大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Cymdeithas Edward Llwyd
Mawrth 2010
Hanes taith Cymdeithas Edward Llwyd o gwmpas plwyf Llanwenog.

Ar fore hyfryd, ddydd Sadwrn y 6ed o Chwefror roedd 27 o aelodau Cymdeithas Edward Llwyd wedi cyfarfod am 10.30 y bore, ger Eglwys Llanwenog i ddechrau taith o amgylch gwaelod Plwyf Llanwenog dan arweiniad Ieuan Roberts.

Roedd nifer o'r aelodau yn gwybod am yr enw oherwydd hynodrwydd y Clwb Ffermwyr Ifanc a brid defaid Llanwenog.

Cyn mynd i mewn i'r Eglwys cafwyd cyflwyniad am ei gorffennol - cafodd ei sefydlu ddiwedd y 7fed ganrif gan y Santes Gwenog gyda'r adeilad presennol yn deillio o'r 13eg ganrif.

Codwyd y t诺r gan Syr Rhys ap Thomas i ddathlu buddugoliaeth Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth yn 1485. Roedd pawb wedi eu cyfareddu gan y nenfwd crwn sydd wedi ei rannu yn sgwariau gan y tylathau derw a'r arysgrif o'r Deg Gorchymyn a'r Credo yn Gymraeg sydd wedi eu darganfod ar y mur gogleddol. Tynnwyd sylw at y bedyddfaen Normanaidd a'r cerflun cyntefig o'r Croesholiad y tu 么l i'r allor, ond yn bennaf oll at y gwaith pren derw cerfiedig yn y sgrin ac ar bennau'r meinciau, gwaith Josef Reubens, ffoadur o wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a'r Milwriad H. Davies-Evans o Blas Y Dolau.

Cyn gadael y fynwent gwelwyd copi o Garreg Fawr Crugywhil gyda'r arysgrif Lladin ac Ogam arni yn cofnodi man claddu Tringad ap Maelan. Mae'r garreg wreiddiol sy'n naw troedfedd o hyd yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a chredir ei bod yn tarddu o'r 5ed ganrif. Gwelwyd hefyd y goeden 'cas gan fwnci' a dwy o goed bach sydd wedi egino oddi dani.

Sefydlwyd Ysgol Llanwenog yn 1867 fel Ysgol Eglwysig ac mae bellach yn llewyrchus iawn. Ar ei mur mae cerflun mewn llechen o EJ Williams a'i frawd, gwaith Dennis Jones. Soniwyd am bwysigrwydd EJ Williams yn datblygu technoleg i orchfygu llongau tanfor yr Almaenwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Wrth gerdded ymlaen ger T欧 Cam soniwyd am Gaer Faes lle bu brwydr Llanwenog yn y flwyddyn 982. Yno gorchfygodd y Cymry naill ai'r Daniaid neu'r Saeson a soniwyd am y frwydr yn Llyfr Coch Hergest. Trueni na fu i Gymru orchfygu'r Saeson ar y maes rygbi ddiwedd y prynhawn hwnnw! Ger Llechwedd nodwyd mai yno mae cartref y chwaraewraig golff broffesiynol, Rhian Wyn Thomas.

Dechreuwyd achos yr Annibynwyr ym Mrynteg yn 1838 fel ymgais lwyddiannus i roi diwedd ar yr arfer o gicio'r b锚l droed, y cnapan, ar y Sul pan fyddai hyd at dair mil o drigolion y plwyf yn cymryd rhan. Tynnwyd sylw at un neu ddwy o ddefaid Llanwenog yng nghaeau Bwlch Mawr. Yn Rhuddlan soniwyd am Lys Pryderi yn y Mabinogi, ychydig uwch ein pennau. Cawsom wahoddiad gwresog gan drigolion Highmead i fynd o amgylch y plas ac i weld y grisiau mawreddog yn arbennig. Manteisiwyd ar y lleoliad hyfryd i gael ein cinio ar y lawnt.

Roedd Ieuan wedi bwriadu cerdded ymlaen i Lanybydder a chymryd y llwybr cyhoeddus o Gaedabowen i Fronwen, i wneud peth naturiaetha. Ond nid oedd cyflwr y llwybr yn caniat谩u ac felly bu rhaid cwtogi'r daith a dychwelyd i Lanwenog heibio'r Cefn Rhuddlannau. Ond cawsom ein gwobrwyo trwy weld pedwar blodyn Llygad Ebrill wedi agor yn haul mis bach a hynny'n dangos fod y gwanwyn ar y ffordd. Diwrnod hyfryd iawn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy