Fe wyddom ni i gyd yn union lle'r ydym ni'n byw ac rydym ni i gyd yn gwybod beth yw enw'r pentref a'r plwyf. Ac fe wyddom ni beth yw enw'r pentref nesaf. Ond faint ohonom ni sydd wedi ystyried beth yw ystyr rhai o'r enwau hynny? Maen nhw i gyd yn enwau pwysig. Dyma'r labeli sy'n gwahaniaethu rhwng gwahanol rannau ein cymdogaeth ni.
Ond mae enwau lleoedd yn fwy na labeli bach cyfleus i'r postmon, oherwydd dyma'r enwau sy'n ein cynrychioli ni yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn y byd mawr tu allan. Enwau lleoedd yw'r unig elfennau ar fap nad oes modd o gwbl eu cynrychioli nhw gan arwydd neu simbol. Heb enw lle, mae'r map yn diffygiol. Mae'r Llywodraeth yn mynnu bod rhif adnabod yn cael ei roi i bob cae ac i bob llain ac i bob cilcyn. Ond dyw hyn yn golygu bod rhaid anwybyddu enwau caeau ac enwau lleoedd sydd yn aml yn ganrifoedd oed.
Mae enwau caeau hefyd yn bwysig. Mae enwau caeau'n cyflwyno hanes sydd heb ei gofnodi mewn geiriau, yn cynrychioli cof y filltir sgwar, yn datgelu mentergarwch a dyfeisgarwch a dirgelion ein milltir sgwâr ni dros genedlaethau lawer.
'Milltir sgwâr', 'bro', 'cynefin' - dyma'r eirfa sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r lleoedd hynny sy'n rhan ohonom ni, sy'n eiddo i ni ac sydd wedi llywio ein bodolaeth ni. A rhan o'r cyfrifoldeb cyffredinol at gadwriaeth sydd ar bob un ohonom ni yw gofalu am barhad yr enwau hyn a throsglwyddo gwybodaeth am y pethau hyn.
Ond weithiau pan fydd Å· neu ffarm yn newid dwylo, mae'r enw yn cael ei newid hefyd. Mae'n weithred haerllug ac yn ddim byd llai na fandaliaeth pur. Ac mae'n fandaliaeth, rwy'n ofni, sydd ar gynnydd ac yn amlwg drwy'r wlad. Gall bob un ohonom nodi amryw enghreifftiau. Yn anffodus dyw deddf gwlad a all fod mor biwis am rai manion bethau, ddim yn gefn o gwbl yn y pethau hyn.
Treuliais i ran o'm mhlentyndod yn Felinfoel ac roeddwn i'n gyfarwydd â Swiss Valley. Flynyddoedd yn ddiweddarach y des i'n ymwybodol mai gweithred fwriadol oedd disodli'r enw Cwm Lliedi gan Swiss Valley. Dyw'r rheswm dros wneud hynny ddim o bwys bellach; mae'r drwg wedi'i wneud. Ond ystyriwch mewn difrif, beth mae enw fel Swiss Valley yn ei ddynodi yng nghyd-destun cymuned fel Felinfoel, yng nghyd-destun Sir Gaerfyrddin, yng nghyd-destun Cymru, hyd yn oed yng nghyd-destun gwledydd Prydain? A dyw e'n gwella dim o'i gyfieithu, 'Dyffryn y Swistir'! Ond dyna' r enw cloff sy'n cynrychioli'r cwm bach deniadol hwn, bellach, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar fap y byd. A dylai fod yn rhybudd inni i gyd bod angen y gofal mwyaf wrth ychwanegu at ein henwau lleoedd ni.
Onid yw'n gyfrifoldeb arnom ni i gyd i geisio sicrhau nad rhyw ffurfiau dwl, gwamal fel hyn fydd yn ein cynrychioli ni ac yn cynrychioli'n plant ni yn llygad y byd ac yn ein milltir sgwar ni ein hunain? .
Yn ystod y misoedd nesaf bydd cyfle i drafod rhai o enwau lleoedd y fro hon.
David Thorne