大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Sioned Elin Hughes yn cael ei choroni Eisteddfod Powys - Cystadleuaeth y Goron
Rhagfyr 2005
Myfyrwraig criminoleg yn ennill y goron yn Eisteddfod Powys, Y Bala a Phenllyn 2005.

Enillwyd Coron Eisteddfod Powys Y Bala a Phenllyn 2005 gan Sioned Elin Hughes, merch Y Parch. a Mrs. Edwin O. Hughes. Mae Sioned ar hyn o bryd yn astudio Cyfraith a Chriminoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac y mae llenydda yn Gymraeg yn gyfle i ymlacio.

Gofynnwyd i'r cystadleuwyr ysgrifennu cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 20,000 o eiriau. Thema cyfrol Sioned oedd 'Gwylio' a chanmolodd y beirniad, Sian Northey, y ffordd gelfydd yr oedd Sioned wedi llunio ac adeiladu'r gwahanol weithiau creadigol yn y gyfrol, gan ddweud ei bod yn llwyr deilyngu'r goron.

Rhoddwyd y goron gan deulu Carndochan, Llanuwchlyn er cof am y diweddar Elin Mair Jones. Roedd Elin Mair wedi bod yn flaenllaw iawn ym mywyd diwylliannol Penllyn. Yr oedd ganddi ddiddordeb brwd mewn llenyddiaeth ac yn y bywyd Celtaidd, ac yr oedd yn delynores ddawnus iawn. Adlewyrchir y diddordebau hyn yng ngwneuthuriad y goron a luniwyd mor gelfydd gan John Price, Machynlleth. Rhoddwyd y wobr ariannol gan Ymddiriedolaeth y Dr. D. Tecwyn Lloyd.

Arweiniwyd Seremoni'r Coroni gan y Derwydd Gweinyddol, Talog. Canwyd C芒n y Coroni gan Ap Meirion (Tegwyn Jones, Machynlleth) a chyfarchwyd y llenor gan Elfyn (Elfyn Pritchard) ac Elwyn Hesgin (Y Prifardd Elwyn Edwards).

Roedd y seremoni'n effeithiol dros ben, a'r Ddawns Flodau yn hyfryd. Llongyfarchiadau i Sioned ar ei llwyddiant, a phob hwyl ar yr ysgrifennu i'r dyfodol.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy