'Grease', Abba' a'r holl grwpiau pop cyfoes. I'r plant, rhaid wrth ganeuon fel y 'City Girls' a'r 'Crazy Frog'! Mae Harold felly, yn gorfod adnabod ei gynulleidfa o'r cychwyn cyntaf.

Yn ddiweddar cychwynodd wasanaeth Bingo ynghyd 芒 Disgo, ac mae'r ddau yn help mawr i fudiadau lleol godi arian sylweddol. Ymfalch茂a Harold yn ei waith yn gofalu am gae chwarae Ram.

Er yn h锚n lanc, mae yn ffefryn mawr gan y merched a'r gwragedd sy'n dilyn y 'Bingo' a'r 'Disgo'. Mae'n derbyn dros 80 o gardiau Nadolig oddiwrth ei edmygwyr, yn flynyddol. Ond nid oes neb wedi'i ddal, hyd yma, ond pwy a w欧r?

Ffermwr a gwerinwr o'r radd flaenaf yw Harold. G诺r sydd yn meddu ar gymeriad hoffus gyda gw锚n gellweirus a drygionus. Mae wrth ei fodd yn cyfarfod pobol, a gwasanaethu Cymdeithas. Mae cymeriadau fel Harold yn brin iawn yn ein hardaloedd gwledig y dyddiau yma.

Erthygl gan Twynog Davies


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy