大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Seland Newydd Aoteoroa
Mawrth 2004
Hanes taith John ac Elizabeth Warmington i Seland Newydd, yn ymweld 芒'i ffrindiau - Gwynfor a Valmai, sydd wedi ymfudo yno o Geredigion, ers chwarter canrif.
Ystyr y gair 'Aoteoroa' yw - 'Y wlad 芒'r cwmwl gwyn hir' (yn iaith y Maori, Seland Newydd)

Ddydd Gwener y 7fed o Dachwedd 2003 dyma ni'n gadael Los Angeles am Seland Newydd a hedfan 6,500 o filltiroedd mewn Jumbo Jet mewn 12 awr. Dechreuodd y daith am 8.30 pm (amser lleol) a ninnau wedyn yn hedfan dros y M么r Tawel a chroesi'r Cyhydedd, ein dau am y tro cyntaf.

Yn nes ymlaen dyma ni'n croesi'r "International Date Line" a hynny felly'n golygu ein bod yn colli dydd Sadwrn o'r Calendr a chyrraedd Auckland am 6.30 am fore dydd Sul y 9fed. Erbyn hyn yr oedd yn gwawrio, a haul braf yn tywynnu. I ffwrdd 芒 ni i gasglu ein bagiau ac edrych ymlaen i weld Gwynfor a Valmai a oedd yn dod i'n casglu o'r maes awyr. O'r diwedd, dyma ni yn cwrdd. Does dim geiriau i ddisgrifio'n teimladau emosiynol ar y pryd. Ar 么l yr holl gyfarch, dyma ni'n mynd am y car a sylwi mewn llawenydd ar rif cofrestru'r car - CYMRO 1 !!

Mae Gwynfor a Valmai bellach wedi ymddeol ac yn byw yn Hamilton - dinas ar lan afon Waikato, sydd rhyw 70 milltir o Auckland. Ymfudodd Gwynfor a Valmai a'i tri phlentyn - Gareth, Dylan, a Sharon, i Seland Newydd 25 mlynedd yn 么l. I ddechrau bu Gwynfor yn rheolwr ar fferm ac yn nes ymlaen buont yn cadw Motel yn Hamilton ac wedyn Stratford (ger New Plymouth).

Mae Valmai yn wreiddiol o Benuwch, a Gwynfor o fferm Blaencwrt, Cwrtnewydd ac yn ddiweddarach o Gastell Draenog, Cribyn. Ar 么l priodi buont yn byw yn Swyddfa'r Post yng Ngellan ac wedyn Bryncerni, Cross Inn, Llanon. Y cysylltiad rhyngom yw bod Valmai ac Elizabeth wedi dod yn ffrindiau i ddechrau yn y pumdegau tra'n cydweithio yn yr N P Bank (Banc Nat West erbyn hyn), a Gwynfor a John, o ganlyniad, yn dod yn ffrindiau erbyn y chwedegau. Rhyw ddeng mlynedd yn 么l, penderfynodd Mrs Myfanwy Davies (mam Gwynfor) ei bod hithau am ymfudo o Giliau Aeron i Seland Newydd.

Ers iddynt ymfudo mae'r teulu wedi cynyddu. Mae Gareth wedi priodi 芒 Pamela ac yn byw yn Ynys y De ger Christchurch. Mae Dylan yn briod 芒 Sandra ac mae ganddynt ddau o blant, sef Devon sy'n 6 oed a Noah sy'n flwydd oed. Mae Sharon wedi priodi ag Andrew ac mae ganddynt ddau fachgen bach sy'n efeilliaid tair oed - Bryn ac Owen. Mae Dylan a Sharon a'u teuluoedd yn byw yn Hamilton.

Mae gan Gwynfor a Valmai gartref moethus sydd wedi ei amgylchynu gan lawntiau a borderi o flodau - rhai yn gyffredin i ni yng Nghymru ac eraill ddim mor gyfarwydd. Os oedd arnom angen oren, lemwn, neu rawnwin doedd dim angen mynd i'r siop - dim ond i'r ardd, a dewis ein ffrwyth o'r goeden! Mewn un gornel roedd coeden Rhedyn (Fern Tree) coeden sydd yn frodorol yn unig i Seland Newydd, felly dyna pam mai'r Rhedyn Arian (Silver Fern) yw eu harwydd cenedlaethol.

Ar 么l amser cinio dydd Sul dyma ni'n dechrau ar ein hantur yn Seland Newydd gyda Gwynfor yn ein gyrru o gwmpas Hamilton. Ar ein crwydr gwelsom y Stadiwm Rygbi enwog, Llyn Rotoroa, a choed enfawr, gan sylwi bod coed Seland Newydd yn dipyn fwy o faint na choed Cymru. Y rheswm am hynny, mae'n debyg, yw bod y tymheredd ddim yn cyrraedd y rhewbwynt yn Ynys y Gogledd fel yn ein gwlad ni. Hefyd mae'r borfa yn las gyda thyfiant am naw mis o'r flwyddyn.

Ddydd Llun, aethom i weld Gerddi Hamilton lle'r oedd adrannau yn cynrychioli gwahanol wledydd y Byd e.e. Yr Eidal, Lloegr, Japan, America, China - i enwi ond ychydig. Yn anffodus ni welwyd un o Gymru! Gyda dweud hynny gwelsom Gloc Haul (Sun Dial) anferth yn mesur deuddeg troedfedd grwn a phegwn uchel ar yr ochr - y cyfan wedi ei wneud o "stainless steel". Ar wyneb y cloc yr oedd llinellau ar draws yn dynodi dyddiadau pwysig y flwyddyn ac yr oeddem mor falch gweld Mawrth y Cyntaf, a Dydd G诺yl Dewi wedi ei nodi arno.

Ddydd Mawrth, aethom ar draws y wlad ac aros ar y ffordd i weld rhaeadr "The Bridal Falls". Yr oedd yn olygfa odidog a'r cyfan o fewn ardal goediog sy'n adnabyddus i'r bobl leol fel y "Bush". Llifai'r d诺r ryw 55 medr. Ymlaen wedyn am bentre Raglan ar lan y M么r Tasman. Yr oedd yno nifer o dai haf a elwir yn "Batch" yn lleol. Lle bendigedig i gychod hwylio, a lle da i'r bobl ifanc syrffio.

Ddydd Mercher, roedd Valmai yn gwarchod yr wyrion - Bryn, Owen a Noah, gan fod y rhieni yn gweithio. Felly, aeth Gwynfor 芒 ni ein dau, a Mrs Myfanwy Davies, ar daith fer i Lyn Karapiro ar lan afon Waikato lle'r oedd cronfa dd诺r, pwerdy hydro, a chanolfan ymwelwyr. Yno cawsom fwynhau paned o de ac edrych allan ar olygfa fendigedig. Dychwelsom i Hamilton ar hyd ffordd wahanol drwy Cambridge, TeAwamutu, ac Ohaupo, ger maes awyr Hamilton.

Ddydd Iau, gadawsom ben bore gyda'r bwriad o fynd i Taupo i aros. Yr oedd y ffordd yn dilyn yr afon Waikato unwaith eto, ac yna'n dod ar draws ceunant Huka. Yr oedd dwr yr afon Waikato yn fyrlymus iawn yn y fan hon. Ymlaen wedyn i Wairakei ac erbyn hyn yr oeddem wedi cael ein hamgylchynu gan gymylau gwynion o ager. Gwelsom fod yn y cwm gerllaw, rwydwaith o bibellau a oedd yn casglu'r ager a oedd i fewn yng nghrombil y ddaear, i'w ddefnyddio i gynhyrchu trydan mewn pwerdy gerllaw.

O dipyn i beth cyraeddasom Taupo ar lannau llyn o'r un enw, sydd yn mesur 25 milltir o hyd a 17 milltir ar draws. Mae'r llyn yn gorwedd ar sail llosgfynydd a oedd yno filoedd o flynyddoedd yn 么l. Ar lannau'r llyn roedd tywod cyffredin yn cynnwys nifer o ddarnau o bwmis. Yma yn Llyn Taupo y mae'r afon Waikato yn tarddu. Mae tref Taupo yn boblogaidd gan dwristiaid ac mae'n lle bendigedig i longau hwylio, pysgotwyr, a cherddwyr. Dyma ni felly'n ffodus o gael lle i aros mewn motel ar lan y llyn am ddwy noson.

Ar 么l treulio'r ddwy noson yn Taupo yr oeddem am droi i gyfeiriad Napier - mwy am hynny yn rhifyn mis Ebrill.

Wedi deall ein bod am groniclo'n taith fel hyn yn 'Clonc' dymuna Gwynfor, Valmai a Mrs Myfanwy Davies anfon eu cofion cynhesaf at bawb sy'n eu hadnabod.

John ac Elizabeth Warmington


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy