Ddydd Sadwrn 9fed Mai aeth torfeydd o ardal Llanbedr Pont Steffan i Gaerdydd. Roedd t卯m rygbi'r dref wedi cyrraedd rownd derfynol Powlen SWALEC yn Stadiwm y Mileniwm, a chefnogi'r bechgyn oedd y nod gan bawb.
Archebwyd cannoedd o grysau polo arbennig i'r cefnogwyr, trefnwyd nifer o fysus, a phrynwyd tua mil o docynnau. Y canlyniad oedd bod y Stadiwm am un o'r gloch y prynhawn yn ferw o floeddiadau "Llambed, Llambed, Llambed".
Roedd hi'n deimlad rhyfedd i'r cefnogwyr oedd yno yn y stadiwm genedlaethol a phawb o fewn golwg yn y seddau yn wynebau cyfarwydd. Pobl fyddai fel arfer ar strydoedd Llambed yn un dyrfa fawr. Roedd hi'n achlysur o ddiwrnod, cael cefnogi'r t卯m lleol yn chwarae ar yr un borfa 芒'r t卯m cenedlaethol. Enwau bechgyn ifanc ardal Clonc yn herio t卯m Treforys."
Roedd hi'n g锚m agos iawn, a Llambed yn llawn haeddu ennill. Ond y sg么r ar ddiwedd y g锚m oedd Treforys 20 Llambed 17.
Cafodd Carwyn Gregson, Werna, Cwmann gais llwyddiannus, a Huw Thomas, Beehive Radio, Llambed gafodd weddill y pwyntiau am gicio medrus.
Gweddill y garfan oedd, Jason Thomas, Chris Thomas, Tim Evans, Owain Jones, Aled Thomas, Mark Saunders, Paul Fingleton, Gareth Griffiths, Gary Davies (Capten), Dylan Davies, John Rhys Jones, Llyr Jones, Geraint Thomas, Dafydd Jones, Lee John Lloyd, Joe Thomas a Dewi Williams. Cafodd Dewi ei ddewis yn Chwaraewr Gorau.
Roedd hi'n ddiwrnod i'w gofio i'r chwaraewyr, partneriaid, teuluoedd, ffrindiau a chefnogwyr. Yn wir, uchafbwynt hanes y Clwb yn 么l rhai. Llongyfarchiadau i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y t卯m.