"Nos Iau , Hydref 16eg daeth trigain o bobl ynghyd ag aelodau'r Cyngor Cymunedol ac aelodau Cymdeithas Adloniant Caersws at ei gilydd i ddathlu ac i anrhydeddu chwech o fechgyn lleol sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y flwyddyn 2007 a 2008 i ddod ag anrhydedd Prydeinig yn 么l i Gaersws.
Mae pump ohonynt yn byw yng Nghymuned Caersws a'r chweched ond tafliad carreg i ffwrdd yn Nhalerddig.
Cyflwynwyd tlysau arian i'r chwech gan Les George. Cadeirydd y Cyngor Cymunedol.
Derbynwyr y tlysau oedd:
BRENDON LLOYD:
Mae Brendon yn Bencampwr Prydeinig , am chwarae Coets. Enillodd Brendon y teitl yn Stonehaven, Swydd Aberdeen, Yr Alban. Enillodd hefyd bencampwriaeth Cymru, ac mae wedi bod yn aelod o d卯m Cymru ugain o weithiau a'r t卯m hynny erioed wedi colli pan fu Brendon yn aelod ohonno.
RUSSELL OWEN:
Pencampwr Prydeinig yn y maes pysgota yw Russell. Enillodd Russell ei deitl ar Lyn Monteith yn yr Alban lle'r oedd pedwar ar ddeg o gystadleuwyr o bob un o'r gwledydd Prydeinig, Cymru, yr Iwerddon, Lloegr a'r Alban. Mae yntau wedi bod yn aelod o d卯m Cymru bump o weithiau ac wedi ennill medal arian ddwy waith. Mae wedi bod yn gapten ar y t卯m Cymreig, ac mae ei bartner, Sam wedi ennill pencampwraig Cymru yng nghystadleuaeth i'r merched. Enillodd Russell bencampwriaeth y Byd yn British Columbia yn 1993.
SIMON BROWN A GRAHAM JONES:
Simon sy'n dod o Gaersws a Graham o Dalerddig ydy Pencampwyr Prydain yn rasus yr "ACU Enduro Sidecar". Simon sydd yn y sidecar a Graham yn gyrru'r beic modur. Mae Simon wedi ennill y gystadleuaeth yma o'r blaen pan oedd yn cyd gystadlu gyda Chris Smout, bachgen arall o Gaersws. Eleni mae Simon a Graham wedi ennill y Bencampwrieth ar 么l dod yn ail agos y ddwy flynedd ddiwethaf.
Cynhaliwyd y rownd olaf yn Petersfield yn Lloegr, Cyfarfod dau ddiwrnod oedd hwn, ond ni fu raid i Simon a Graham gysatdlu ar yr ail ddiwrnod gan eu bod wedi ennill digon o bwyntiau i dderbyn y teitl ar y diwrnod cyntaf. Bu'r ddau yn cymryd rhan mewn ras noddedig ar draethau Weston Super Mere yn ddiwddar ac fe gododd y ddau 拢416 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.
Hoffai Simon a Graham ddiolch i bawb sydd wedi eu cynorthwyo ar y ffordd gyda'r cystadlu.
DAVID LLOYD JONES:
Dechreuodd David gystadlu pan yn bymtheg oed, ac wedi ennill amryw o gystadlaethau lleol mae wedi teithio ymhellach ac yn awr wedi ennill yr Enduro Prydeinig, ar ei feic modur. Roedd y cystadlu eleni dros naw o wahanol rasus, ond roedd David wedi ennill y teitl yn y seithfed ras.
CALLUM STEPHEN:
Peidiwch gofyn i fi gyfieithu tasg Callum, ond fe ydy pencampwr Prydeinig yn yr adran iau dan un ar bymtheg oed yn y gystadleuaeth Tae Kwon-Do. Dim ond pedair ar ddeg oed ydy Callum. Enillodd y Belt Du pan yn ddeg oed un o'r ieuengaf ym Mhrydain i wneud .
Breuddwyd Callum ydy cael cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.
Pob lwc iddo.
Wel fel y gallwch ddychmygu roedd pawb oedd yn bresennol yn ymfalchio yn llwyddiant anhygoel y bechgyn yma, ac fe gafwyd noson fendigedig yn eu cwmni.
Llongyfarchiadau i chi gyd ac fe fyddwn yn edrych 'mlaen yn awr i glywed mwy o hanesion eich llwyddiannau.
Paratowyd lluniaeth blasus iawn gan ferch lleol sydd wedi dechrau ei busnes ei hun - Lisa's Pantry. Diolch yn fawr iddi hithau .
Mae pentref Caersws yn gallu ymfalchio yn ei ieuenctid a'u gallu i ddisgleirio yn eu gwahanol feysydd.
Daliwch ati fechgyn mae'r gymuned tu cefn i chi."