Mae'r wefan yn ategu at amcanion Clonc o 'hybu Cymreictod a sicrhau twf yn nifer y bobl sy'n darllen Cymraeg', a 'sicrhau bod Clonc yn gyfrwng i'n cael i adnabod ein bro a'n pobl yn well'. Y ffordd mae'r wefan yn rhagori yw bod Clonc yn gallu cyrraedd pobl o bob rhan o'r byd.
O'r wefan gallwch lawrlwytho 么l rifynnau Clonc a darllen unrhyw beth a gollwyd, neu ail ddarllen rhywbeth o ddiddordeb.
Yn y flwyddyn ddiwethaf cafwyd 1,715 o ymweliadau ac ymwelwyd 芒 11,446 o dudalennau. Ar gyfartaledd, ymwelwyd 芒 6.67 tudalen yr ymweliad. Mae hyn i gyd yn destun o lawenydd mawr i bapur gwirfoddol fel Clonc.
Mae'n golygu ein bod yn cyrraedd mannau na fyddem fel arfer yn ei wneud. Golyga hefyd y gall pobl yr ardal sy'n gweithio oddi cartref a'r rhai sydd wedi symud o'r ardal ddarllen yr hanesion a chadw mewn cysylltiad.
Braf meddwl bod pobl yn yr Amerig, Awstria, Twrci, Canada, Yr Eidal, Sbaen ac Awstralia wedi ymweld 芒 gwefan Clonc yn y flwyddyn ddiwethaf. Ceir diddordeb mawr yn Awstralia gyda llaw, gyda'r ymwelwyr yn treulio 7.42 munud ar gyfartaledd ar y wefan ac yn ymweld 芒 12.67 tudalen ar bob ymweliad.
Datblygiad diweddaraf Papur Bro Clonc yw ymuno 芒 gwefan rhwydweithio Facebook. Os ydych yn aelod, gallwch ddod yn ffrind i Clonc ac ymuno 芒 Gr诺p Papur Bro Clonc.
Bwriad y cynllun hwn yw dod 芒 chyhoeddusrwydd i'r papur bro ymhlith pobl ifanc yn ogystal 芒 dod ag aelodau 芒'r un diddordeb at ei gilydd yn yr ardal.
Wrth i'r rhifyn hwn fynd i'r wasg mae gan Clonc rhyw 200 o ffrindiau. Mantais fwyaf rhwydweithio ar Facebook yw y gallwch ddewis Cymraeg fel yr iaith ryngwyneb.
Ond mae presenoldeb Clonc ar we yn mynd n么l rhai blynyddoedd. Mae Clonc wedi cyhoeddi un erthygl y mis ar wefan 大象传媒 Cymru'r Byd ers 2003.
Cred Clonc y dylid bod ar flaen y gad gyda'r dechnoleg ddiweddaraf.
Pwy a wyr, efallai mai ar y we fydd papurau newydd a phapurau bro'r dyfodol. Rydym felly mewn trafodaethau gyda Chwmni Golwg i fod yn rhan o'r gwasanaeth newyddion newydd ar y we.
Mae hyn i gyd yn gyffrous iawn a'r gobaith yw mai darllenwyr Clonc fydd yn elwa yn y pendraw.
|