Daeth nifer fawr ynghyd i gyd addoli a chanu carolau yn null traddodiadol y Plygain.
Cyd ganwyd Carol i ddechrau ac arweiniwyd ni mewn gweddi a darlleniad o'r ysgrythur gan y Parch Edwin Hughes. Yr organydd oedd Bryn Davies.
Agorwyd y Plygain gan gr诺p o ferched o Gymdeithas Gymraeg, Llanidloes.
Dilynwyd hwy gan ddeuawd gan Bryn Davies a'r Parchedig Emrys Wyn Evans, gyda Julie Davies wrth y piano.
Cafwyd nifer o ddeuawdau ac unawdau gan bobl Ileol, Martha Lewis, Owen Lloyd Jones, Hywel Anwyl a Dorothy Morris.
Daeth criw o fechgyn o ardal Trallwng i gymryd rhan ac hefyd criw o Benrhyncoch ger Aberystwyth.
Cafwyd deuawd hefyd gan Rhiannon Evans a Trefor Pugh o Benrhyncoch. Ar 么l i bawb gyd ganu Carol daeth pawb yn 么l i berfformio Carol arall yn yr ail hanner. Diolchwyd i bawb gan y Parch Edwin Hughes, ac yn arbennig i Bryn a Julie Davies am addurno'r capel mor ddestlus. Cyhoeddwyd y fendith gan Edwin Hughes, ac fe ddaeth y dynion i gyd ymlaen i gyd ganu Carol y Swper.
Paratowyd lluniaeth yn y festri gan aelodau'r Gymdeithas Gymraeg.
|