大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Penri Roberts Ymddeoliad Penri'r pennaeth
Awst 2004
Ar ddydd Gwener 16eg Gorffennaf, bu Penri Roberts, un o gymeriadau blaenllaw mewn addysg Gymraeg yn y Drenewydd, ymddeol ar 么l cyfnod o ugain mlynedd fel Pennaeth Ysgol Dafydd Llwyd ac Ysgol Hafren.

Wrth edrych yn 么l ar ei gyfnod fel Pennaeth y ddwy ysgol, dywedodd Penri fod ganddo nifer o uchafbwyntiau, ac yn sicr un ohonynt oedd i gael ei benodi yn bennaeth yn Ysgol Gynradd Gymraeg gyntaf yn y Drenewydd. Yr oedd wedi gobeithio gweld y datblygiad hwn ers blynyddoedd, a gwireddwyd y freuddwyd hon ym Medi 2001 yn sgil cynllun sirol i greu ysgol gynradd Gymraeg benodedig yn y dref. Yr oedd yn falch o gefnogi'r cynllun, ac ychwanegodd y bu nifer fawr o bobl mor gefnogol gan greu awyrgylch o gydweithio i sicrhau bod y cynllun hwn yn lwyddiant. Ers y datblygiad hwn, mae Penri wedi cael pleser mawr o weld y ddwy ysgol yn mynd o nerth i nerth.

Uchafbwynt arall iddo oedd yr achlysuron pan enillodd Ysgol Dafydd Llwyd y g芒n actol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy flynedd yn olynol, ac achlysur bythgofiadwy arall oedd gweld plant y ddwy ysgol yn perfformio'r ddawns flodau o'i flaen pan y'i cadeiriwyd yn fardd buddugol yn Eisteddfod Powys ym 1999.

Ceir newidiadau eraill ymysg staff Ysgol Dafydd Llwyd ar ddiwedd y tymor. Penodwyd Si芒n Davies, un o athrawon yr ysgol fel Pennaeth i ddilyn Penri, ac ymddeoliad arall o d卯m yr athrawon yw Mrs Marian Wilson. Bydd Mrs Mererid Lewis, sydd bellach yn bennaeth ysgol Llanfihangel yng Ngwynfa, yn cymryd ei lle ym mis Ionawr.

Er wedi ymddeol erbyn hyn, mae gan Penri nifer o gynlluniau i'w gadw yn brysur yn ei amser hamdden. Ynghyd 芒 Derec Williams a Linda Gittins, bydd yn sefydlu Ysgol Berfformio o fis Medi ymlaen. Hefyd, bydd yn cyfuno un o'i ddiddordebau eraill am brofiad helaeth ym myd addysg trwy gynnal gweithdai barddoni mewn ysgolion, ac hefyd bydd yn parhau i ddarparu gweithdai barddoni i oedolion dan nawdd yr Academi, gyda'r nos.

Dymuna Penri estyn diolch arbennig i'n gymuned, y plant a rhieni'r ddwy ysgol yn ystod ei amser yno am eu cydweithrediad. Pwysleisia fod cyfnifer o bobl wedi gweithio mor galed dros y blynyddoedd yn y ddwy ysgol, a dymuna'n dda i bawb yno ar gyfer y dyfodol.

Dymunwn bob bendith da ichi Penri ar gyfer y dyfodol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy