Ar ddydd Sul y Blodau cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yng Nghapel Undodaidd Alltyblaca i nodi bywyd gwraig a gladdwyd yno 99 mlynedd yn 么l.
Nol yn 1997 ar raglen Twrio ar S4C gwerthwyd llun o waith yr artist Sarah Ann Doidge.
Gwnaeth un o gyfranwyr y rhaglen y cyn blismon James Lloyd neu Siwper Jim fel y cyfeiriwyd ato ddarganfod ei bod hi wedi cael ei chladdu ym mynwent Alltyblaca ym mis Tachwedd 1911.
Roedd cryn ddirgelwch pam ei bod hi wedi ei chladdu yno ac fe ddeffro hynny chwilfrydedd y cyn blismon oedd a'i wreiddiau yn ddwfn ym Mhlwyf Llanwenog.
Aeth ati i chwilio ymhellach i gefndir yr artist a dod o hyd i ffeithiau diddorol am ei bywyd ac fe ddatgelwyd y wybodaeth honno yn ystod y gwasanaeth ar Sul y Blodau eleni.
Yn 么l yr ymchwil a wnaed ganddo dywedwyd bod Sarah Ann Doidge wedi ei geni yn Devonport yn Nyfnaint yn 1836, ac yno derbyniodd ei haddysg cynnar. Dangosodd ei gallu fel arlunydd dawnus gan ddatblygu dull arbennig o arlunio.
Pan yn ifanc symudodd gyda'u theulu i ardal Surrey. Bu'n fyfyrwraig yng ngholeg y `Government School of Practical Art' yn Llundain, ac a elwir yn ddiweddarach yn `The Royal Female School of Art' yn Sgw芒r y Frenhines, Llundain.
Hyfforddwyd hi i fod yn feistres yn nhechnoleg arlunio mewn olew a dyfrlliw, ac un o'i chyd fyfyrwyr yn y coleg oedd Miss Elizabeth Stirling a enillodd y wobr gyntaf am gerflunio yn yr Arddangosfa Fawr yng Nghrystal Palace yn 1851.
Pan oedd yn ifanc iawn fe'i cyflogwyd yn athrawes a derbyniodd swydd i ddysgu arlunio yn ysgol Y Farwnes Rothchild yn Mentmore. Roedd yn athrawes bersonol i'w merch, Miss Hannah Rothchild. Pan yn y swydd hon, fe wnaeth gyfarfod a'r Brenin Edward, yr hen Dywysog Cymru nifer o weithiau.
Roedd yn ffrind agos i'r awdur Charles Dickens. Roedd yntau hefyd fel hithau yn Undodwr brwd.
Cafodd ei gwaith ei arddangos am rai blynyddoedd yn yr Academi Frenhinol . Meddai Jim "mi roedd cael gwneud hynny yn dipyn o gamp i wraig ifanc yn y cyfnod hynny." Bu'n teithio i wledydd Ewrop ar y Grand Tour a sefydlu canolfannau yn Rhufain a Florence ac arlunio llawer yn yr Eidal, Swistir, Ffrainc a'r Almaen. "Dyna oedd yr arfer yn yr oes honno" meddai.
Ar 么l dychwelyd i Brydain, penderfynodd sefydlu cartref yn Aberdyfi a hynny mewn t欧 a'r y creigiau gyda golygfa hyfryd ar draws aber yr afon hyd at Ynys Las yng ngogledd Ceredigion. Hwn oedd ei 'th欧 haf' gan iddi aros yno dros misoedd yr haf, a threulio'r gaeafau yn nhre Aberystwyth.
Daeth James Lloyd a chwech o'i phaentiadau gydag ef i ddangos yn y capel ac yn eu plith roedd golygfa ar lan Afon Dyfi yn edrych i fyny tuag at mynyddoedd Meirionydd ac i gyfeiriad Machynlleth paentiad arall o Graig yr Adar i'r gogledd o Tywyn ynghyd ag un o dyddyn Mari Jones Abergynolwyn.
Bu farw yn Aberystwyth ar yr 28ain o Dachwedd 1911 yn 75 mlwydd oed, a hynny yng nghartref cyfaill o'r enw Elizabeth Ann Thomas, a ddaeth yn wreiddiol o ardal Aberaeron. Yn 么l ei dewis, claddwyd hi ym mynwent Alltyblaca.
"Tan y ddiweddar bu'n ddirgelwch paham ei bod wedi ei chladdu ym mynwent Alltyblaca ond diolch i Jim mae hynny wedi ei ddatrys" meddai gweinidog presennol y capel sef Cen Llwyd.
"Y rheswm yw, ei bod am gael ei chladdu gerllaw ei ffrind mynwesol Laura Hirtzel Powell."
Roedd ei chwaer sef Ophelia Catherine Powell yn briod a David Lewis Evans a anwyd yn Rhuddlan, ger Llanybydder yn 1813. Mae yntau yn cael ei ystyried yn un o arweinwyr yr enwad Undodaidd.
Mae'r ddau ohonynt wedi eu claddu ym mynwent y capel. Wedi i David Lewis Evans weinidogaethu ar amryw o gapeli Undodaidd megis Onnenfawr ger Llandeilo ac yn swydd Rhydychen dychwelodd i Ben-y-Bont ar Ogwr.
Tra roedd yno fe gynorthwyodd yn y fenter i sefydlu cylchgrawn yr enwad sef Yr Ymofynnydd cyn derbyn swydd fel athro Hebraeg a Mathemateg yng ngholeg y Presbi yng Nghaerfyrddin sef y coleg oedd yn paratoi pobl at y weinidogaeth. Ganwyd i David Lewis Evans a'i wraig Ophelia Catherine Powell bedwar o blant oedd yn cynnwys y pregethwr Undodaidd a'r hynafieithydd George Eyre Evans sydd hefyd a'i lwch wedi ei wasgaru ym mynwent Alltyblaca.
Bu Ophelia Catherine Powell farw pan oedd y pedwar plentyn yn ifanc ac fe'i magwyd gan eu modryb sef chwaer eu mh芒m Laura Hirtzel Powell a phan bu hithau farw fe'i claddwyd fel ei chwaer a'i brawd yng nghyfraith ym mynwent y capel. Datblygodd cyfeillgarwch mynwesol rhyngddi yr artist a hithau a'i dymuniad oedd cael ei chladdu wrth ei hochr.
Gwnaed tipyn o waith tacluso ar y bedd cyn y gwasanaeth ar Sul y Blodau ac fe ddywed Cen Llwyd "Diolch i'r rhai a fu yn gwneud y gwaith hwnnw a diolch yn arbennig i Jim am ei waith trylwyr o chwilio'r hanes. Mae'r darnau bellach yn disgyn i'w lle sydd yn rhoi sylfeini cadarn i ni fedru cario ymlaen i gynnal digwyddiadau pellach y flwyddyn nesaf i nodi canmlwyddiant marw yr artist Sarah Ann Doidge".