大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Dylan Thomas Mis Papur Newydd
Ebrill 2003
Colofn Dylan Iorwerth
Dan y Wen Allt... a'r Cwmwl Du

Tybed a fu Dylan Thomas draw i Lanbed am beint, neu i'r Grannell neu'r Cefli Hafod falle?Mae'n anodd meddwl y byddai'r bardd sychedig wedi llwyddo i basio yr un ty potes os oedd yn digwydd bod ar ei drafels ac roedd yn sicr yn llymeitian yn Nhalsam ac Ystrad Aeron.

Mi ddaeth hynny i'r meddwl wrth edrych ar berformiad o Dan y Wenallt, cyfieithiad T. James Jones o'r ddrama fawr Under Milk Wood a gwrando ar iaith lafar Sir Aberteifi yn llifo oddi ar y llwyfan.Mae'n debyg fod Jim Parc Nest yn argyhoeddedig mai Cymraeg oedd iaith go iawn y cymeriadau yn y ddrama ac mi ddefnyddiodd ei dafodiaith ei hun i gyfleu hynny.

Wn i ddim a oedd y llenor Caradog Prichard yn iawn with ddweud fod y cyfieithiad yn well na'r gwreiddiol ond mae'n ddigon i ddweud ei bod hi'n gweithio'n berffaith yn Gymraeg hefyd a'r cymeriadau yr un mor gyfarwydd a byw.

Does dim angen synnu at hynny gan mai o'r Cei y daeth llawer o ysbrydoliaeth y ddrama a fod Dylan Marlais Thomas yn perthyn i rai fel Gwilym Manes, gweinidog Undodaidd y troi allan.

Mi ddylen ninnau ddathlu eleni wrth i bobol gofio am hanner canmlwyddiant ers marwolaeth ifanc Dylan.... mae gan Geredigion gymaint o hawl arno 芒 neb...

Drama sy'n ymhyfrydu mewn bywyd ac mewn pobol ydi Dan y Wenallt - mae'r dramodydd yn ein licio ni ar waetha' - neu oherwydd ein holl ffaeleddau, yn ddynion rhy feddw, yn ferched rhy hael.

Yng nghanol yr hoff ddoniolwch, mae hi hefyd yn ddrama drist, a phobol yn cofio am gyfleoedd coll a phethau sydd wedi mynd. Bywyd mewn marwolaeth, marwolaeth mewn bywyd hefyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy