Priodas ... neu fyw tali?
"I ddyn papur newydd, peth braf ydi cael sg诺p. Stori sy'n cael ei chyhoeddi gynnoch chi cyn neb arall. Stori y mae pawb arall yn ei dilyn.
Mi ddigwyddodd i Golwg y diwrnod o'r blaen, a honno yn stori am Llanbed - cadarnhad fod y Brifysgol yn y dre' a Choleg y Drindod, Caerfyrddin, yn debyg o uno o fewn ychydig fisoedd.
Ac o fewn diwrnod i'r stori ymddangos yn Golwg, roedd hi'n cael sylw ar y 大象传媒 ac yn rhai o'r papurau eraill hefyd. Doedd neb yn dweud ei bod hi yn Golwg gynta'' - ond hen fyd fel yna ydi byd newyddion.
Roedden ni'n gwybod ers tro, wrth gwrs, fod rhywbeth yn y gwynt. Roedd pawb yn gwybod fod y Brifysgol wedi cael trafferthion a bod prifathro dros dro wedi gorfod cael ei benodi.
Roedd un neu ddau wedi sylwi fod Prifathro'r Drindod hefyd i'w weld yn aml o gwmpas y lle ac mae'r Llywodraeth yng Nghaerdydd yn awyddus i weld colegau'n tynnu at ei gilydd.
Dyna pam fod gohebwyr Golwg, fel sawl newyddiadurwr arall, wedi bod yn ceisio darganfod beth oedd y gwir. Ac, yn y diwedd, fel sy'n digwydd yn rhyfeddol o aml, mi weithiodd galwad ff么n a chwestiwn uniongyrchol yn well na phob math o gloddio a chwilota.
Mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol cyn bo hir iawn, pan gawn wybod beth yn union ydi natur y bartneriaeth - priodas, dywedd茂ad neu fyw tali - ond y gobaith yw y bydd uno'n rhoi bywyd newydd yn y campws ynghanol y dre'.
Os bydd y sefydliad newydd yn dilyn arfer Y Drindod, mi fydd yna lawer mwy o gysylltiad rhwng y coleg a'r ardal ac mi fydd sefyllfa'r iaith o fewn y waliau uchel yn cael ei gweddnewid hefyd. Ac mi fydd hynny'n help y tu allan.
Yr eironi, wrth gwrs, ydi fod cynllun o'r fath wedi cael ei drafod flynyddoedd yn 么l ond fod y brifysgol, os ydi'r s茂on yn wir, wedi gwrthod oherwydd fod rhai'n edrych i lawr eu trwynau braidd ar y Drindod.
Erbyn hyn, mae'r coleg yng Nghaerfyrddin wedi cael statws prifysgol hefyd ac mae'r esgid ar y droed arall, wrth i'r penaethiaid yno addasu i ddilyn polis茂au'r Llywodraeth ym Mae Caerdydd. Gweld sut mae'r gwynt yn chwythu a hwylio yr un ffordd.
Diwedd felly, efallai, ar y syniad o droi hen Brifysgol Dewi Sant yn goleg i swyddogion y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus eraill. O glywed y trafferthion sydd i berswadio'r gweision sifil yng Nghaerdydd i symud i Aberystwyth, mi fyddai hwnnw'n dalcen caled, beth bynnag.
Cofiwch, mi fyddai wedi bod yn ddiddorol gweld darpar-uchel swyddogion y Llywodraeth yn cael cinio ym Mark Lane a pheint bach yn y Castle ac efallai y byddai rhai wedi ymuno 芒'r Ffermwyr Ifanc.
Hyd yn oed hebddyn nhw, y gobaith ydi y bydd coleg ar newydd wedd yn denu rhagor o bobl ifanc Gymraeg i'r ardal i roi hwb bach newydd i'r hen le.
Pi ... pi ... pol卯s
O s么n am Ffermwyr Ifanc, roedd eisteddfod y mudiad ym Mrynaman yn llwyddiant mawr i Geredigion, a'r sir yn ennill o hewl.
Ymhlith nifer o wobrau lleol, un o'r uchafbwyntiau yn 么l pawb oedd C芒n Actol Clwb Llanwenog, yn awgrymu y byddai gwyliau yn Sir Gaerfyrddin yn ddewis da yn lle'r Bahamas yng nghanol y credit crynsh.
Yr uchafbwynt o fewn yr uchafbwynt oedd yr olygfa bi-pi ar hen Gae'r Strade yn Llanelli. Fydd clywed tyrfa'r Scarlets yn canu "Sosban Fach" ac "Wp e mewn Dai" ddim cweit yr un peth ar 么l hynna.
Dim ond dau beth oedd yn fy mhoeni fi.
Ar 么l bod yn llai na charedig at Gonstabiwlari Dyfed Powys a'u pencadlys yn Llangynnwr, dw i'n awgrymu y dylai awdur y geiriau, Y Br Pete Ebsworth, yrru'n arafach nes i bawb anghofio.
A'r un peth arall oedd neges y g芒n olaf, yn cael ei chanu gan Elin 'Lifestyle' Jones o Faesycrugiau. Yn 么l honno, Ceredigion yw'r orau a "gallwch gadw eich Shir G芒r".
Ond lle'n union mae Maesycrugiau?"