Gweledigaeth sydyn Emyr ac Eirian, Hollis, Llanbed oedd cynnal y gweithgaredd yma i anrhydeddu gwaith a chyfraniad y Parch Goronwy a Mrs Beti Evans i gapeli Undodaidd y cylch, holl enwadau eraill a'r gymuned i gyd ac yn enwedig i gapel Brondeifi.
A gyda s锚l bendith rhai o selogion y capel aed ati gyda brwdfrydedd heintus i drefnu'r noson o Gaws a Gwin a chyngerdd ar Nos Wener, 2il o Fedi gyda Emyr ac Eirian yn cynnig eu cartref i gynnal y noson.
Enwyd yr achlysur yn 'Hwyl ar y Lawnt' a dyna a gafwyd yng nghwmni artistiaid enwog cenedlaethol a oedd yn fwy na pharod i roi eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim er mwyn dangos eu parch a'u gwerthfawrogiad o'r gefnogaeth a gawsant hwy gan Goronwy a Beti tra yn bennaf yn ymwneud ag Eisteddfod Rhys Thomas James Llanbed.
Yn cymryd rhan ar y noson roedd Eirian a Meinir; Trebor Edwards; Aled Hall; Dafydd Edwards; Gwawr Edwards; Angela Rogers Davies; ac yn cyfeilio iddynt roedd Meinir Parry a Menna. Yna Endaf Morgan y pianydd ifanc a'r digrifwr Ifan Tregaron ac yn cadw trefn ar bawb roedd Ifan JCB.
Ceisiwyd yn weddol lwyddiannus gadw rhan fwyaf o'r trefniadau o glyw Goronwy a Beti ac roedd yn amlwg eu bod o dan gryn deimlad wrth weld yr artistiaid yma yn ymddangos un ar 么l y llall ac o weld yr arlwy fendigedig oedd wedi ei baratoi ar safle mor fendigedig ar eu cyfer.
Mae diolch arbennig i'r holl noddwyr y noson sy'n rhy niferus i ddechrau eu henwi gan fod cymaint o bobl wedi helpu neu gyfrannu mewn rhyw fodd neu gilydd i sicrhau noson mor llwyddiannus, Gwireddwyd yr elw anhygoel o dros 拢6000.00 a rhaid cydnabod yn ddiolchgar am haelioni Banc Barclays yn noddi 'Punt am Bunt' am yr uchafswm o 拢750.00 ac i'r artistiaid i gyd am ei gwasanaeth yn ddi d芒l; i Emyr ac Eirian am agor eu cartref, i bawb a brynodd docynnau ac am fynychu'r noson ac fel y crybwyllwyd, i bawb a helpodd ac a gyfrannodd mewn unrhyw fodd at lwyddiant y noson.
Bydd elw terfynol y noson yn cael ei rannu yn gyfartal rhwng capel Brondeifi a Phwyllgor Lleol Ymchwil y Cancr, sef dewis elusen y Parch Goronwy a Mrs Beti Evans.
|