Doedd hi ddim yn olygfa y byddai neb ohonoch chi am ei gweld. Rhai o drigolion Llanbed am chwarter i saith y bore. Roedd hi'n amhosib dychmygu y bydden nhw'n edrych yn waeth erbyn wyth o'r gloch y noson honno, ond dyna'r gwir. Bore Sadwrn, Mehefin 21, oedd hi a dyma'r criw oedd ar fin dringo i fws mini'r ysgol er mwyn cyrraedd Pontarfynach a dechrau ar y daith gerdded yn 么l i Lanbed i godi arian at Ty Hafan a Thy Gobaith. Ychydig o bobol sy'n sylweddoli fod Cerdin Price wedi cerdded mwy na neb arall y diwrnod hwnnw, roedd wedi treulio'i esgidiau cyn dechrau wrth grwydro o gwmpas y patsh gwyrdd y tu allan i'r ysgol yn chwilio am ei ff么n symudol.
Ond roedd hi'n gysur mawr ei fod yno - roedd yn golygu fod gwasanaeth cyflawn ar gael os oedd y daith yn mynd yn ormod i rywun; roedd yno feddyg ac ymgymerwr angladdau ... a finnau i sgrifennu pennill coffa.
Ar 么l cyrraedd maes parcio'r Bwa ger Pontarfynach, dyma weld y criw o s锚r teledu oedd yn cerdded yr holl daith. Am funud, ro'n i'n meddwl fy mod i wedi gweld dwy goeden yn symud, ond wedyn sylweddoli mai coesau lolo Williams oedden nhw. Pawb yn diolch nad oedd Gary wedi gwisgo shorts rhy fyr - rhag tynnu sylw oddi ar y dyn adar.
Roedd dechrau'r daith yn braf - tros y mynydd i Ystrad Fflur, tros y grog a'r migwyn, heibio i lynnoedd Teifi ac i lawr tros y llechweddau tuag at glwyd yr hen abaty. A Hag yn dangos ei sgiliau darllen map a ffeindio'r ffordd - ychydig yn rhy effeithiol i blesio trefnwyr y daith.
O fewn hanner milltir i ddechrau cerdded, roedden ni wedi cael welshcecs a phaned gan deulu fferm Tynewydd yng Nghwm Ystwyth. Mi fyddwn i wedi cwyno pebai rhywun wedi rhoi rhagor o bwysau yn y bag ar fy nghefn ond doedd rhagor o bwysau yn y stumog ddim yn broblem.
Y rhan anodd oedd yr hewl hir, galed, yr holl ffordd o Ystrad Fflur i Lanbed, a phethau'n waeth am fod merched Barclays wedi ymuno ger yr abaty, yn edrych yn ffresh ac effro. Roedd Cerdin yn dweud ei fod yn mynd fel cobyn; a finnau'n teimlo'n debycach i geffyl gwedd.
Roedd siwpyr-syb yr ysgol wedi cyrraedd Ystrad Fflur hefyd - mae'n debyg fod y staff yn betio pa mor bell y byddai Dylan Wyn yn cyrraedd. Doedd dim angen yr holl ffys - fe aeth y prifathro fel bom ac, o'r hyn dw i'n ei ddeall mae o'n dal i gerdded o hyd rhywle i'r gogledd o Rufain.
Roedd hi'n de parti yn Llanddewi Brefi a llond lle o Gymry'r ardal wedi dod allan gyda'u cacennau a'u brechdanau a'u sosej r么ls. Stwffiwch eich hampyrs a'ch mefus a'ch smocd samon, does dim byd yn well na the parti Cymreig.
Y broblem fwya' oedd diffyg archwaeth. Ac roedd rhaid bod yn ofalus wrth yfed. Roedden ni wedi llyncu cymaint o ddwr erbyn hynny nes bod y cloddiau rhwng Tregaron a Llanbed yn diferru. Ddyweda' i ddim mwy, heblaw i bwysleisio na fydda' i'n mynd y ffordd honno i hel mwyar duon eleni.
Y profiad rhyfedda' o'r cyfan, cofiwch, oedd cyrraedd yn 么l i Lanbed a channoedd o bobl allan fan'ny yn aros amdanon ni. Ro'n i'n teimlo fel Paula Radcliffe ar ddiwedd marathon ... wel, bron iawn.
Ac, wrth gwrs, yr arian. Yn y diwedd, dyna oedd y peth pwysica' i gyd, am fod yr arian yn mynd i helpu'r plant. A go brin fod yr un ardal wedi gwneud mwy o ymdrech nag ardal Clonc. Rhwng y cwis a'r bore coffi a'r cerdded ... a'r rhoddion unigol ... mi wnaethoch chi wyrthiau. Ac, felly, dim ond un gair oedd eisiau wrth inni fynd i socian ein traed yn y Radox.
Diolch.
Dylan Iorwerth