Y bore trannoeth yr oeddem yn hedfan yn 么l i Auckland o Ynys y De. Ar 么l diwrnod hyfryd felly a swper blasus dyma'r amser yn cyrraedd i ni ffarwelio 芒 Gwynfor a Valmai. Yr oeddent ill thu yn troi tua Leeston tuag at gartref Gareth a Pamela (eu mab hynaf a'i wraig) ac yn golygu aros yno am wythnos arall.
Wedi cyrraedd Auckland ar 么l rhyw awr o hedfan dyma ni'n mynd am y gwesty a oedd ger y maes awyr. Yr oedd y tywydd yn braf ac felly dyma ni'n penderfynu mynd am dro i weld beth oedd o amgylch. Ymhen tipyn dyma ni'n cael neges oddi wrth Clive a Jane Green. Clive yn gyn-gydweithiwr i John, yn Trydan De Cymru. Yr oedd ef a'i wraig Jane wedi ymddeol yn gynnar i hwylio o amgylch y byd. Dyma ni felly yn trefnu cwrdd a braf oedd cael gwneud hynny gan fod chwe blynedd wedi mynd ers i ni ffarwelio 芒 nhw yn Aberdaugleddau wrth iddynt ddechrau ar eu hantur mewn cwch hwylio Bennudan Sloop 35 troedfedd, o'r enw 'Jane-G'. Dyma ni'n cwrdd felly a chael dal lan ar eu hanes diweddara dros bryd o fwyd. Rydym yn cadw mewn cysylltiad cyson drwy'r ebost ac mae Jane yn croniclo pob rhan o'u hantur wrth iddynt fynd o fan i fan. Drannoeth dyma ni'n thu yn mynd o amgylch y ddinas a gweld Mount Eden ac Eden Park, sef cartref t卯m enwog yr 'All Blacks'. Buom wrth harbwr Waitermata lle y cynhaliwyd y rasys llongau hwylio (Cwpan Americas) yn y flwyddyn 2000. I fyny wedyn i ben y bryn (y fan uchaf i ni ei chyrraedd yn ystod ein taith) i'r Amgueddfa. Fe'i hadeiladwyd er cof am filwyr y ddau ryfel byd - adeilad tebyg iawn i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae Auckland yn ddinas hyfryd, gyda lawntiau a gerddi o flodau ym mhob man. Cawsom seibiant wedyn am ryw awr neu ddwy ar draeth Mission Bay gyda golygfa fendigedig o'n hamgylch. Gallem weld ynysoedd - rhai ohonynt yn weddillion llosgfynyddoedd. Yn y fan hon cyfarfuasom 芒 Darrel a Beryl o Melbourne a oedd yn aros yn yr un gwesty 芒 ni. Yr oedd y ddau wedi ymfudo o India i Awstralia, ond ar wyliau yn Seland Newydd ar y pryd ac yn gobeithio ymweld 芒 Chymru yn y dyfodol agos. Dyma fore Sadwrn yn cyrraedd felly a'r amser yn dod i ni adael Seland Newydd a throi am Sydney, Awstralia. Gwesty'r 'Four Points' ger 'Darling Harbour' oedd ein cartref am y tridiau nesaf. Yn anffodus roedd y tywydd dipyn yn oerach yno nag yn Seland Newydd. Darling Harbour yn brysur iawn gan dwristiaid a'r lle yn boblogaidd ac yn llawn bwrlwm. Y bore canlynol cawsom hwylio o gwmpas harbwr mawr Sydney sy'n ymestyn allan i'r M么r Tasman. Ar y daith cawsom bryd o fwyd pedwar cwrs - y cyfan yn fendigedig. Ar 么l hynny aethom am dro a chyrraedd 'Y Rocks. Dyma lle'r ymsefydlodd yr Ewropeaid rhwng 1788 a 1792. Canolfan fasnach forwrol ydyw'n bennaf ac mae rhai o'r adeiladau gwreiddiol i'w gweld yno hyd heddiw. Mae yno gofgolofn drichornel o garreg tywod ac wedi'u cerfio arni - ffigurau a garcharorion, milwyr a gwladychwyr. Yna cerddasom o amgylch Sydney Cove a chyrraedd yr enwog D欧 Opera Sydney. Mae'n adeilad hardd a gynlluniwyd gan J酶rn Utzon. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym 1959 a gorffennwyd ym 1973. Ddydd Llun aethom ar daith mewn bws i ochr ogleddol yr harbwr. Aethpwyd a ni draw i draeth Manly. Enwyd y traeth hwn gan Gapten Cook pan gyfarfu ag Aborigine o gorff mawr dynol! Ar em ffordd yn 么l cawsom y profiad o deithio dros bont Harbwr Sydney. Cymerwyd naw mlynedd i adeiladu'r bont ac fe'i gorffennwyd yn y flwyddyn 1932. Mae'r bont yn cymryd tipyn o bwysau rhwng trafnidiaeth cerbydau a rheilffyrdd, ac mae yno lwybrau hefyd i gerddwyr. Cyn gadael Sydney, rhaid oedd mynd ar daith ar y Monorail. O'r tr锚n cawsom weld adeiladau arbennig, Harbwr Darling a ChinaTown a llawer i fan arall o ongl wahanol. Yn ein herthygl y mis nesa byddwn yn ffarwelio ag Awstralia ac yn cyrraedd Bangkok. John ac Elizabeth Warmington
|