Clonc yn dathlu 25 - lluniau a chlipiau sain Pum mlynedd ar hugain yn 么l eisteddodd criw bach mewn tafarn lleol yn trafod y posibilrwydd o ddechrau papur bro yn yr ardal leol. Dangosodd pawb frwdfrydedd mawr ac aethpwyd ati i drefnu cyfarfod cyhoeddus. O'r fan hynny datblygwyd brwdfrydedd pellach.
Ymddangosodd y rhifyn cyntaf ym mis Chwefror 1982 a'r pris yn 20c. Roedd un tudalen yn llawn o luniau yr eira mawr a'r lluwchfeydd mor uchel 芒'r cloddiau a gafwyd y mis blaenorol. Ar y dudalen flaen cafwyd llun o G么r Cwmann a'r arweinydd sef Mr Olifer Williams o Gwmann yn trosglwyddo arweinyddiaeth y c么r ar 么l deunaw mlynedd i Mr Elwyn Davies o Lanybydder. Ynddo hefyd roedd dau lun o bedwar o bobl ifanc o ardal Drefach wedi gwisgo lan ar gyfer 'blaco' nos Calan.
Y golygyddion cyntaf oedd Elin James, Y Fron, Llambed a finne, Brynhyfryd, Llanwnnen gyda Haydn Lewis, Talgrwn, Llanwnnen yn olygydd chwaraeon.
Y bwrdd busnes oedd Cen Llwyd, T欧'r Ysgol, Talgarreg yn gadeirydd, Ceinwen Roach, 5 Bro Llan, Llanwnnen yn ysgrifenyddes, Handel Evans, Heol y Bryn, Llambed a Robert Thomas, Llain Deg, Cellan yn drysoryddion, Elsie Davies, 19 King's Mead, Llambed yn deipydd ac Eifion Davies, Afallon, Drefach yn ffotograffydd. Plygwyd y papur bryd hynny yn Ysgol y Dolau, Llanybydder gyda chymorth y disgyblion. Diolchwyd i Mr Douglas Williams, Nantoer, Cellan am ei waith celfydd gyda chynllun yr enw Clonc.
Dyma'r math o golofnau a ymddangosodd yn y rhifynnau cyntaf: Maes y Meddyg; Colofn y Dysgwyr; Popian (adolygiadau o ddawnsfeydd gyda bandiau yn yr ardal); Amaethyddiaeth; O gwmpas y t欧; Storws y Beirdd; Cornel y Plant; Llythyron; Natur; Chwaraeon; A ddarlleno ystyried a Sbel yn 么l.
Cyfansoddodd y Parch. T. Glenfil Jones, Llanybydder ddau englyn i groesawu Clonc yn ei golofn Storws y Beirdd.
Hwn rydd ysbonc i'ch cloncian; ac ennyn
Ei gynnwys ymddiddan;
Daw 芒 lles i fywyd llan;
Ein huno yw ei anian.
O eiddil ramant breuddwyd, hwn heddiw,
O'i noddi, wireddwyd;
Rhown wir sbonc i 'Glonc' heb glwyd,
A hwylus groeso aelwyd.
Rhai pethau oedd yn y dyddiadur - Bob nos Fercher am 8 o'r gloch - dosbarth colli pwysau 'Silhouette' yn cwrdd yn Neuadd y Pentref, Drefach.
Cyngerdd yng Nghlwb Rygbi Llanybydder gan Doreen Lewis i godi arian i brynu teledu lliw i Ysgol y Dolau, Dawns gyda Ail-Symudiad yn Neuadd Fictoria, Llambed dan nawdd yr Urdd, Dawns gyda Omega yn Neuadd Blaendyffyn a Gwasanaeth yr Urdd yng Nghapel Soar, Llambed.
Pen blwydd hapus i Clonc yn 25 oed a phob dymuniad da i'r papur.
Oddi wrth un o'i sylfaenwyr.
Nans Davies