Dathlwyd ailagor Capel y Crescent yn Y Drenewydd, gyda nifer o weithgareddau yn ystod yr wythnos 6 Medi hyd y 13 Medi.
Cynhaliwyd gwasanaethau arferol am 9.30 ac 11.00 o'r gloch ar y Sul cyntaf. Roedd Dydd Llun yn Ddiwrnod Agored, a gwahoddwyd y cyhoedd i weld y capel ar ei newydd wedd, i fwynhau paned a sgwrs ac i wrando ar yr organ. Daeth dros 200 o bob! drwy'r drws yn ystod y dydd a phawb yn synnu a rhyfeddu wrth weld y newid.
Cafwyd Bore Coffi Ddydd Mercher, gyda noson I blant a phobl ifanc a'u rhieni yn yr hwyr. Daeth
Gr诺p Roc Ysgol Dafydd Llwyd i'w 'gig' cyntaf, ac yn absenoldeb Aled Myrddin, oherwydd gwaeledd, daeth Y Parch. Bob Pithcher, Llanidloes, atom i ganu caneuon 'rhythm a blues' crefyddol.
Treuliwyd amser yn cynnal cwis Beiblaidd, a bu'n noson ddifyr dros ben.
Daeth Nia Williams o Goleg y Bala i gynnal sesiynnau gyda plant Ysgol Dafydd Llwyd a phlant Ysgol Penygloddfa. Thema'r sesiynnau oedd 'adeiladu' ac yr oedd ymateb y plant yn dangos yn eglur iddyn nhw fwynhau eu hymweliad a'r ganolfan.
Nos Wener oedd noson "Y Gwasanaeth Agoriadol", ac yr oedd y capel yn Ilawn. Cafwyd oedfa hyfryd, a neges gref a heriol gan Y Parch. Ddr. Elfed ap Nefydd Roberts. Roedd y cyfan yn fendithiol lawn.
Bu priodas Sarah Jayne Astley a Jonathan Davies Ddydd Sadwrn, ac yr oedd hynny yn ychwanegiad hapus iawn i'r dathliadau. Pob bendith i'r ddau yn eu bywyd priodasol.
Yna, ddydd Sul 13 Medi cafwyd tair oedfa. Yn y bore cynhaliwyd Oedfa Saesneg, dan ofal Y Parch. Emrys Wyn Evans, Caersws, ac yn y prynhawn pregethodd Emrys yn Gymraeg. Yn yr hwyr cynhaliwyd Gwasanaeth Cymun Ddwyieithog dan ofal y Gweinidog.
Bu'r wythnos gyfan yn Ilwyddiant, a diolch i bawb am eu diddordeb, eu cefnogaeth a'u dymnuniadauda a'u gweddiau.
|