大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Y dosbarth Ymweld 芒 Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf
Gorffennaf 04
Ar ddydd Gwener, 11eg o Fehefin, bu 71 o ddisgyblion Blwyddyn 9 ar daith i Ffrainc a Gwlad Belg gyda'r adran Hanes i ymweld 芒 Ffosydd Y Rhyfel Byd Cyntaf.


Wedi diwrnod hir o deithio, cyrhaeddom y gwesty yn Lille yn ddiogel. Treuliwyd dydd Sadwrn yng Ngwlad Belg. Yn gyntaf, buom yn ymweld ag Amgueddfa 'Flanders Field' cyn symud ymlaen i weld bedd y Prif fardd Hedd Wyn. Ar 么l picnic yn yr haul aethom i ymweld 芒 mynwent Tyne Cot sef y fynwent Brydeinig fwyaf o'i fath a oedd yn coffau'r milwyr a fu farw tra'n amddiffyn yr 'Ypres Salient'. Aethom ymlaen i ymweld hefyd 芒 mynwent Almaenaidd sef Langemark, mynwent anghyffredin gan nad oes llawer i'w cael yng Ngwlad Belg na Ffrainc.

Cafodd y disgyblion wir brofiad o'r ffosydd yn Hill 62. Yma mae rhan o'r ffosydd wedi cael eu cadw mor debyg 芒 phosib fel yr oedd hi adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelsom i Ypres i gael swper ac i weld seremoni emosiynol ger cofgolofn Menin Gate, Ypres lle chwaraeir y 'Last Post' i gofio am y milwyr colledig bob nos.

Treuliwyd dydd Sul o amgylch ardal y Somme yn Ffrainc. Buom yn ymweld ag Amgueddfa y Rhyfel Mawr yn Peron a hefyd cofgolofn drawiadol Thiepval. Treuliwyd y prynhawn ym Mharc Coffa Beaumont Hamel, sy'n cofio am ymdrechion milwyr o Newfoundland, Canada yn yr ymladd ffyrnig. Cawsom ein tywys gan fyfyrwyr o Ganada a chafwyd cyfle gwych i flasu hanes y rhyfel gan fod y disgyblion wedi cael cyfle i gerdded drwy'r ffosydd ' o linell flaen y Cynghreiriaid dros dir neb a draw at ffosydd yr Almaenwyr.

I ddiweddu'r gweithgareddau hanesyddol, buom yn ymweld 芒 choedwig Mametz. Yma yn ystod y rhyfel bu milwyr Cymreig yn ymladd er mwyn cipio'r goedwig o feddiant yr Almaenwyr. Braint oedd ymweld 芒 chofgolofn y Ddraig Goch sy'n coffau ymdrech a llwyddiant y Cymry.

Yn wir, cafwyd taith brysur a llwyddiannus. Dychwelsom nos Lun, 14eg o Fehefin, ar 么l cael cyfle i siopa yn Bologne a phawb wedi blino ond wedi mwynhau. Diolch yn fawr i Mrs Margaret Williams am drefnu taith lwyddiannus arall.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy