大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Wythnos yn y Rali Ewropeaidd
Medi 2005
Cynhaliwyd Rali Ewropeaidd CFfI yn yr Alban ym mis Gorffennaf 2005. Dyma adroddiad gan Helen Davies o Lanwenog.

Dydd Gwener, 15fed Gorffennaf

Cwrdd 芒 gweddill y t卯m sef Rhodri Jones, (Meirionydd), Betsan Ifans, (Sir Benfro), Meinir Thomas, (Arweinydd) a Llinos Jones, (Sir Gaerfyrddin), ac yn paratoi'r car i adael am faes awyr Bryste. Yn dechrau becso braidd am sut i bacio'r bagiau i gyd i mewn i'r car!!

Dydd Sadwrn, 16eg Gorffennaf

Treulio'r bore yng Nhaeredin yn chwilio am rywle oedd yn gwerthu tapiau i'r camera fideo! Cyraedd Ysgol Strathallan yn y prynhawn ac yn cael ein croesawi gan y T卯m trefnu. Gosod ein harddangosfeydd gwlad, ac yna ymuno mewn gemau 'ice-breaker' 芒'r gwesteion eraill. Cyfle gwych i wneud ffrindiau mewn naws cyfeillgarwch a hwyl!!

Dydd Sul, 17eg Gorffennaf

Bore cyntaf y Rali yn cael ei nodi gan y Seremoni agoriadol. Thema'r Rali eleni oedd Datblygu Gorwelion: Un Ewrop, sawl diwylliant. Braf oedd gweld pob gwlad yn eu gwisgoedd traddodiadol ac yn arddangos eu gwahanol ddiwylliannau. Cawsom gyfle i fynd o amgylch arddangosfeydd y gwledydd eraill, a sgwrsio am wahanol fudiadau gwledig ar draws Ewrop.

Y prynhawn hwnnw cawsom ein gwahanu mewn i dimoedd (2 wlad i bob t卯m) er mwyn cymryd rhan yn y gemau 'Highland'. Gwnaethom droi ein llaw i lawer o weithgareddau gan gynnwys 'caber tossing' a thynnu'r gelyn.

Dydd Llun 18fed Gorffennaf

Treuliwyd y diwrnod yn dysgu am wahanol fathau o gyfathrebu, megis Arwyddiaeth a'r c么d Morse. Gwelwyd fod yna nifer o ffurfiau i orchfygu rhwystrau iaith trwy ryngweithio 芒'n gilydd. Min nos, ymwelom 芒'r senedd newydd yng Nghaeredin lle cawsom ein tywys gan yr SMo lleol. Profiad cofiadwy oedd gweld yr adeilad lle bu llawer o ddadlau yngl欧n 芒'i gost (拢430 miliwn i'w chyflawni).

Dydd Mawrth, 19 Gorffennaf

Am 9 o'r gloch (y bore!!) cawsom wers mewn dawnsio 'Highland', Ile bu Ilawer yn ymdrechu i gadw amser gyda'r arweinyddes. Hwyrach y bore cawsom ymborth i'r meddwl gan ein siaradwr gwadd, Mr Richard Wright, newyddiadurwr amaethyddol o Ulster. Siaradodd yn bwyllog am y refferendwm yn Ffrainc a'r Iseldiroedd, estyniad yr UE, ac wrth gwrs am ddiwygiad y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Y prynhawn hynny, ymgymerom mewn nifer o weithgareddau t卯m yn y 'Scottish Skirmish'. Profwyd sgiliau athletig a datrys problemau pawb! Noson yr Adloniant Rhyngwladol wnaeth dilyn, lle gwnaeth lleisiau swynol (llawn harmonies!). T卯m Cymru greu argraff dda ar y gynulleidfa.

Dydd Mercher, 20fed Gorffennaf

Y bore yma rhannwyd pawb mewn i grwpiau ac aethom ar deithiau i wahanol ranbarthau'r Alban. Roeddwn i ar y bws oedd yn mynd at y dwyrain. Ymwelom a Mart Forfar, Palas Falkland, tref St. Andrews a Fferm Organig Jamesfield. Y prynhawn hwnnw cawsom ein casglu gan ein gwestai, a dychwelyd i'w cartrefi am noswaith. Cefais fy niddanu gan y CFfI lleol oedd yn cynnal Helfa Drysor.

Dydd Iau, 21ain Gorffennaf

Heddiw cawsom ein tywys gan y teuluoedd oedd yn ein croesawu. Cawsom ymweld 芒 dwy fferm yr ardal. Y fferm gyntaf oedd Fferm Sutton, oedd yn tyfu ffrwyth fel rhan o gr诺p cydweithredol Angus Soft Fruits. Tyfwyd 80 erw o fafon, 100 erw o fefus ac 20 erw o 'blueberries' yn flynyddol. Yr ail fferm oedd Eastpit Forthie, fferm laeth 250 o wartheg. Roeddent wedi mabwysiadu'r system Seland Newydd, ac adeiladu sied a pharlwr godro newydd oedd yn godro 24 o wartheg ar yr un pryd. Dychwelyd yn 么l i'r ysgol y noson hynny i farbeciw a noson o ddawnsio Ceilidh.

Dydd Gwener, 22ain Gorff'ennaf

Heddiw, cyflawnwyd tasgau adeiladu pontydd, a pharatoi gludwaith o'r Rali. Fel rhan o'r noson olaf cawsom ginio ffurfiol yn neuedd y Dref, Perth. Fe'n diddanwyd gan fand Pibgod leol a phrofwyd 'seremoni'r Hagis'. Ein cyfle olaf i fwynhau ymhlith ein ffrindiau newydd.

Dydd Sadwrn, 23ain Gorffennaf

Gadael Strathallan am 8:00, ac yn cael amser i fyfyrio dros y profiadau, yr atgofion a'r cyfeillion a wnaethpwyd. Ond braf oedd dychwelyd at yr hyn a hiraethais fwyaf amdano yn ystod fy nhaith - fy ngwely!!

Erthygl gan Helen Davies, CFfI Llanwenog


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy